Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Y Cynghorydd Tref P. Rogers (Aelod Cymundedol).
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR: Dogfennau ychwanegol: |
|
28AIN GORFFENNAF 2022 PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD lofnodi bod cofnodion cyfarfod Y Pwyllgor Safonau oedd wedi ei gynnal ar 28ain Gorffennaf, 2022 yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cadeirydd ymddiheuriad gan y Cynghorydd R. James nad oedd wedi gallu mynychu cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y 4ydd Awst, 2022.
PENDERFYNWYD lofnodi bod cofnodion cyfarfod Y Pwyllgor Safonau oedd wedi ei gynnal ar 4ydd Awst, 2022 yn gofnod cywir.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFFAU 12 A 13 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
YSTYRIAETH GYCHWYNNOL O ADRODDIAD A GYHOEDDWYD GAN OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU MEWN PERTHYNAS Â'R CYNGHORYDD TREF LOUISE WRIDE Cofnodion: Ar ôl cynnal y prawf budd i'r cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ynddo byddai datgelu ar y cam cychwynnol hwn o broses dau gam yn anghymesur a byddai'n tarfu'n anfanteisiol ar fywyd preifat a bywyd teuluol y Cynghorydd dan sylw.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a dderbyniwyd gan Swyddog Monitro'r Cyngor oddiwrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a nododd ganlyniadau'r ymchwiliad i honiadau bod y Cynghorydd Wride wedi torri côd ymddygiad yr aelodau.
Cynhaliodd aelodau, yn unol â'r gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan y Pwyllgor, ystyriaeth gychwynnol o'r adroddiad ac yn seiliedig ar gynnwys adroddiad yr Ombwdsmon yn unig daeth i benderfyniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr adroddiad yn cynnwys tystiolaeth o doriad ac y dylai'r Cynghorydd Wride gael cyfle i gyflwyno sylwadau i'r Pwyllgor, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, mewn perthynas â chanfyddiadau'r ymchwiliad
|