Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Llun, 21ain Tachwedd, 2022 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J. Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan C. Davies

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Gareth Thomas

9 - Cais am Ollyngiad gan y Cynghorwyr Jean Lewis, Ann Davies, Gareth Beynon Thomas, Ken Howell, Hefin Jones, Arwel Davies, Mansel Charles, Tyssul Evans, Linda Davies Evans, Andrew Davies, Bryan Davies, Hazel Evans ac Elwyn Williams

Mae'r Cynghorydd Thomas yn un o'r rhai sy'n gwneud cais am ollyngiad.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD A GYNHALWYD AR:

Dogfennau ychwanegol:

3.1

25AIN AWST 2022; pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 25 Awst, 2022 yn gywir,

3.2

14EG HYDREF 2022; pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 14 Hydref, 2022 yn gywir,

3.3

26AIN HYDREF 2022. pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 26 Hydref, 2022 yn gywir,

4.

CANLLAWIAU GOLLYNGIAD. pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn ei gyfarfod ar 13 Mehefin, 2022, wrth benderfynu ar geisiadau am ollyngiad ar gyfer materion ffermio ac amaethyddol yn gyffredinol a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin a ledled rhanbarth De-orllewin Cymru, wedi gofyn am ganllawiau pellach mewn perthynas â cheisiadau o'r fath o ystyried pa mor eang y gallent fod o ran natur, cwmpas ac effaith.

 

Yn unol â'r cais hwnnw, cafodd y pwyllgor adroddiad ar ddeddfwriaeth a chanllawiau a nododd nad oedd Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 yn cynnig unrhyw ganllawiau deddfwriaethol neu statudol penodol ar y pwnc, dim ond yn pennu ar ba sail y gellid caniatáu gollyngiad, fel y nodir yn y ffurflen gais am ollyngiad. Fodd bynnag, roedd canllawiau a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar Gôd Ymddygiad yr Aelodau yn datgan ym mharagraff 3.64:-

 

"Bydd angen i'r Pwyllgor Safonau gydbwyso budd y cyhoedd o ran atal aelodau sydd â buddiannau rhagfarnus rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau, yn erbyn budd y cyhoedd mewn penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan gr?p gweddol gynrychioliadol o aelodau'r awdurdod."

 

O ystyried yr uchod, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd dull y pwyllgor yn y gorffennol o benderfynu ar geisiadau am ollyngiad fesul achos, â rhagdybiaeth o blaid caniatáu ceisiadau, lle bynnag y bo'n ymarferol, yn enwedig mewn perthynas â chaniatáu gollyngiad i siarad yn unig, ond yn dangos arferion da a'i fod yn unol â'r canllawiau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN GYNGHORWYR CYNGOR CYMUNED GORS-LAS SEF S. D. MARTIN, R. JAMES, N. LEWIS, E .GOLDSMITH. pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan Glerc Cyngor Cymuned Gors-las, ar ran y Cynghorwyr Cymuned S.D. Martin, R. James, N. Lewis ac E. Goldsmith am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio mewn perthynas â'u swyddogaeth fel llywodraethwyr ysgol yn yr ysgolion canlynol o fewn ardal weinyddol y Cyngor Cymuned:-

 

Ysgol Cefneithin – Y Cynghorwyr S.D. Martin ac R. James

 

Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Cymunedol Drefach a Cross Hands - Y Cynghorydd N. Lewis

 

Ysgol Gynradd Gymunedol Gorslas – Y Cynghorydd E. Goldsmith

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud gan fod gan bob un o'r 4 cynghorydd fuddiant personol yn y materion hyn yn unol â pharagraff 10(2)(a)(ix)(aa) o'r Côd, ac y byddai gollyngiad o'r fath yn galluogi'r cynghorwyr dan sylw i gymryd rhan ym musnes y cyngor yn ymwneud â'r ysgolion ac na fyddai'n niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y gweithredid y busnes hwnnw.

