Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G.B. Thomas.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Rob James

Dyletswyddau Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 5;

Arweinydd y Gr?p Llafur ac awdur adroddiad Arweinydd y Gr?p.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD A GYNHALWYD AR:

Dogfennau ychwanegol:

3.1

14EG CHWEFROR 2023; pdf eicon PDF 161 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd yr aelodau i Swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd am gywirdeb y cofnodion oedd yn ymwneud â’r gwrandawiadau diweddar.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2023 yn gywir.

 

3.2

3YDD EBRILL 2023. pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2023 yn gywir.

 

 

4.

DIWEDDARIAD AR Y CAMAU GWEITHREDU. pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gofnod camau gweithredu a oedd yn amlinellu’r camau gweithredu amrywiol a gwblhawyd, a’r rhai sy’n parhau, a oedd wedi codi ers ei gyfarfod ar 12 Rhagfyr 2022.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y diweddariad ar y camau gweithredu yn cael ei dderbyn a bod y camau gweithredu a gwblhawyd yn cael eu dileu o’r cofnod ar ôl iddynt gael eu hadrodd i’r Pwyllgor.

5.

DYLETSWYDDAU ARWEINWYR GRWPIAU GWLEIDYDDOL O DAN DDEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021. pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Gan iddo ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, nid oedd y Cynghorydd R. James yn bresennol wrth ystyried yr eitem hon nac wrth bleidleisio arni.

 

Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, bu’r Pwyllgor yn ystyried a oedd yr adroddiadau a gafwyd gan Arweinwyr tri gr?p gwleidyddol y Cyngor yn cydymffurfio â’u dyletswyddau o dan Ddeddf 2021 o ran y canlynol:

·      cymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan aelodau eu grwpiau;

·      cydweithredu â Phwyllgor Safonau'r Cyngor wrth arfer swyddogaethau'r Pwyllgor Safonau.

 

Mynegwyd siom ynghylch canran aelodau gr?p Plaid Cymru a’r gr?p annibynnol a oedd wedi mynychu hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad ac roedd y Cadeirydd wedi cytuno i gyfleu hyn i Arweinwyr y Grwpiau. Pwysleisiwyd pwysigrwydd mynychu sesiynau o’r fath, i gynghorwyr sydd newydd eu hethol a chynghorwyr sy’n dychwelyd. Croesawyd y ffaith bod o gr?p Llafur yn monitro cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y cynghorwyr i sicrhau bod yr holl negeseuon ar dudalennau personol a phroffesiynol yn cwrdd â’r safonau disgwyliedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn bod yr adroddiadau a gyflwynwyd gan Arweinwyr y Grwpiau yn cydymffurfio â’u dyletswyddau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

 

 

6.

ADOLYGIAD O'R POLISI DATGELU CAMARFER. pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad lle dywedwyd bod swyddogion wedi adolygu Polisi Datgelu Camarfer y Cyngor ac, ar wahân i newidiadau a wnaed i ddiweddaru enwau a manylion cyswllt unigolion, nid ystyriwyd bod angen unrhyw newidiadau eraill gan na fu unrhyw ddatblygiadau mewn deddfwriaeth, cyfraith achosion neu ganllawiau, a oedd yn golygu nad oedd angen gwneud unrhyw ddiwygiadau.

 

Nodwyd, rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, fod cyfanswm o 3 c?yn datgelu camarfer wedi’u cofnodi, ac yr ymchwiliwyd i bob un ohonynt a bod yr ymchwiliadau wedi dod i ben. Roedd un g?yn datgelu camarfer a dderbyniwyd yn 2021/2022 wedi’i dwyn ymlaen i’r cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad hwn. Roedd y broses o ymchwilio i’r g?yn hon hefyd wedi dod i ben.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Bolisi Datgelu Camarfer diweddaredig y Cyngor.

 

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL I'R CYNGOR LLAWN. pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2022/23 a oedd yn manylu ar y gwaith yr oedd wedi’i wneud yn ystod y cyfnod hwnnw. Os caiff ei gymeradwyo, bydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Gan gyfeirio at gofnod 5 uchod, nodwyd y byddai’r Arweinwyr Gr?p yn cael eu gwahodd i roi adborth ar y templed a roddwyd iddynt i gwblhau eu hadroddiadau priodol. Awgrymwyd y gellid codi’r mater yng nghyfarfod nesaf yr Arweinwyr Gr?p. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y trefnwyd i’r mater gael ei ystyried ymhellach yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr a’i fod wedi'i gynnwys yn y Blaengynllun Gwaith arfaethedig [gweler cofnod 10 isod].

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2022/23 yn cael ei fabwysiadu a’i gyflwyno i’r Cyngor.

 

 

8.

YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU AR ARGYMHELLION YR ADOLYGIAD ANNIBYNNOL O'R SAFONAU MOESEGOL FFRAMWAITH (ADRODDIAD PENN). pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried dogfen ymgynghori gan Lywodraeth Cymru yn manylu ar ei hymatebion arfaethedig i’r argymhellion a gynhwysir yn adroddiad Penn a luniwyd yn dilyn adolygiad o’r Fframwaith Safonau Moesegol cyfredol ar gyfer llywodraeth leol a sefydlwyd o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000. Roedd llawer o'r ddogfen ymgynghori, y gwahoddwyd y Pwyllgor i lunio ei ymatebion ei hun iddi, yn ymwneud â rôl a gweithrediad Panel Dyfarnu Cymru (PDC).

 

Mewn ymateb i sylw yn ymwneud â'r trothwy ar gyfer datganiadau ynghylch unrhyw rodd, lletygarwch, budd materol neu fantais [Argymhelliad 1] hysbyswyd y Pwyllgor fod Cod Ymddygiad presennol y Cyngor ar gyfer Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig yn nodi, o fewn 28 diwrnod o dderbyn unrhyw rodd, lletygarwch, budd materol neu fantais sy’n werth dros £25, fod yn rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r Swyddog Monitro ynghylch bodolaeth a natur y rhodd, lletygarwch, budd materol neu’r fantais.

 

Cefnogodd y Pwyllgor yr argymhelliad y dylai hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad [Argymhelliad 7] fod yn orfodol i holl aelodau prif gynghorau a chynghorau cymuned gan gynnwys cynghorwyr a etholwyd am gyfnod dilynol. Mynegwyd y farn y gallai arwain at ostyngiad yn nifer yr achosion a gyfeirir at yr Ombwdsmon a’r Pwyllgorau Safonau wedi hynny.

 

Cytunodd yr Aelodau i anfon unrhyw sylwadau pellach yn unigol at Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol er mwyn iddo allu llunio ymateb i'r ddogfen ymgynghori ar ran y Pwyllgor cyn y dyddiad cau, sef 23 Mehefin 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo ymatebion arfaethedig Llywodraeth Cymru i'r argymhellion a gynhwysir yn adroddiad Penn.

 

 

9.

ADOLYGU GWEITHDREFNAU GWRANDAWIADAU DISGYBLU. pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cofnod 6 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2022, gwahoddwyd y Pwyllgor i ystyried, yng ngoleuni ei brofiadau diweddar o wrando ar ddau achos a dderbyniwyd gan yr Ombwdsmon, a yw’n dymuno gwneud unrhyw newidiadau i'r weithdrefn ffurfiol a fabwysiadwyd yn y cyfarfod uchod ar gyfer cynnal achosion disgyblu yn erbyn cynghorwyr.

 

Awgrymodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y newidiadau canlynol y gallai'r Pwyllgor fod am eu hystyried:

·      Uno'r gwrandawiad ystyriaeth cychwynnol a'r adolygiad cyn gwrandawiad i leihau hyd cyffredinol yr achosion (Adrannau 2 a 5 y gweithdrefnau);

·      Diwygio'r gweithdrefnau i adlewyrchu’r ffaith y gall y Cynghorydd gael cynrychiolaeth gyfreithiol;

·      Diwygio Adran 7 i'w gwneud yn glir y bydd gwrandawiadau terfynol fel arfer yn cael eu clywed yn gyhoeddus;

·      Diwygio adran 10 y gweithdrefnau i ddarparu ar gyfer gofyn cwestiynau i swyddog ymchwilio'r Ombwdsmon (pan nad yw’r swyddog hwnnw hefyd yn dyst yn yr achos);

·      Cynnwys datganiad cyffredinol i nodi mai bwriad y weithdrefn yw darparu cyfiawnder a thegwch i'r cynghorydd sy’n destun yr ymchwiliad ac unrhyw bartïon eraill dan sylw, ac mai'r bwriad hefyd yw sicrhau budd ehangach y cyhoedd drwy gael proses feirniadu agored a theg;

·      Cynnwys datganiad cyffredinol i nodi y gall y Pwyllgor adolygu'r weithdrefn mewn unrhyw achos, gan ystyried budd y cyhoedd a'r angen am broses feirniadu gymesur;

 

Roedd yr Aelodau yn cefnogi’r newidiadau a awgrymwyd, yn arbennig yr angen i leihau hyd yr achosion ar gyfer yr holl bartïon dan sylw, gan gynnwys y Pwyllgor Safonau ei hun, a chytuno ar ddyddiadau a bennwyd ymlaen llaw ar y cychwyn lle bo hynny'n bosibl.

 

Er y mynegwyd y farn y byddai'n well pe bai pob parti a oedd yn rhan o wrandawiad yn gallu bod yn bresennol yn bersonol yn hytrach nag o bell, nid oedd hyn yn orfodol o dan y ddeddfwriaeth bresennol.

 

Diolchwyd i Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol am ei gymorth a'i gyfarwyddyd yn ystod y gwrandawiadau diweddar.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr awgrymiadau a amlinellir uchod yn cael eu cymeradwyo a'u cynnwys mewn dogfen Gweithdrefnau Gwrandawiadau Disgyblu ddiwygiedig i'w hystyried yn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 18 Medi 2023.

 

 

 

 

10.

BLAENGYNLLUN GWAITH. pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith Flynyddol ar gyfer 2023/24 a oedd yn manylu ar yr adroddiadau i'w cyflwyno a'u hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Nodwyd nad oedd y Flaenraglen Waith yn cynnwys cyfeiriad at faterion fel gollyngiadau ac adroddiadau disgyblu, gan nad oedd yn bosibl rhagweld pryd y byddai’r rhain yn ymddangos ar agenda cyfarfod, os o gwbl.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod ceisiadau am ollyngiad gan gynghorwyr yn ymddangos yn aml ar agenda'r Pwyllgor ac awgrymwyd y dylid ychwanegu nodyn at y Flaenraglen Waith i dynnu sylw at hyn.

   

Mewn ymateb i ymholiad, cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol i gynnwys adroddiad ar y Polisi Datrys Lleol ar gyfer cwynion anffurfiol am gynghorwyr ar y Flaenraglen Waith ar gyfer cyfarfod mis Rhagfyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Blaenraglen Waith Ddrafft 2023/24 yn cael ei chymeradwyo yn amodol ar gynnwys y materion a godwyd a’r Gweithdrefnau Gwrandawiadau Disgyblu diwygiedig drafft y cyfeiriwyd atynt yng nghofnod 9.

 

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau