Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Safonau - Dydd Llun, 3ydd Mawrth, 2025 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mr F. Phillips.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 9FED RHAGFYR 2024 pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2024 gan eu bod yn gywir.

4.

ADOLYGU COFNOD O GAMAU GWEITHREDU'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn manylu ar yr hyn a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

Mewn perthynas â'r gweithgarwch (DPSC-221) mewn perthynas hyfforddiant côd ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Sir, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y dyddiad a drefnwyd yn wreiddiol wedi'i ganslo gan nad oedd llawer o'r aelodau ar gael. Yn unol â hynny, cytunwyd y byddai dyddiad pellach yn cael ei drefnu i'r holl aelodau maes o law.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

4.1

dderbyn yr adroddiad;

 

4.2

bod dyddiad pellach ar gyfer hyfforddiant ynghylch y côd ymddygiad yn cael ei drefnu ar gyfer cynghorwyr sir.

 

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD DAVID NICHOLAS pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir David Nicholas am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad, pleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas ag unrhyw eitem ar agenda y Pwyllgor Cynllunio y mae Cyngor Cymuned Llandybïe wedi gwneud sylw arni neu ei gwrthwynebu.

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Nicholas wedi'i gyflogi gan y Cyngor Cymuned fel clerc ac felly y byddai ganddo fuddiant personol mewn eitemau o'r fath o fusnes y Cyngor. Yn unol â hynny, gallai aelod o'r cyhoedd, gan wybod am y cysylltiad hwn ddod i'r casgliad yn rhesymol y byddai'n dylanwadu ar farn y Cynghorydd Nicholas wrth ystyried ceisiadau cynllunio o'r fath.

 

Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod bod y Cynghorydd Nicholas wedi gwneud cais am ollyngiad yn rhinwedd y canlynol:

 

  • Rheoliad 2(2)(ch) – mae natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal;

 

  • Rheoliad 2(2)(dd) - mae cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod sefyllfa'r Cynghorydd Nicholas yn debyg i gynghorwyr sy'n aelodau o gyngor cymuned yn ogystal â'r Cyngor Sir, a fyddai'n gallu siarad a phleidleisio ar eitemau agenda o'r fath.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Nicholas y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2(2)(d) a 2(2)(f) o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd David Nicholas siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y Cyngor mewn perthynas ag unrhyw eitem agenda'r Pwyllgor Cynllunio y mae Cyngor Cymuned Llandybïe wedi gwneud sylw yn ei chylch neu ei gwrthwynebu, ac y byddai'r gollyngiad yn ddilys hyd at ddiwedd y tymor etholiadol presennol.

6.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD SHAREN DAVIES pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Sharen Davies am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad, pleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y Cyngor ynghylch clwb Chymdeithasol a Chwaraeon y Bryn a'r Trallwm neu sy'n debygol o effeithio arno.

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol ynghylch eitemau o'r fath o fusnes y cyngor gan ei bod yn aelod o'r clwb. Yn unol â hynny, gallai aelod o'r cyhoedd, gan wybod am y cysylltiad hwn ddod i'r casgliad yn rhesymol y byddai'n dylanwadu ar farn y Cynghorydd Davies wrth ystyried busnes o'r fath.

 

Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod bod y Cynghorydd Davies wedi gwneud cais am ollyngiad yn rhinwedd y canlynol:

 

  • Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal;

 

  • Rheoliad 2(2)(e) - roedd y buddiant yn gyffredin i'r aelod ac i gyfran arwyddocaol o'r cyhoedd; ac

 

  • Rheoliad 2(2)(h) - roedd y busnes sydd i'w ystyried yn berthnasol i arian neu eiddo corff gwirfoddol y mae'r aelod yn aelod o'i bwyllgor neu ei fwrdd rheoli ac nad oes gan yr aelod unrhyw fuddiant arall yn y busnes.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd y tir mewn perthynas â Rheoliad 2(2)(e) yn berthnasol gan nad oedd yn effeithio ar gyfran sylweddol o'r cyhoedd. Hefyd, atgoffwyd y Pwyllgor y byddai'r sail sy'n ymwneud â Rheoliad 2(2)(h) yn atal y Pwyllgor rhag rhoi gollyngiad i bleidleisio.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Davies, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Rheoliad 2(2)(d) ac (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Sharen Davies siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y Cyngor mewn perthynas â chlwb Cymdeithasol a Chwaraeon y Bryn a'r Trallwm neu sy'n debygol o effeithio arno, ac y byddai'r gollyngiad yn ddilys hyd at ddiwedd y tymor etholiadol presennol.

