Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Mawrth, 24ain Ionawr, 2023 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mr F. Phillips.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD A GYNHALWYD AR 12 RHAGFYR 2022 pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at y penderfyniad yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor ar gyfer cynnwys cofrestr weithredu ar agenda arferol pob Pwyllgor a bod y gofrestr yn cael ei chynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod arferol nesaf

 

PENDERFYNWYD:

 

3.1

llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2022 yn gywir.

3.2

Bod y gofrestr weithredu yn cael ei chynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod arferol nesaf y Pwyllgor Safonau

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD A DAVIES pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Ann Davies am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a gweud sylwadau ysgrifenedig i Baneli Ymgynghorol y Cyngor wrth adolygu ystad wledig y Cyngor.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad yn cael ei gyflwyno oherwydd bod gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol yn yr adolygiad gan fod ei g?r yn denant ar hyn o bryd ar fferm Cyngor yr maent wedi'i meddiannu ers 1991, ac y byddai aelod rhesymol o'r cyhoedd gan wybod y ffeithiau hynny yn debygol o gredu y byddai'n dylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd ehangach y cyhoedd o ran yr adolygiad hwnnw.

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Davies yn gwneud cais am ollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(f) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) gan fod cyfiawnhad ganddi dros gymryd rhan oherwydd ei rôl benodol a'i harbenigedd. Yn ogystal, cynghorwyd y Pwyllgor y gallai ystyried y byddai ei chyfranogiad hefyd yn berthnasol o dan Reoliad 2(d) gan na fyddai'n niweidio hyder y cyhoedd

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNIAD UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd A Davies siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar yr adolygiad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd o ystad wledig y Cyngor a bod y gostyngiad yn cael ei roi am gyfnod o chwe mis.

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD P H THOMAS pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais y Cynghorydd Sir P.H. Thomas o Gyngor Cymuned Llanismel am ollyngiad o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio mewn perthynas â busnes y Cyngor ynghylch y blaendraeth a gweithgareddau casglu cocos yn Aber y Tair Afon.

 

Dywedwyd bod cais am ollyngiad yn cael ei gyflwyno oherwydd bod gan y Cynghorydd Thomas fuddiant personol yn y mater gan ei fod yn gweithio yn y diwydiant cocos, ac y byddai aelod rhesymol o'r cyhoedd gan wybod y ffeithiau hynny yn debygol o gredu y byddai'n dylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd ehangach y cyhoedd o ran yr adolygiad hwnnw.

 

Er nad oedd gan y Cyngor Sir unrhyw rôl o ran gwneud penderfyniadau ynghylch y defnydd o'r blaendraeth ac nid yw'n berchen ar unrhyw dir yr effeithir arno gan y gweithgareddau hynny, dywedwyd eu bod yn cael eu trafod yn aml yng nghyfarfodydd y cyngor. Felly, roedd y Cynghorydd Thomas yn gwneud cais am ollyngiad o dan Reoliad 2(c)(d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru)

 

O ran cais y Cynghorydd Thomas, cynghorodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y dylaia'r Pwyllgor nodi nad oedd Rheoliad 2(c) yn berthnasol yn y sefyllfa hon ac felly roedd y cais yn cael ei ystyried o dan Reoliadau 2(d) a (f)

 

O ystyried y cais ac o ran cysondeb cyfarfodydd penderfynu, roedd y Pwyllgor o'r farn na fyddai'n briodol caniatáu gollyngiad i'r Cynghorydd Thomas bleidleisio yng ngoleuni natur ei gyflogaeth. Fodd bynnag, teimlwyd ei bod yn briodol caniatáu gollyngiad i siarad ac i wneud sylwadau ysgrifenedig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i ganiatáu i'r Cynghorydd P.H. Thomas siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig, ond nid pleidleisio, yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanismel mewn perthynas â busnes y Cyngor ynghylch y blaendraeth a gweithgareddau cocos yn Aber y Tair Afon, a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y tymor etholiadol presennol.

 

 

6.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.