 

Nodwyd, er bod esemptiad ym mharagraff 12(2)(a)(iv) o'r Côd yn ymwneud â llywodraethwyr ysgol, na fyddai hynny'n gymwys pe bai'r busnes yn ymwneud â'r ysgol benodol lle roedd y Cynghorydd yn llywodraethwr.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2(d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001, i'r Cynghorwyr S.D. Martin, R. James, N. Lewis ac E. Goldsmith SIARAD A PHLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Gors-las mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau am eu swyddogaeth fel llywodraethwyr Ysgol Cefneithin, Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Cymunedol Drefach a Cross Hands ac Ysgol Gynradd Gymunedol Gorslas, a hynny o fewn ardal weinyddol y Cyngor Cymuned tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

 

6.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN GYNGHORWYR CYNGOR CYMUNED GORS-LAS SEF D. W. EDWARDS, C. GREEN, T. JUKES, N. LEWIS, A. KING. pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan Glerc Cyngor Cymuned Gors-las, ar ran y Cynghorwyr Cymuned D.W. Edwards, C. Green, T. Jukes, N. Lewis ac A. King am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Gors-las mewn perthynas â materion yn ymwneud â dwy gymdeithas les yn ardal weinyddol y cyngor.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud am fod gan bob un o'r 5 cynghorydd fuddiant personol yn y materion hyn o dan baragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o Gôd yr Aelodau gan eu bod yn aelodau o Bwyllgorau'r Cymdeithasau Lles oedd yn gysylltiedig â chynnal y parciau hynny. Byddai'r gollyngiad, pe bai'n cael ei ganiatáu, yn galluogi'r Cynghorwyr i gymryd rhan ym musnes y cyngor yn ymwneud â'u cymdeithasau lles priodol ac ni fyddai'n niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y gweithredid y busnes hwnnw a bod y buddiant yn ymwneud â sefydliad gwirfoddol yr oedd gan y Cynghorwyr rôl reoli ynddo a dim buddiant personol arall.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol i'r pum aelod o Gyngor Cymuned Gors-las a nodir uchod SIARAD A PHLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Gors-las mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau ynghylch y ddwy gymdeithas les yn ardal weinyddol y Cyngor o dan Reoliadau 2(d) (f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau

7.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD SHAREN DAVIES. pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan y Cynghorydd Sharen Davies, aelod o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Gwledig Llanelli, am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad, pleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Thrafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10 (2)(a) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan mai Trafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi oedd ei chyflogwyr.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd  Sharen Davies SIARAD A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Gwledig Llanelli mewn perthynas ag unrhyw fater i'r Cyngor yn ymwneud â Thrafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

8.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS. pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Edward Thomas am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad yn unig mewn perthynas â materion yn ymwneud â chais am grant a gyflwynwyd gan Tregib Sports Facilities Limited, cwmni cyfyngedig nid-er-elw sy'n cynnal y cyfleusterau chwaraeon ar Safle Tre-gib, a fyddai'n cael ei gyflwyno i gyfarfod cabinet i'w ystyried.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Thomas fuddiant personol yn y mater hwn gan ei fod yn un o Gyfarwyddwyr Tregib Sports Facilities Ltd a oedd yn swydd wirfoddol ddi-dâl.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) (f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Edward Thomas SIARAD YN UNIG ar unrhyw faterion y Cyngor yn ymwneud â Tregib Sports Facilities Ltd a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

9.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORWYR JEAN LEWIS, ANN DAVIES, GARETH BEYNON THOMAS, KEN HOWELL, HEFIN JONES, ARWEL DAVIES, MANSEL CHARLES, TYSSUL EVANS, KIM BROOM, LINDA DAVIES EVANS, ANDREW DAVIES, BRYAN DAVIES, HAZEL EVANS AC ELWYN WILLIAMS pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd Gareth Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod].