 

7.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD SHAREN DAVIES pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Sharen Davies am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad, pleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas ag unrhyw fusnes y Cyngor ynghylch Fforwm Llwynhendy Pemberton neu fusnes a fyddai'n debygol o effeithio arno.

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol mewn eitemau o'r fath o fusnes y Cyngor gan ei bod yn aelod o'r Fforwm ac yn gwasanaethu fel ei ysgrifenyddes. Yn unol â hynny, gallai aelod o'r cyhoedd, gan wybod am y cysylltiad hwn ddod i'r casgliad yn rhesymol y byddai'n dylanwadu ar farn y Cynghorydd Davies wrth ystyried busnes o'r fath.

 

Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod bod y Cynghorydd Davies wedi gwneud cais am ollyngiad yn rhinwedd y canlynol:

 

  • Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal;

 

  • Rheoliad 2(2)(e) - roedd y buddiant yn gyffredin i'r aelod ac i gyfran arwyddocaol o'r cyhoedd; a

 

  • Rheoliad 2(2)(h) - roedd y busnes sydd i'w ystyried yn berthnasol i arian neu eiddo corff gwirfoddol y mae'r aelod yn aelod o'i bwyllgor neu ei fwrdd rheoli ac nad oes gan yr aelod unrhyw fuddiant arall yn y busnes.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd y tir mewn perthynas â Rheoliad 2(2)(e) yn berthnasol gan nad oedd yn effeithio ar gyfran sylweddol o'r cyhoedd. Hefyd, atgoffwyd y Pwyllgor y byddai'r sail sy'n ymwneud â Rheoliad 2(2)(h) yn atal y Pwyllgor rhag rhoi gollyngiad i bleidleisio.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Davies, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliad 2(2)(d) ac (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Sharen Davies siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y Cyngor mewn perthynas â Fforwm Llwynhendy Pemberton neu sy'n debygol o effeithio arno, a byddai'r gollyngiad yn ddilys hyd at ddiwedd y tymor etholiadol presennol.

8.

HYFFORDDIANT YNGHYLCH Y CÔD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â chylch gorchwyl y Pwyllgor Safonau, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad ynghylch darparu hyfforddiant Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned ar gyfer 2025.

 

Dywedwyd bod y dull a fabwysiadwyd gan y Pwyllgor ar gyfer 2024 yn ymddangos i weithio'n dda ac felly mae trefniadau tebyg wedi'u cynnig ar gyfer 2025, fel a ganlyn:

 

·       Cynhelir y sesiwn ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf, a bydd y dyddiad yn cael ei gadarnhau.

·       Cynhelir y sesiwn yn ystod oriau gwaith drwy Zoom.

·       Bydd y sesiwn yn cael ei recordio a bydd y recordiad ar gael i gynghorau i'w ddosbarthu i'w haelodau ynghyd â chopïau o'r deunyddiau hyfforddi.

·       Bydd y sesiwn yn seiliedig ar y deunyddiau hyfforddi a ddefnyddiwyd yn 2024 ond wedi'u diweddaru i adlewyrchu Penderfyniadau diweddaraf y Panel Dyfarnu.

·       Bydd y sesiwn yn cael ei hysbysebu i bob Cynghorydd Sir, gan gynnwys y rhai nad oeddent hefyd yn aelodau o Gyngor Tref neu Gymuned.

 

Wrth ystyried y trefniadau hygyrchedd, mynegodd y Pwyllgor y dylid ystyried cynnal sesiwn yn gynnar yn y nos, i ddechrau am 6.00pm mewn ymdrech i gynyddu lefelau presenoldeb a chyfranogiad i'r eithaf.  Yn unol â hynny, cymeradwyodd y Pwyllgor fod Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn bwrw ymlaen ag amseriad yr hyfforddiant fel y mae'n ystyried yn briodol ar ôl ystyried materion adnoddau a logistaidd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r trefniadau ar gyfer y sesiwn hyfforddi ynghylch y côd ymddygiad a ddarperir ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned, fel y manylir yn yr adroddiad ond yn amodol ar archwilio'r dichonoldeb ar gyfer amser dechrau yn gynnar yn y nos.

9.

