Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd B.W. Jones. |
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18FED MEDI, 2023 PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 18 Medi 2023 gan eu bod yn gywir, yn amodol ar wneud newidiadau gramadegol i eitem 6 ar yr agenda - Data Côd Ymddygiad 2022-23. |
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD JEANETTE GILASBEY PDF 85 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Jeanette Gilasbey o Gyngor Tref Cydweli am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â'r buddiannau personol a rhagfarnol canlynol:
· Eglwys y Santes Fair, Cydweli – Mae'r Cynghorydd Gilasbey yn aelod ac yn ymddiriedolwr ar Gyngor Plwyf Eglwys y Santes Fair yng Nghydweli. · Clwb Rygbi Cydweli – Mae'r Cynghorydd Gilasbey yn aelod, yn ysgrifennydd ac yn gyfarwyddwr ar Glwb Rygbi Cydweli. · Amgueddfa Cydweli - Mae'r Cynghorydd Gilasbey yn ymddiriedolwr ar Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Gilasbey fuddiant rhagfarnol a phersonol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad.
Roedd buddiant y Cynghorydd Gilasbey hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Gilasbey wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2(2)(d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y Cynghorydd Gilasbey wedi cael gollyngiad o'r blaen mewn perthynas â'r buddiannau hyn ym mis Ionawr 2019 a Rhagfyr 2022.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (2)(d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Jeanette Gilasbey SIARAD A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG mewn cyfarfodydd mewn perthynas â materion yn ymwneud ag: · Eglwys y Santes Fair, Cydweli · Clwb Rygbi Cydweli · Amgueddfa Cydweli a bod y gollyngiadau hyn yn ddilys tan ddiwedd ei chyfnod presennol yn y swydd. |
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim materion brys i'w trafod. |