Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

C. Davies - Aelod Annibynnol

10 - Penderfyniadau Diweddar Panel Dyfarnu Cymru

Datganwyd buddiant personol (ond nid rhagfarnol) yn yr eitem hon gan fod un o'r achosion yn ymwneud ag unigolyn sy'n aelod o'r Awdurdod Lleol y mae Mrs Davies yn gwasanaethu arno fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.  Gan mai dim ond i'w nodi roedd yr adroddiad, arhosodd Mrs Davies yn y cyfarfod.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD A GYNHALWYD AR:

Dogfennau ychwanegol:

3.1

12 MEHEFIN 2023 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd nad oedd y cais am ychwanegu Rhoddion a Lletygarwch at Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor Safonau wedi'i gynnwys yn y cofnodion.  Gan fod yr Aelodau'n cael trafferth cofio'r cais penodol yn iawn, cynigiwyd bod Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn cynnwys Rhoddion a Lletygarwch ar Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor a'r cofnod o'r camau gweithredu. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol at eitem 9 o'r cofnodion, Adolygiad o Weithdrefnau Gwrandawiad Disgyblu, a dweud wrth Aelodau'r Pwyllgor, yn groes i'r hyn benderfynwyd, fod y ddogfen Gweithdrefnau Gwrandawiad Disgyblu ddiwygiedig wedi'i hepgor yn anfwriadol o agenda'r cyfarfod hwn.  Sicrhawyd yr Aelodau, wedi i'r Cadeirydd gytuno ar hynny, y byddai'r cofnod o'r camau gweithredu yn cael ei ddiwygio a byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

3.1.1. llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau oedd wedi ei gynnal ar 12 Mehefin, 2023 gan eu bod yn gywir;

 

3.1.2 cynnwys rhoddion a lletygarwch ar Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor a'r cofnod o'r camau gweithredu.

 

 

3.2

6 GORFFENNAF 2023 pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf, 2023 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

DIWEDDARIAD AR Y CAMAU GWEITHREDU pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gofnod gweithredu a nodai'r amryw gamau (parhaus ac wedi'u cwblhau) oedd wedi codi mewn cyfarfodydd blaenorol o'r Pwyllgor.

 

Diweddarwyd y Pwyllgor gan Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol mewn perthynas â'r ddau gam gweithredu parhaus, ac ers cyhoeddi'r agenda hon roeddent wedi'u cwblhau.  Adroddwyd mai'r eitemau oedd yn weddill, fel y codwyd yng nghofnod 3.1 y cyfarfod hwn, oedd cyflwyno'r Gweithdrefnau Gwrandawiad Disgyblu i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Rhagfyr a chynnwys yr adroddiad ar Roddion a Lletygarwch i Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariad am y camau gweithredu a dileu'r camau oedd wedi'u cwblhau o'r cofnod ar ôl adrodd i'r Pwyllgor.

 

 

5.

HYFFORDDIANT CÔD YMDDYGIAD 2023 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad am y sesiynau hyfforddiant côd ymddygiad i gynghorwyr Tref a Chymuned ar 12 Mehefin 2023 a 24 Gorffennaf 2023.

 

Dywedwyd mai'r bwriad oedd cynnal dwy sesiwn hybrid, ond oherwydd gwaith adeiladu yn Neuadd y Sir, digwyddiad rhithwir yn unig fu'r un ym mis Gorffennaf. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau mai nifer fach yn unig o bobl oedd wedi trefnu i fynychu'r sesiwn ym mis Gorffennaf wyneb yn wyneb, ond eu bod wedi ymuno ar-lein yn lle hynny wedyn.

 

Nododd yr Aelodau mai dim ond 5 o bobl oedd wedi mynychu'r hyfforddiant ar 12 Mehefin, 2023 wyneb yn wyneb a 44 ar-lein, a bod 39 o bobl wedi dod i'r sesiwn hyfforddiant ar-lein ar 24 Gorffennaf 2023.

 

Ar y cyfan, roedd nifer y mynychwyr ychydig yn is na blynyddoedd blaenorol, ond roedd nifer o Gynghorau wedi rhoi gwybod eu bod eisoes wedi trefnu hyfforddiant côd ymddygiad ar wahân i'w haelodau gydag Un Llais Cymru a darparwyr eraill.