YMARFER BLYNYDDOL AR DDATA'R CÔD pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol adroddiad lle atgoffwyd y Pwyllgor y gofynnir bob blwyddyn i Gynghorau Tref a Chymuned ddarparu data ynghylch cydymffurfiaeth eu haelodau â'r côd ymddygiad ac roedd yr ymatebion a ddaeth i law yn cael eu cyfuno â data a gedwir gan y Cyngor i bennu lefel y gydymffurfiaeth â'r côd ymddygiad o fewn Cynghorau Tref a Chymuned yn y sir.

 

Adolygodd y Pwyllgor yr holiadur a atodwyd i'r adroddiad mewn perthynas â Datgan Buddiannau, Hyfforddiant Côd Ymddygiad a Chynllun Hyfforddi y Cyngor a oedd wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r adborth a gyflwynwyd ers ymarfer y flwyddyn flaenorol.

 

Cynigiwyd y byddai'r holiadur yn cael ei gyhoeddi'n electronig a'r dyddiad targed ar gyfer dychwelyd fyddai 1 Mehefin 2025, gyda golwg ar adrodd y canfyddiadau i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod Medi 2025 yn unol â'r Blaengynllun Gwaith.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, er nad oedd gan y Pwyllgor unrhyw bwerau gorfodi o ran cynlluniau hyfforddi, fod yr holiadur wedi'i ddatblygu yn unol â chylch gorchwyl y Pwyllgor o ddarparu cymorth a chyngor i Gynghorau Tref a Chymuned o ran cydymffurfio â'r côd ymddygiad.

 

Cyfeiriwyd at y gwall teipio o ran rhifau cwestiynau 5-9 a dywedwyd y byddai'r rhain yn cael eu diweddaru. Gofynnodd y Pwyllgor am gynnwys dau gwestiwn pellach i ganfod canran y cynghorwyr o fewn pob cyngor a oedd wedi cael hyfforddiant ar y côd ymddygiad yn ystod y 12 mis blaenorol; ac ar ben hynny, nifer y cynghorau a oedd wedi llofnodi'r Addewid Cwrteisi a Pharch fel modd o ddangos eu hymrwymiad i fynd i'r afael ag ymddygiad gwael a meithrin newidiadau cadarnhaol i gefnogi ymddygiad sifil a pharchus.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar y newidiadau a nodwyd uchod, gymeradwyo'r cwestiynau y manylir arnynt yn yr adroddiad ar gyfer ymarfer blynyddol i gasglu data Côd Ymddygiad Cynghorau Tref a Chymuned.

10.

BLAENRAGLEN WAITH pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Blaenraglen Waith ddrafft ar gyfer 2025/26 a nodwyd yr adroddiadau allweddol y mae'n disgwyl eu derbyn yn ei gyfarfodydd chwarterol.  Cynigiodd y Blaengynllun Gwaith y dylid ymgorffori dwy eitem ychwanegol ar gyfer 2025/26, fel a ganlyn:

 

  • Bod y cyfarfod statudol rhwng y pwyllgor llawn ac arweinwyr grwpiau gwleidyddol y Cyngor yn cael ei gynnal yn flynyddol ym mis Mai.

 

  • Bod adroddiad blynyddol ar gwynion ynghylch y côd ymddygiad yn cael ei roi i'r Swyddog Monitro yn ystod y flwyddyn flaenorol nad oeddent wedi arwain at unrhyw atgyfeiriad i Banel Dyfarnu Cymru neu'r Pwyllgor Safonau. O ystyried bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi penderfynu nad oedd angen cymryd camau pellach ar gyfer y cwynion hyn, ystyriwyd yn briodol bod yr adroddiad yn ddienw ac yn nodi:

 

(a) Y rhan o'r côd yr oedd pob cwyn yn ymwneud â hi

(b) Natur y g?yn

(c) penderfyniad yr Ombwdsmon mewn perthynas â'r g?yn honno

(d) Y rhesymau am benderfyniad yr Ombwdsmon.

 

PENDERFYNWYD bod y Flaenraglen Waith am 2025/26 yn cael ei mabwysiadu.

11.

PENDERFYNIADAU DIWEDDAR Y PANEL DYFARNU A'R OMBWDSMON pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi canfyddiadau Panel Dyfarnu Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â chwynion a gyhoeddwyd o ran y côd ymddygiad.  Roedd y wybodaeth yn rhoi pwyntiau dysgu i'r Pwyllgor wrth roi'r côd ar waith a darparu hyfforddiant i gynghorwyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

12.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.