Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Llun, 27ain Chwefror, 2023 1.30 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gaynor Morgan  01267 224026

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

TREFN Y MATERION

Gan fod eitemau Agenda 3, 4 a 6 yn ymwneud â'r un mater, cafodd y tri chais eu hystyried gyda'i gilydd ond eu cofnodi ar wahân.

Dogfennau ychwanegol:

3.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD MANSEL CHARLES pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir Mansel Charles am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Cymuned Llanegwad ynghylch trosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil a datblygiadau parc ynni eraill i gysylltiad grid yn Sir Gâr. Byddai hyn yn rhan o gynllun cysylltu â'r Grid Tywi Wysg Bute Energy.

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Charles fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath, gan y byddai'r cynigion roedd Bute Energy wedi eu cyflwyno yn effeithio arno ef a chymdeithion personol agos iddo.

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Charles yn ceisio gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol a Rheoliad 2(2)(f) – mae cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn cael ei gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod. 

 

Pe bai'r pwyllgor yn caniatáu cais y Cynghorydd Charles, byddai angen penderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd. 

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2 2 (d) ac (f) o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd M. Charles siarad, a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ond NID  pleidleisio ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Cymuned Llanegwad (a chyfarfodydd cyhoeddus - lle bônt yn mynychu fel cynghorwyr sir fel rhan o fusnes y Cyngor) ynghylchtrosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil a datblygiadau parciau ynni eraill i gysylltiad grid yn Sir Gaerfyrddin a byddai'r gollyngiad yn ddilys hyd at ddiwedd y tymor etholiadol presennol.

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD ANN DAVIES pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir Ann Davies am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Cymuned Llanegwad mewn perthynas â busnes y cyngor ynghylch trosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil a datblygiadau parc ynni eraill i gysylltiad grid yn Sir Gâr. Byddai hyn yn rhan o gynllun cysylltu â'r Grid Tywi WysgBute Energy.

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath, gan y byddai'r cynigion roedd Bute Energy wedi eu cyflwyno yn effeithio arno ef a chymdeithion personol agos iddo.

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Davies yn ceisio gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol a Rheoliad 2(2)(f) – mae cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn cael ei gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod

 

Pe bai'r pwyllgor yn caniatáu cais y Cynghorydd Davies, byddai angen penderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd

  

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2 2 (d) ac (f) o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd A. Davies siarad, a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ond NID  pleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Cymuned Llanarthne (a chyfarfodydd cyhoeddus - lle bônt yn mynychu fel cynghorwyr sir fel rhan o fusnes y Cyngor) ar fusnes y cyngor ynghylch trosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil a datblygiadau parciau ynni eraill i gysylltiad grid yn Sir Gaerfyrddin a byddai'r gollyngiad yn ddilys hyd at ddiwedd y tymor etholiadol presennol.

 

 

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD LLINOS DAVIES pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir Llinos Davies am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio mewn perthynas â busnes y cyngor, sef y cynigion cyllideb ar gyfer cyllido'r gwasanaeth cerddoriaeth deithiol mewn ysgolion.

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath, gan fod ei g?r yn Bennaeth Cerdd mewn ysgol yn y sir.

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Davies yn ceisio gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol.

 

Pe bai'r pwyllgor yn caniatáu cais y Cynghorydd Davies, byddai angen penderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd

 

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2 2 (d) ac (f) o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd L. Davies siarad, a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ond NID  pleidleisio ar fusnes y cyngor, sef y cynigion cyllideb ar gyfer cyllido'r gwasanaeth cerddoriaeth deithiol mewn ysgolion a byddai'r gollyngiad yn ddilys hyd at ddiwedd y tymor etholiadol presennol

6.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD HEFIN JONES pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir Hefin Jones am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Cymuned Llanarthne, a Chyngor Cymuned Llanddarog mewn perthynas â busnes y cyngor ynghylch trosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil a datblygiadau parc ynni eraill i gysylltiad grid yn Sir Gâr. Byddai hyn yn rhan o gynllun cysylltu â'r Grid Tywi WysgBute Energy.

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath, gan y byddai'r cynigion roedd Bute Energy wedi eu cyflwyno yn effeithio arno ef a chymdeithion personol agos iddo.

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Jones yn ceisio gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol a Rheoliad 2(2)(f) – mae cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn cael ei gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.

 

Pe bai'r pwyllgor yn caniatáu cais y Cynghorydd Jones, byddai angen penderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.

 

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2 2 (d) ac (f) o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd H. Jones siarad, a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ond NID  pleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Cymuned Llanarthne, a Chyngor Cymuned Llanddarog (a chyfarfodydd cyhoeddus - lle bônt yn mynychu fel cynghorwyr sir fel rhan o fusnes y Cyngor) ar fusnes y cyngor ynghylch trosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil a datblygiadau parciau ynni eraill i gysylltiad grid yn Sir Gaerfyrddin a byddai'r gollyngiad yn ddilys hyd at ddiwedd y tymor etholiadol presennol.

 

 

7.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.