 

Roedd yr Aelodau'n gallu gweld, ar ôl ystyried ystadegau'r sawl oedd yn mynychu wyneb yn wyneb ac ar-lein, fod mwyafrif clir yn ffafrio ymuno ar-lein. Gan gydnabod fod angen llawer o staff i gynnal cyfarfodydd hybrid, awgrymwyd bod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod ym mis Mawrth, yn ystyried trefnu sesiynau hyfforddiant y Côd Ymddygiad o bell/ar-lein yn unig yn y dyfodol a rhannu recordiad ohonynt, fel y gallai unigolion eu gwylio ar adeg fwy cyfleus pe baent yn dymuno gwneud hynny.

 

Dywedwyd ei bod yn gallu bod yn anodd gwybod pwy oedd yr unigolion oedd yn ymuno ar-lein, a byddai rhagor o ystyriaeth yn cael ei rhoi i hyn er mwyn sicrhau bod pob presenoldeb yn cael ei gofnodi'r gywir.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n ail-anfon dolen at recordiad o'r hyfforddiant a ddarparwyd ar 12 Mehefin 2023 i bob Cyngor Tref a Chymuned.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a chymeradwyo'r awgrymiadau uchod.

 

 

6.

DATA CÔD YMDDYGIAD 2022-23 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Pwyllgor Safonau wedi cytuno yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2023, i gynnal ymarfer blynyddol arall i gasglu data cydymffurfio â'r côd gan Gynghorau Tref a Chymuned.  Rhoddodd Aelodau'r Pwyllgor ystyriaeth i ganlyniadau'r ymarfer, a oedd yn yr adroddiad.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau, yn ogystal â'r cwestiynau arferol ynghylch datganiadau o ddiddordeb a hyfforddiant côd ymddygiad, y gofynnwyd cwestiynau ychwanegol i Gynghorau hefyd ynghylch eu cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â darparu cynlluniau hyfforddi ar gyfer eu haelodau, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 

 

 

Adroddwyd bod Cynghorau Tref a Chymuned, am y tro cyntaf, wedi cael cais i gwblhau arolwg snap ar-lein yn uniongyrchol yn hytrach na darparu ymateb ysgrifenedig i'r cwestiynau.  Roedd yr arolwg wedi cael ei anfon i'r holl Gynghorau Tref a Chymuned ddechrau mis Mai 2023 ac roedd dyddiad cau o 1 Gorffennaf 2023 ar gyfer ymatebion. Roedd nodyn atgoffa wedi cael ei anfon ym Mehefin 2023, ac roedd galwadau ffôn dilynol wedi cael eu gwneud i'r rheiny oedd heb gwblhau'r arolwg erbyn diwedd Gorffennaf.

 

Nododd yr aelodau fod 58 o'r 72 Cyngor wedi ymateb adeg paratoi'r adroddiad. Roedd hyn yn ostyngiad o gymharu â'r 67 ymateb gafwyd y flwyddyn flaenorol. 

 

Er bod yr arolwg yn gyffredinol yn awgrymu bod yna gydymffurfiad da o hyd â'r côd gan Gynghorwyr Tref a Chymuned, roedd yr Aelodau'n siomedig mai dim ond hanner y Cynghorau oedd wedi mabwysiadu cynllun hyfforddiant\ yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Roedd Aelodau'n awyddus i ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned i'w hatgoffa o'r gofyniad i fabwysiadu cynllun hyfforddiant. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n llunio llythyr ar ran y Pwyllgor.

 

Wrth nodi mai hon oedd y flwyddyn gyntaf lle roedd gofyn i Gynghorau Tref a Chymuned fabwysiadu cynllun hyfforddiant, dywedwyd bod posibilrwydd nad oedd y  Cynghorau wedi mabwysiadu cynllun hyfforddiant pan gwblhawyd yr arolwg, gan y byddai'n cael ei gynnwys fel arfer fel eitem ar yr agenda yn y cyfarfod cyntaf yn ôl wedi toriad yr haf ym mis Medi.  Gan gydnabod bod yr amseru o bosibl yn ffactor, nid oedd yn esgus dros beidio â chydymffurfio â deddfwriaeth statudol, a'r teimlad oedd byddai'r Cynghorau'n dod yn gliriach ynghylch y mater ymhen amser. Bernid byddai llythyr gan y Pwyllgor Safonau i'w hatgoffa o'u dyletswydd statudol yn fuddiol, ynghyd ag arolwg dilynol unwaith eto i weld beth oedd y gyfradd fabwysiadu.

