Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Nodyn: Wride Meeting 2
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mrs D. Evans, Aelod Annibynnol.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
|
|
ADOLYGIAD CYN GWRANDAWIAD MEWN PERTHYNAS AG ADRODDIAD A GYHOEDDWYD GAN OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU YN YMWNEUD Â'R CYNGHORYDD TREF LOUISE WRIDE Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol a gwybodaeth sy'n debygol o ddatgelu pwy oedd unigolyn (Paragraffau 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn ystod y cam cychwynnol hwn o broses dau gam yn ymyrraeth ormodol a heb gyfiawnhad i fywyd preifat a theuluol y Cynghorydd a thrydydd partïon eraill y cyfeirir atynt yn yr adroddiad.
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Tref Louise Wride a Ms Sinead Cook o Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r cyfarfod.
Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod ystyriaeth gychwynnol wedi'i rhoi i'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â'r Cynghorydd Tref Louise Wride, yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 25 Awst. Yn y cyfarfod hwnnw penderfynodd y Pwyllgor roi cyfle i'r Cynghorydd Wride gyflwyno sylwadau i'r Pwyllgor mewn perthynas â chanfyddiadau'r ymchwiliad.
Prif bwrpas yr Adolygiad Rhagwrandawiad oedd ystyried cais y Cynghorydd Wride am i’r gwrandawiad terfynol gael ei glywed yn breifat. Nodir y ddeddfwriaeth berthnasol yn Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac mae'n cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried mater yn breifat lle mae'n cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn penodol (paragraff 12) a gwybodaeth sy'n debygol o ddatgelu pwy yw unigolyn (paragraff 13). Mae'r ddwy sail hyn yn destun prawf ehangach o ran budd y cyhoedd.
Gwahoddwyd Ms Cooke o Swyddfa'r Ombwdsmon i annerch y Pwyllgor a rhoddodd ychydig o gefndir a chyd-destun ynghylch yr achos.
Yna gwahoddwyd y Cynghorydd Wride i annerch y Pwyllgor yngl?n â chamau pellach yr achos.
Esboniodd y Dirprwy Swyddog Monitro, pe bai'r Pwyllgor yn penderfynu cynnal y cam nesaf yn gyhoeddus, y byddai'n dal yn bosibl i'r Pwyllgor gynnal sesiwn breifat pe baent yn barnu bod hynny'n angenrheidiol.
Yn dilyn trafodaeth hir,
PENDERFYNWYD, yn unol â'r gofyniad i fod yn agored ac yn dryloyw mewn perthynas â'r dyletswyddau a wneir gan y Pwyllgor Safonau, fod gwrandawiad terfynol yr achos mewn perthynas â'r Cynghorydd Tref Louise Wride yn cael ei gynnal yn gyhoeddus gan roi sancsiynau ar waith i alluogi'r Pwyllgor i gynnal sesiwn breifat pe bai hynny'n cael ei farnu'n angenrheidiol.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys i'w hystyried.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 & 13 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraffau 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|