Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Nodyn: moved from the 26th November
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth G.B. Thomas a D. Morgan.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 6 TACHWEDD 2024 PDF 89 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2024 gan eu bod yn gywir.
|
|
ADOLYGU COFNOD O GAMAU GWEITHREDU'R PWYLLGOR SAFONAU PDF 101 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KATHARINE REES PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan Gynghorydd Tref Llandeilo, Katharine Rees, am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llandeilo ynghylch:
(1) Fforwm Busnes Llandeilo a (2) Gr?p Peilonau Cymunedol Llandeilo
Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Rees fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath, gan ei bod yn aelod o'r grwpiau hynny neu'n dal swydd reoli ynddynt.
Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod bod y Cynghorydd Rees wedi gwneud cais am ollyngiad yn rhinwedd y canlynol:
Dywedwyd wrth y pwyllgor, pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Rees, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) a 2(f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Katharine Rees siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llandeilo ynghylch (1) Fforwm Busnes Llandeilo a (2) Gr?p Peilonau Cymunedol Llandeilo ac y byddai'r gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.
|
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD LEANN MARIE DOUGLAS PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan Gynghorydd Tref Cydweli, Leann Marie Douglas, am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Cydweli ynghylch Canolfan y Dywysoges Gwenllian yng Nghydweli.
Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Douglas fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath, gan ei bod yn cael ei chyflogi gan Ganolfan y Dywysoges Gwenllian, Cydweli.
Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod bod y Cynghorydd Rees wedi gwneud cais am ollyngiad yn rhinwedd y canlynol:
Dywedwyd wrth y pwyllgor, pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Douglas, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) a 2(f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Leann Marie Douglas siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Cydweli ynghylch Canolfan y Dywysoges Gwenllian yng Nghydweli ac y byddai'r gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.
|
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD CARYS JONES PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Carys Jones am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor ynghylch dyfodol Ysgol Llansteffan.
Nododd aelodau'r Pwyllgor fod y Cynghorydd Jones yn llywodraethwr a enwebwyd gan yr AALl yn Ffederasiwn Ysgolion Bancyfelin, Llan-gain a Llansteffan a bod ganddi berthynas hanesyddol agos ag Ysgol Llansteffan gan mai hon yw ei hysgol leol. Roedd y Cynghorydd Jones o'r farn bod ganddi berthynas bersonol agos â'r ysgol sydd wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd, sy'n ddigon i greu diddordeb personol o dan y cod. Gallai aelod o'r cyhoedd, gan wybod am y cysylltiad hwn, ddod i'r casgliad yn rhesymol y byddai'n dylanwadu ar farn y Cynghorydd Jones wrth ystyried materion yn ymwneud â'r ysgol.
Dywedwyd, er y byddai rôl y Cynghorydd Jones yn llywodraethwr a benodwyd gan yr AALl yn fuddiant personol ond NID yn fuddiant rhagfarnol, yn rhinwedd paragraff 12 (2)(a)(iii) o'r cod, y byddai ei pherthynas bersonol agos â'r ysgol yn fuddiant personol a rhagfarnol yn rhinwedd paragraffau 10(2)(c)(i) a 12(1) o'r cod.
Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod bod y Cynghorydd Jones wedi gwneud cais am ollyngiad yn rhinwedd y canlynol:
Dywedwyd bod camgymeriad yn yr adroddiad, gan ei fod yn nodi bod y Cynghorydd Jones yn ceisio gollyngiad i siarad a phleidleisio ac i wneud sylwadau ysgrifenedig, ond eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y Cynghorydd Jones wedi gwneud cais 'i siarad ac i wneud sylwadau ysgrifenedig yn unig’.
Dywedwyd wrth y pwyllgor, pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Jones, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) a 2(f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Carys Jones siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y cyngor ynghylch dyfodol Ysgol Llansteffan ac y byddai'r gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.
|
|
DYLETSWYDDAU ARWEINWYR Y GRWPIAU PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn atodi templed adrodd i Arweinwyr Gr?p i'w adolygu ac a ofynnai i'r Pwyllgor gytuno ar unrhyw gyngor neu arweiniad ychwanegol i'w roi i Arweinwyr Gr?p wrth baratoi eu hadroddiadau blynyddol.
Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod un o'r dyletswyddau yn gofyn i Arweinwyr Gr?p adrodd yn flynyddol i'r Pwyllgor Safonau. Er mwyn hwyluso hyn, roedd y Pwyllgor Safonau wedi mabwysiadu templed adrodd a atodwyd i'r adroddiad i'w adolygu a'i gymeradwyo.
Yn ogystal, roedd y Pwyllgor wedi mabwysiadu meini prawf y byddai perfformiad yr Arweinwyr Gr?p yn cael ei fesur yn eu herbyn. Roedd copi o'r meini prawf hyn wedi'i atodi i'r adroddiad hefyd.
Gwnaed y sylwadau canlynol:-
Gan gyfeirio at Ddyletswydd Arweinwyr Gr?p – Trothwy Asesu, dywedwyd y dylai pwynt 5 nodi, 'Dylai arweinwyr gr?p gymryd camau rhesymol i sicrhau bod aelodau'r gr?p yn hybu cwrteisi a pharch yn yr holl gyfathrebu ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol’. Nododd a chytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai hyn yn cael ei ddiwygio yn unol â hynny.
Wrth adolygu'r cynnwys:-
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar wneud y diwygiadau uchod, fabwysiadu Dyletswydd Arweinwyr Gr?p – Meini Prawf Asesu a'r Templed Adrodd Diwygiedig i Arweinwyr Gr?p.
|
|
PROTOCOL AR GYFER DELIO Â CHWYNION LEFEL ISEL RHWNG AELODAU PDF 102 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn atodi Protocol ar gyfer Delio â Chwynion Lefel Isel rhwng Aelodau, i'w gymeradwyo. Roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol fabwysiadu protocol ar gyfer datrys cwynion lefel isel rhwng aelodau.
Dywedwyd nad oes templed na model safonol ar gyfer protocolau o'r fath yn bodoli ar hyn o bryd. Mae'r Protocol yn helpu'r Pwyllgor ac Arweinwyr y Grwpiau i gydymffurfio â'u dyletswyddau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Protocol ar gyfer Delio â Chwynion Lefel Isel rhwng Aelodau yn cael ei gymeradwyo.
|
|
PENDERFYNIADAU DIWEDDAR Y PANEL DYFARNU A'R OMBWDSMON PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Banel Dyfarnu Cymru yn manylu ar ei ganfyddiadau mewn tri achos a gyfeiriwyd yn uniongyrchol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod penderfyniadau diweddar Panel Dyfarnu Cymru a'r Ombwdsmon ynghylch cwynion o dan y Cod Ymddygiad yn cael eu nodi.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim materion brys i'w trafod.
|