 

Cyn ystyried y cais am ollyngiad cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol at gynnwys enw'r Cynghorydd Kim Broom yn y rhestr o aelodau a oedd yn ceisio gollyngiad ar Grynodeb Gweithredol yr adroddiad a dywedodd ei bod wedi'i chynnwys mewn camgymeriad ac nad oedd yn un o'r Cynghorwyr oedd yn ceisio gollyngiad.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ceisiadau a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Sir Jean Lewis, Ann Davies, Gareth Beynon Thomas, Ken Howell, Hefin Jones, Arwel Davies, Mansel Charles, Tyssul Evans, Linda Davies Evans, Andrew Davies, Bryan Davies, Hazel Evans ac Elwyn Williams am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio mewn perthynas â Rhybudd o Gynnig arfaethedig ynghylch profion TB a fyddai'n cael ei ystyried yn un o gyfarfodydd nesaf Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Dywedwyd bod y cais wedi'i wneud gan bob Cynghorydd am fod ganddynt fuddiant personol a rhagfarnol mewn mater o'r fath gan eu bod i gyd yn ffermwyr (neu'n perthyn i ffermwyr) a oedd yn cadw gwartheg ac felly roedd ganddynt gysylltiad â threfniadau'r profion TB.

 

Nododd y Pwyllgor ei fod wedi rhoi gollyngiad i'r aelodau hyn yn y gorffennol i siarad, ond nid pleidleisio, mewn perthynas â ffermio/amaethyddiaeth yn gyffredinol. Roedd y gollyngiad hwnnw'n destun amod sef nad oedd yn berthnasol i faterion y cyngor a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â'r fferm neu'r tir amaethyddol neu'r gweithgaredd penodol a achosodd fuddiant personol y cynghorwyr. Yn unol â'r amod hwnnw, roedd swyddog monitro'r Cyngor wedi nodi na fyddai'r gollyngiad blaenorol yn caniatáu i'r aelodau perthnasol gymryd rhan yn y drafodaeth ar y Rhybudd o Gynnig dan sylw ac, felly, byddai angen gofyn am ollyngiad mwy penodol.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorwyr Jean Lewis, Ann Davies, Gareth Beynon Thomas, Ken Howell, Hefin Jones, Arwel Davies, Mansel Charles, Tyssul Evans, Linda Davies Evans, Andrew Davies, Bryan Davies, Hazel Evans ac Elwyn Williams SIARAD, PLEIDLEISIO A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â Rhybudd o Gynnig arfaethedig yn ymwneud â phrofion TB i'w ystyried yn un o gyfarfodydd nesaf y Cyngor Sir a bod y gollyngiad yn cael ei ganiatáu tan ddiwedd blwyddyn presennol y cyngor, h.y. 31 Mawrth 2023.

10.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD ALEX EVANS. pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Alex Evans am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i wneud sylwadau ysgrifenedig ynghylch gwelliannau i'r ffordd sydd eu hangen yn Heol y Pentre, Pont-henri.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Evans fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn o ran busnes y Cyngor yn ymwneud â'r ffordd honno neu'n debygol o effeithio arni gan ei fod yn byw yno.

 

Wrth ystyried natur y cais, roedd y Pwyllgor wedi rhoi sylw i rôl cynghorwyr yn y gymuned ac roedd o'r farn y byddai'n glodwiw ymestyn cwmpas y gollyngiad er mwyn galluogi'r Cynghorydd Evans i siarad ar y pwnc hefyd.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Alex Evans SIARAD A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG yn unig mewn perthynas â busnes y Cyngor sy'n ymwneud â Heol y Pentre, Pont-henri neu'n debygol o effeithio arni, a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

11.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD JOHN JENKINS. pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd John Jenkins, aelod o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad, pleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion y Cyngor yn ymwneud â darparu gofal cartref neu wasanaeth dydd ar gyfer oedolion ag anawsterau dysgu.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Jenkins fuddiant personol a rhagfarnol o ran busnes y Cyngor yn ymwneud â materion o'r fath gan ei fod yn gweithio i gwmni a gontractiwyd gan y Cyngor i ddarparu gwasanaethau o'r fath.

