Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Llun, 3ydd Ebrill, 2023 11.30 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Betsan Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD A GYNHALWYD AR:

Dogfennau ychwanegol:

3.1

27AIN CHWEFROR 2023; pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 27 Chwefror, 2023 i ddangos eu bod yn gofnod cywir, yn amodol ar nodi nad oedd y Cadeirydd yn Gynghorydd.

 

3.2

7FED MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a oedd wedi ei gynnal ar 7 Mawrth 2023 gan eu bod yn gywir.

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD BETSAN JONES pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir Betsan Jones am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin ynghylch Rhaglen Moderneiddio Addysg y Cyngor ac adolygiad ac ailfodelu ôl troed ysgolion cynradd ledled y Sir.  .

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Jones ddiddordeb personol a rhagfarnol yn y mater gan fod ei mab yn Bennaeth Ysgol GymraegTeilo Sant yn Llandeilo ac felly roedd y Rhaglen Moderneiddio Addysg, a'r adolygiad ysgolion cynradd yn berthnasol i hyn.

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Jones yn ceisio gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(d) - mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol a Rheoliad 2(2)(f) - mae cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn cael ei gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.

 

Dywedwyd wrth y pwyllgor petai'n caniatáu cais y Cynghorydd Jones, byddai angen penderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2 (2)(d) ac (f) o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Betsan Jones siarad, a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin ynghylch Rhaglen Moderneiddio Addysg y Cyngor ac adolygiad ac ailfodelu ôl troed ysgolion cynradd ledled y Sir a bod y gollyngiad yn ddilys hyd ddiwedd y tymor etholiadol presennol.

 

5.

TREFN Y MATERION - GOLLYNGIADAU YNGHYLCH CYNLLUN CYSYLLTU Â'R GRID TYWI WYSG BUTE ENERGY

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan fod eitemau Agenda 5, 6, 7 ac 8 yn ymwneud â'r un mater, cafodd y tri chais eu hystyried gyda'i gilydd ond eu cofnodi ar wahân [cofnod 6,7,8 a 9 isod].

Fe wnaeth yr aelodau sylwadau ar nifer y ceisiadau am ollyngiadau a dderbyniwyd, ac o bosib eraill yr oeddent eto i'w derbyn, mewn cysylltiad â'r cynllun a nodwyd uchod, a'r goblygiadau posibl o ran cworwm ar gyfer cyfarfodydd cynghorau cymuned. Ymatebodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith y byddai'n ysgrifennu at glercod yr holl gynghorau cymuned ar hyd y llwybr cysylltiad arfaethedig i ganfod a oedd ceisiadau pellach am ollyngiad yn debygol. Yn hynny o beth byddai adroddiad ar yr ymatebion a gafwyd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar y cyfle cyntaf ac felly nid oedd yn angenrheidiol, ar hyn o bryd, i'r Pwyllgor ystyried rhoi awdurdod dirprwyedig iddi o ran yr adroddiadau i ganiatáu unrhyw geisiadau pellach am ollyngiadau a allai ddod i law.

6.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD CHERYL JONES pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Cymuned Cheryl Jones am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanarthne ynghylch trosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil a datblygiadau parc ynni eraill i gysylltiad grid yn Sir Gaerfyrddin. Byddai hyn yn rhan o gynllun cysylltu â'r Grid Tywi Wysg ButeEnergy.

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath, gan y byddai'r cynigion roedd Bute Energy wedi eu cyflwyno yn effeithio arni hi a chymdeithion personol agos iddi.

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Jones yn ceisio gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(d) - mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol a Rheoliad 2(2)(f) - mae cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn cael ei gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.

 

Dywedwyd wrth y pwyllgor petai'n caniatáu cais y Cynghorydd Jones, byddai angen penderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2 (2) (d) ac (f) o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Cheryl Jones i siarad, a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanarthne ynghylch trosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil a datblygiadau parciau ynni eraill i gysylltiad grid yn Sir Gaerfyrddin a byddai'r gollyngiad yn ddilys hyd at ddiwedd y tymor etholiadol presennol.

7.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD DAVID JONES pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Cymuned David Jones am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanarthne ynghylch trosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil a datblygiadau parc ynni eraill i gysylltiad grid yn Sir Gaerfyrddin. Byddai hyn yn rhan o gynllun cysylltu â'r Grid Tywi Wysg ButeEnergy.

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath, gan y byddai'r cynigion roedd Bute Energy wedi eu cyflwyno yn effeithio arno ef a chymdeithion personol agos iddo.

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Jones yn ceisio gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(d) - mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol a Rheoliad 2(2)(f) - mae cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn cael ei gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.

 

Dywedwyd wrth y pwyllgor petai'n caniatáu cais y Cynghorydd Jones, byddai angen penderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2 2 (d) ac (f) o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd David Jones i siarad, a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ond NID  pleidleisio ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanarthne ynghylch trosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil a datblygiadau parciau ynni eraill i gysylltiad grid yn Sir Gaerfyrddin a byddai'r gollyngiad yn ddilys hyd at ddiwedd y tymor etholiadol presennol.

8.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD MYFANWY JONES pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Cymuned Myfanwy Jones am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanarthne ynghylch trosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil a datblygiadau parc ynni eraill i gysylltiad grid yn Sir Gaerfyrddin. Byddai hyn yn rhan o gynllun cysylltu â'r Grid Tywi Wysg ButeEnergy.

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath, gan y byddai'r cynigion roedd Bute Energy wedi eu cyflwyno yn effeithio arni hi a chymdeithion personol agos iddi.

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Jones yn ceisio gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(d) - mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol a Rheoliad 2(2)(f) - mae cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn cael ei gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.

 

Dywedwyd wrth y pwyllgor petai'n caniatáu cais y Cynghorydd Jones, byddai angen penderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2 (2) (d) ac (f) o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Myfanwy Jones i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanarthne ynghylch trosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil a datblygiadau parciau ynni eraill i gysylltiad grid yn Sir Gaerfyrddin a byddai'r gollyngiad yn ddilys hyd at ddiwedd y tymor etholiadol presennol.

9.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD CHRISTOPH FISCHER pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Cymuned Christoph Fischer am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llandeilo ynghylch trosglwyddo trydan o Barc  a datblygiadau parc ynni eraill i gysylltiad grid yn Sir Gaerfyrddin. Byddai hyn yn rhan o gynllun cysylltu â'r Grid Tywi Wysg Bute Energy.

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Fischer fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath, oherwydd gallai'r cynigion gan Bute Energy effeithio o bosibl ar ei eiddo

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Fischer yn ceisio gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(d) - mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol,

Rheoliad 2(2)(e) - mae'r buddiant yn gyffredin i'r aelod ac i gyfran sylweddol o'r cyhoedd  Rheoliad 2(2)(f) - mae cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn cael ei gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor petai'n caniatáu cais y Cynghorydd Fischer, byddai angen penderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.

 

Yn dilyn trafodaeth ,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2 (2) (d) ac (f) o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Christoph Fischer siarad, a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ond NID  pleidleisio ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llandeilo ynghylch trosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil a datblygiadau parciau ynni eraill i gysylltiad grid yn Sir Gaerfyrddin a byddai'r gollyngiad yn ddilys hyd at ddiwedd y tymor etholiadol presennol.

 

10.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.