Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Llun, 12fed Gorffennaf, 2021 2.00 yp

Lleoliad: Remote Meeting - ,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G.B. Thomas.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

LOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 14 MEHEFIN 2021. pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2021, gan eu bod yn gywir.

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD P COMLEY pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cymuned Peter Comley am ollyngiad o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig, ond nid pleidleisio, ar faterion yn ymwneud â Chlwb Rygbi'r Betws yn talu rhent i Gyngor Cymuned Betws.

 

Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod fod y cais am ollyngiad wedi ei gyflwyno am fod gan y Cynghorydd Comley fuddiant rhagfarnol a phersonol yn y mater hwn gan ei fod yn Ysgrifennydd, yn Drysorydd ac yn Drwyddedai ar gyfer Clwb Rygbi'r Betws ac yn aelod o Bwyllgor y clwb hefyd, ac felly, byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd. Gan hynny, roedd y Cynghorydd Comley wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Yn dilyn trafodaeth:-

 

PENDERFYNWYD

 

 

4.1

Caniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Peter Comley siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig, ond nid pleidleisio, yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned y Betws mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chlwb Rygbi'r Betws yn talu rhent i Gyngor Cymuned y Betws

4.2

Caniatáu cyfnod y gollyngiad tan ddiwedd cyfnod presennol y Cynghorydd Comley yn y swydd sef yr etholiadau llywodraeth lleol ym mis Mai 2022

 

5.

ADOLYGIAD O'R POLISI DATGELU CAMARFER pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â chofnod 5 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin, 2021 rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad ynghylch y newidiadau arfaethedig canlynol i Bolisi Datgelu Camarfer cymeradwy'r Cyngor gyda'r nod o wella prosesau ac adlewyrchu profiadau diweddar:-

 

·       Paragraff 20 newydd yn ymdrin â chwynion datgelu camarfer gan weithwyr Cwmnïau Masnachu Awdurdod Lleol y Cyngor. (Sylwer: Os caiff hyn ei gymeradwyo, bydd yn achosi i'r paragraffau dilynol gael eu hailrifo yn unol â hynny)

·       Newid i'r siart llif yn Atodiad A i ddangos bod y ffurflen adborth yn cael ei hanfon i'r rheiny a oedd yn datgelu camarfer gan y Swyddog Cyswllt yn hytrach na'r Swyddog Monitro

·       Newid i'r ffurflen adborth gan gynnwys manylion cyswllt e-bost ar gyfer lle y dylid ei hanfon.

 

Gan ymateb i gwestiwn ynghylch pa mor briodol yw cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Safonau ar y rhestr o bobl y gellir cysylltu â nhw o fewn y Polisi, awgrymodd y Swyddog Monitro y gallai hi a Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ystyried y pwyntiau a godwyd gan yr aelodau ac yna adrodd yn ôl yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

5.1

bod y newidiadau i Bolisi Datgelu Camarfer y Cyngor yn cael eu cymeradwyo.

5.2

bod adroddiad yn cael ei gyflwyno yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol ynghylch pa mor briodol yw cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Safonau ar y rhestr o bobl y gellir cysylltu â nhw o fewn y Polisi

 

6.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.