 

Pe bai gollyngiad yn cael ei ganiatáu, roedd y Cynghorydd Jenkins wedi dweud pe bai unrhyw drafodaeth benodol yn cael ei chynnal yn ymwneud â'i gyflogwr y byddai'n datgan buddiant ac yn gadael y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried.

 

Yn dilyn trafodaeth:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd John Jenkins SIARAD, a gwneud SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli mewn perthynas â materion y Cyngor yn ymwneud â darparu gofal cartref neu wasanaeth dydd ar gyfer oedolion ag anawsterau dysgu a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

12.

CYDYMFFURFIAETH Â'R CÔD YMDDYGIAD GAN GYNGHORWYR TREF A CHYMUNED 2021-2022. pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â'r arfer blaenorol, cafodd y Pwyllgor adroddiad am yr ymarfer blynyddol i gasglu data cydymffurfio â'r côd gan Gynghorau Tref a Chymuned. Nodwyd bod llythyrau wedi'u hanfon at bob Cyngor Tref a Chymuned ym mis Ebrill 2022 yn gofyn iddynt ddarparu gwybodaeth ynghylch cydymffurfio â'r côd ymddygiad yn ystod blwyddyn flaenorol y cyngor (1 Ebrill 2021 – 31 Mawrth 2022). Nid oedd 6 o'r cynghorau wedi ymateb erbyn diwedd mis Awst ac roedd trefniadau wedi'u gwneud i gysylltu â nhw dros y ffôn.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol at fformat diwygiedig yr adroddiad o'i gymharu â'r hyn a gynhyrchwyd mewn blynyddoedd blaenorol, a luniwyd gan ddefnyddio Meddalwedd Arolwg Snap ac awgrymodd, pe bai'r Pwyllgor yn cymeradwyo'r fformat, y gallai drefnu i ymarferion blynyddol yn y dyfodol gael eu cynnal gan ddefnyddio'r feddalwedd honno. Gallai hefyd drefnu i adroddiadau yn y dyfodol gynnwys dadansoddiad y flwyddyn flaenorol fel cymhariaeth a gellid gwneud yr un peth ar gyfer Hyfforddiant Côd Ymddygiad.

 

Mynegwyd barn y byddai hefyd yn fanteisiol pe gallai'r siartiau sydd ynghlwm â'r adroddiad gael eu rhoi i'r Cynghorau Tref a Chymuned iddynt weld nifer y datganiadau sy'n cael eu gwneud ledled y sir.

 

Cyfeiriwyd at rôl ddeuol Aelodau'r Cyngor Sir wrth fynychu cyfarfodydd Cyngor Tref a Chymuned lle roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i Bolisi Trosglwyddo Asedau'r Cyngor a dywedwyd y dylent fod yn datgan buddiant yn y cyfarfodydd hynny. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n cysylltu â swyddog monitro'r Cyngor ynghylch rhoi cyngor o'r fath i'r aelodau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

12.1

Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran cael data gan Gynghorau Tref a Chymuned.

12.2

Bod ymarferion blynyddol yn y dyfodol i gasglu data cydymffurfio â'r Côd Ymddygiad gan Gynghorau Tref a Chymuned yn cael eu cynnal gan ddefnyddio'r Feddalwedd Arolwg Snap.

 

13.

HYFFORDDIANT CÔD YMDDYGIAD. pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar Hyfforddiant Côd Ymddygiad gan y Cyngor yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022 a nododd fod y sesiynau canlynol wedi'u cynnal:

 

17 Mai 2022 – Cynghorwyr Sir (38 yn bresennol)

4 Gorffennaf 2022 – Cynghorwyr Tref a Chymuned (42 yn bresennol)

27 Gorffennaf 2022 – Cynghorwyr Tref a Chymuned (46 yn bresennol)

 

Hefyd nodwyd bod materion o ran y Côd Ymddygiad wedi'u cynnwys mewn sesiwn hyfforddi ar wahân ar 23 Mai, 2022 ar gyfer Cynghorwyr Sir ynghylch materion o ran y cyfansoddiad a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd a bod 29 o gynghorwyr yn bresennol yn y sesiwn hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

14.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.