 

Ar y cyfan, nodwyd bod lefel dda o gydymffurfiaeth o ran côd ymddygiad ar draws Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Mewn ymateb i ymholiadau a godwyd ynghylch sancsiynau yn achos diffyg cydymffurfio, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, gan fod cynllun hyfforddiant yn ofynnol fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, y byddai achosion o ddiffyg cydymffurfio yn cael eu cyfeirio at yr Ombwdsmon.  Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau, er nad oedd gan y Pwyllgor Safonau rôl orfodi o ran y ddeddfwriaeth, ei fod yn gallu cynghori, darbwyllo a rhoi arweiniad i'r Cynghorau Tref a Chymuned ynghylch y gofyniad i gydymffurfio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

DYLETSWYDDAU ARWEINWYR Y GRWPIAU: CANLLAWIAU STATUDOL pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau'r Pwyllgor adroddiad a roddai wybodaeth mewn perthynas â Chanllawiau Statudol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023 ynghylch gweithredu'r ddyletswydd Arweinwyr Grwpiau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Er bod cwmpas y canllawiau'n mynd tu hwnt i ddyletswydd yr Arweinwyr Grwpiau yn unig - roedd y darpariaethau perthnasol yn Rhan 2 o'r Canllawiau, adrannau 4.0 i 7.0 a byddai copi llawn ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Tynnodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol sylw at y pwyntiau allweddol yn y canllawiau.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau sut oeddent yn dymuno strwythuro ac ymgysylltu ag Arweinwyr Grwpiau ar ddechrau blwyddyn 2023/24?  Y consensws cyffredinol oedd bod Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, ar ran y Pwyllgor Craffu:

 

·       yn cysylltu â Swyddogion Monitro'r Awdurdod Lleol gan y byddent hefyd yn mynd drwy'r un broses, i gael syniad o'r ffordd orau o gamu ymlaen.

·       yn cysylltu ag Arweinwyr Grwpiau i nodi dyddiad cyfleus i gwrdd â'r Pwyllgor Safonau ym mis Ebrill 2024;

·       yn rhannu rhan o'r Canllawiau Statudol ag Arweinwyr Gr?p.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi telerau'r Canllawiau a gweithredu'r ymagwedd uchod.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2022/23 a oedd yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon ac yn darparu gwybodaeth am achosion o gamweinyddu ac achosion Côd Ymddygiad y deliwyd â nhw gan ei swyddfa yn ystod cyfnod yr adroddiad.

 

Nododd y Pwyllgor y pwyntiau allweddol o'r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

9.

SYSTEM DRIBIWNLYSOEDD NEWYDD I GYMRU: PAPUR GWYN pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu gwybodaeth allweddol mewn perthynas â System Dribiwnlys newydd Cymru: Papurau Gwyn.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru, ar 19 Mehefin, 2023 wedi cyhoeddi papur ymgynghori ar y diwygiadau arfaethedig i'r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn nodi, er bod effaith y cynigion yn mynd ymhell tu hwnt i waith Panel Dyfarnu Cymru, fod y cynnig yn dod ag ef o fewn cwmpas y diwygiadau. Roedd Paragraff 37 yn nodi'r strwythur newydd arfaethedig.

 

Nododd yr Aelodau y system dribiwnlys unedig ar gyfer Cymru, a oedd yn cynnwys 2 dribiwnlys cyffredinol newydd:-

 

·      Y Tribiwnlys Haen Gyntaf ar gyfer Cymru;

·      Y Tribiwnlys Apeliadau ar gyfer Cymru.

 

Pe caent eu mabwysiadu, byddai hyn yn ychwanegu haen apêl o gymharu â'r strwythur APW cyfredol.

 

Roedd y Papur Gwyn yn cynnwys 43 o gwestiynau ymgynghori a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad yn Atodiad 1, a'r dyddiadau cau ar gyfer ymatebion oedd 2 Hydref 2023.

 

Wrth ystyried cwestiynau, gwnaed ymholiad ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth. Cadarnhawyd mai nod cwestiwn 28 oedd annog amrywiaeth o ran y bobl oedd yn cael eu penodi. Cafodd hyn ei dderbyn a'i gefnogi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r cynigion ymgynghori a llunio ymateb ar ran y Pwyllgor.

 

 

10.

PENDERFYNIADAU DIWEDDAR PANEL DYFARNU CYMRU pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: gan iddi ddatgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach, ailadroddodd Mrs Caryl Davies y buddiant ac aros yn y cyfarfod.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Banel Dyfarnu Cymru yn manylu ar ei ganfyddiadau mewn pedwar achos a gyfeiriwyd yn uniongyrchol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

11.

UNRHYW FATER ARALL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau