Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Mawrth, 7fed Mawrth, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Nodyn: Moved from the 23rd March 2023 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mr F. Phillips a'r Cynghorydd B. Jones.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mynychwr

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

Ms D. Evans

7. Cais am ollyngiad gan y Cynghorydd Kim Broom

Yn berchen ar dai gwyliau

 

 

 

 

 

 

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24AIN IONAWR 2023. pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL  lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 24 Ionawr  2023 yn gofnod cywir.

4.

CYDYMFFURFIO Â'R CÔD YMDDYGIAD GAN GYNGHORWYR TREF A CHYNGHORWYR CYMUNED. pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad lle atgoffwyd y Pwyllgor y gofynnir bob blwyddyn i Gynghorau Tref a Chymuned ddarparu data ynghylch cydymffurfiaeth eu haelodau â'r Côd Ymddygiad ac roedd yr ymatebion a ddaeth i law yn cael eu cyfuno â data a gedwir gan y Cyngor i ddarparu trosolwg cynhwysfawr o gydymffurfiaeth y cynghorwyr hyn â'r côd, gan gynnwys y canlynol:

 

    Datgan buddiannau

    Ceisiadau am ollyngiad

    Cwynion ynghylch y côd ymddygiad

    Hyfforddiant Côd Ymddygiad.

 

Gofynnwyd am farn y Pwyllgor ar y cwmpas a'r fethodoleg ar gyfer yr ymarfer cydymffurfio â chôd ymddygiad 2022/2023.  O ystyried y dyletswyddau newydd a osodwyd ar Gynghorau Tref a Chymuned yn rhinwedd y darpariaethau sy'n rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, awgrymodd y Swyddog Monitro y dylid cynnwys cwestiynau ychwanegol ar gyfer 2022/23 i ganfod a oedd cynlluniau hyfforddi wedi'u mabwysiadu, eu cyhoeddi a'u gweithredu; a hefyd a oedd unrhyw gynlluniau hyfforddiant o'r fath yn cynnwys gofyniad i aelodau ymgymryd â hyfforddiant côd ymddygiad.  Mewn ymateb i ymholiad ynghylch dichonoldeb gofyn am gwestiynau penagored gyda'r bwriad o ddarparu gwybodaeth a chyd-destun pellach yn yr ymatebion, eglurodd y Swyddog Monitro, er bod gofyn i Gynghorau Tref a Chymuned weithredu cynlluniau hyfforddi, nid oedd cwmpas ar hyn o bryd i'r Cyngor holi ymhellach mewn perthynas â chynnwys cynlluniau o'r fath. Fodd bynnag, nodwyd y gallai'r Pwyllgor fod yn awyddus i fireinio'r holiadur ymhellach fel rhan o'r ymarfer cydymffurfio nesaf yn dilyn y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o ran darpariaeth hyfforddiant a bylchau mewn sgiliau yn y Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Cytunodd y Pwyllgor fod cwestiwn pellach yn cael ei gynnwys yn yr holiadur er mwyn canfod a oedd Model newydd y Côd Ymddygiad wedi ei fabwysiadu gan Gynghorau Tref a Chymuned.

 

Er mwyn lleihau’r baich gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r ymarfer casglu data, cynigiwyd bod y data'n cael ei gasglu drwy arolwg snap ar-lein, gyda'r bwriad o gyflwyno'r canlyniadau i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr gan ddefnyddio cymysgedd o siartiau a graffiau, gan alluogi lle bo'n bosibl, cymhariaeth â chanlyniadau'r flwyddyn ddinesig flaenorol.

5.

HYFFORDDIANT COD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED. pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â chylch gorchwyl y Pwyllgor Safonau, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad ynghylch darparu a chyflwyno hyfforddiant Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned ar gyfer 2023.

 

Wrth ystyried y trefniadau hygyrchedd, atgoffwyd y Pwyllgor fod sesiynau hyfforddi aml-leoliad wedi'u darparu yn 2022 a oedd yn galluogi cynghorwyr i fynychu naill ai wyneb yn wyneb yn Neuadd y Sir neu o bell drwy Zoom.  Dywedwyd bod recordiadau o'r sesiynau hyfforddi hefyd wedi'u darparu i Gynghorau Tref a Chymuned er mwyn galluogi cynghorwyr i gael mynediad at yr hyfforddiant ar adeg gyfleus iddynt.

 

Darparwyd i’r Pwyllgor grynodeb o'r adborth a ddarparwyd fel rhan o ddigwyddiadau hyfforddi'r flwyddyn flaenorol a oedd yn nodi, ar y cyfan, nad oedd galw amlwg am sesiwn ychwanegol nac am sesiynau i'w cynnal gyda'r nos. Fodd bynnag, dywedodd y Pwyllgor y dylid darparu un o'r sesiynau yn gynnar gyda'r nos, yn amodol ar y galw, ar yr amod y byddai'r sesiwn yn bwrw ymlaen gydag o leiaf 10 yn cadarnhau eu bwriad i fod yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

5.1

Trefnu 2 sesiwn hyfforddi côd ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned ar gyfer Mehefin/Gorffennaf 2023.

 

5.2

Cynnal un sesiwn yn ystod oriau swyddfa arferol trwy ddigwyddiad hybrid, gan fynychu’n bersonol yn neuadd y sir neu o bell drwy Zoom neu Microsoft Teams.  Darparu un sesiwn yn gynnar gyda'r nos, yn amodol ar y galw, gyda'r amod y byddai'r sesiwn yn parhau gydag o leiaf 10 yn cadarnhau eu bwriad i fod yn bresennol.

 

5.3

Bod y sesiynau yn cael eu recordio, a bod y recordiadau ar gael i Gynghorau Tref a Chymuned, ynghyd â’r deunydd hyfforddiant a ddefnyddiwyd.

 

6.

DIWEDDARIAD AR Y CAMAU GWEITHREDU. pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r cynnydd a gafwyd mewn perthynas â'r camau, ceisiadau, neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

7.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KIM BROOM. pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd Ms D.Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac ailadroddodd ei datganiad ynghylch yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr adroddiad yn cael ei drafod a phleidlais yn cael ei chynnal yn ei gylch].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Kim Broom am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig yn unig mewn perthynas â materion y cyngor ynghylch Ardoll y Dreth Gyngor ar ail gartrefi.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Broom fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10 (2)(a) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei bod yn berchen ar ail eiddo a oedd yn cael ei osod fel cartref gwyliau.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Kim Broom SIARAD A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw fater i'r Cyngor yn ymwneud ag Ardoll y Dreth Gyngor ar ail gartrefi a bod y gollyngiad yn ddilys am 12 mis.

 

8.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD JAMES PICKUP. pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd James Pickup o Gyngor Cymuned Cil-y-cwm am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad yn unig mewn perthynas â materion y Cyngor yngl?n â chynllun cysylltu â'r Grid Tywi Wysg Bute Energy.   Yn benodol, gofynnodd y Cynghorydd Pickup am ollyngiad i ddarparu cyflwyniad / briffiad mewn cyfarfod o Gyngor Cymuned Cil-y-cwm ar y cynigion a gyflwynwyd gan Bute Energy ynghylch cynllun cysylltu â'r Grid Tywi Wysg Bute Energy.

 

Dywedwyd bod gan y Cynghorydd Pickup fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10 (2)(a) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei fod yn cael ei gyflogi gan Bute Energy ac yn uwch reolwr tir y cynllun.

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Pickup yn ceisio gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(d) - mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol a Rheoliad 2(2)(f) - mae cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn cael ei gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 

 

8.1

bod y cais am ollyngiad yn cael ei wrthod.

8.2

bod y Pwyllgor Safonau yn cynghori bod y Cynghorydd Pickup yn ymatal rhag cymryd rhan yn nhrafodaethau Cyngor Cymuned Cil-y-cwm yn ymwneud â chynllun cysylltuâ'r Grid Tywi Wysg Bute Energy.

 

9.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau eraill.