Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Mawrth, 8fed Mawrth, 2022 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION - 4YDD CHWEFROR,2022 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Y Pwyllgor Safonau oedd wedi ei gynnal ar 4 Chwefror, 2022 yn gofnod cywir.

 

4.

HYFFORDDIANT CÔD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED pdf eicon PDF 331 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor fod gwneud trefniadau i gynghorwyr tref a chymuned yn y sir gael hyfforddiant côd ymddygiad yn dasg a oedd o fewn ei gylch gwaith. Er bod sesiynau blynyddol, o dan amgylchiadau arferol, fel arfer yn cael eu cynnal yn Neuadd y Sir, cafodd y sesiynau hyn eu canslo yn 2020 oherwydd y pandemig Coronafeirws, a dosbarthwyd nodiadau o'r hyfforddiant i bob cyngor tref a chymuned yn lle hynny. Yn 2021 roedd y sesiynau wedi'u cynnal o hirbell drwy Zoom. Er bod adborth gan fynychwyr y sesiynau hirbell/rhithwir wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, roedd nifer o Gynghorau wedi dweud nad oeddent wedi anfon unrhyw fynychwyr oherwydd cysylltiad rhyngrwyd annigonol a/neu ddiffyg sgiliau TG ymhlith eu haelodau. Roedd y cynghorau hyn wedi mynegi y byddai'n well ganddynt ddychwelyd i sesiynau wyneb yn wyneb.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor, er bod cynnal sesiynau hyfforddiant wyneb yn wyneb yn gyfreithiol bosibl o dan gyfyngiadau presennol Coronafeirws, roedd yn ofynnol i bob cyflogwr (gan gynnwys y Cyngor) fabwysiadu a gweithredu asesiadau risg o ran Coronafeirws. Ar hyn o bryd, roedd yr asesiadau risg ar gyfer y Siambr yn Neuadd y Sir yn cyfyngu ei chapasiti i lai na 25 o bobl. Yn ogystal, roedd yn bosibl y gallai gwaith adeiladu arfaethedig gael ei wneud yn Neuadd y Sir yn ddiweddarach eleni ac roedd yn bosibl na fyddai Siambr y Cyngor ar gael beth bynnag. Nodwyd bod Un Llais Cymru yn cynnig hyfforddiant tebyg.

 

Yn sgil y sefyllfa bresennol o ran dod o hyd i leoliad addas a chyfyngiadau parhaus oherwydd coronafeirws, awgrymwyd y dylid archwilio'r posibilrwydd o gynnal sesiwn hyfforddi hybrid [wyneb yn wyneb/rhithwir] ym mis Mehefin/Gorffennaf ynghyd â'r posibilrwydd o recordio'r sesiwn a'i rhannu'n ddiweddarach gyda'r rhai nad oedd yn gallu bod yn bresennol. Awgrymwyd ymhellach, yn dilyn yr etholiadau sydd i ddod, y dylid estyn y gwahoddiad i Gynghorwyr a etholwyd am y tro cyntaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo'r awgrymiadau a amlinellwyd uchod mewn perthynas â hyfforddiant y côd ymddygiad ar gyfer 2022 ynghyd â'r Cyflwyniad Hyfforddiant drafft diwygiedig a ddosbarthwyd.

 

5.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 pdf eicon PDF 393 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol adroddiad a oedd yn manylu ar y darpariaethau canlynol yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol ag arweinwyr grwpiau gwleidyddol a gwaith y Pwyllgor Safonau:

·       dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan aelodau eu grwpiau;

·       dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gydweithredu â'r Pwyllgor Safonau wrth roi swyddogaethau'r pwyllgor hwnnw ar waith;

·       newid swyddogaethau'r Pwyllgor Safonau i gynnwys monitro cydymffurfiaeth arweinwyr y grwpiau â'r dyletswyddau uchod a rhoi cyngor a hyfforddiant iddynt mewn perthynas â'r dyletswyddau hynny;

·       cyflwyno gofyniad statudol ar Bwyllgorau Safonau i lunio adroddiad blynyddol cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol. Roedd y Ddeddf hefyd yn nodi y dylai cynnwys penodol gael ei gynnwys yn yr adroddiadau hynny, sef:

(a) crynodeb o'r hyn sydd wedi ei wneud o ran cyflawni'r swyddogaethau y cyfeirir atynt uchod;

(b) crynodeb o unrhyw adroddiadau neu argymhellion a dderbyniwyd;

(c) crynodeb o unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd ar ôl ystyried unrhyw adroddiadau neu argymhellion a gafwyd;

(d) asesiad i ba raddau mae arweinwyr grwpiau gwleidyddol wedi cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Ddeddf.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi sut y gellid mynd i'r afael â'r materion hyn. Nodwyd bod Arweinwyr y Grwpiau presennol wedi cael gwybod am y dyletswyddau newydd a osodwyd arnynt o dan y Ddeddf uchod.

 

Yn dilyn trafodaeth, awgrymwyd y dylid trefnu cyfarfod anffurfiol rhwng Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau ac Arweinwyr y Grwpiau cyn gynted â phosibl yn dilyn yr etholiadau sydd i ddod i drafod y dyletswyddau newydd a bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod ffurfiol nesaf y Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r dull yr amlinellwyd uchod.

 

6.

CYDYMFFURFIO Â'R CÔD YMDDYGIAD - CYNGHORAU TREF A CHYMUNED pdf eicon PDF 314 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol adroddiad lle atgoffwyd y Pwyllgor y gofynnir bob blwyddyn i Gynghorau Tref a Chymuned ddarparu data ynghylch cydymffurfiaeth eu haelodau â'r Côd Ymddygiad ac roedd yr ymatebion a ddaeth i law yn cael eu cyfuno â data a gedwir gan y Swyddog Monitro i ddarparu trosolwg cynhwysfawr o gydymffurfiaeth y cynghorwyr hyn â'r côd, gan gynnwys y canlynol:

1.     Datgan buddiannau

2.     Ceisiadau am ollyngiad

3.     Cwynion ynghylch y côd ymddygiad

4.     Hyfforddiant côd ymddygiad

 

Er bod y rhan fwyaf o'r Cynghorau Tref a Chymuned wedi darparu'r data y gofynnwyd amdano yn gyson, roedd lleiafrif bach o'r Cynghorau heb wneud hynny, rhai am sawl blwyddyn.  Hyd yma, roedd y Pwyllgor wedi nodi'r data a gofnodwyd ac nid oedd wedi'i ddefnyddio mewn gwirionedd i lywio ei waith yn y dyfodol. Yn unol â hynny, gofynnwyd i'r aelodau, os oeddent am barhau â'r ymarfer hwn, a ddylid cynnwys esboniad manylach am wneud hynny yn y llythyr cais am wybodaeth a hefyd mynd ati i gynnwys adran ar y pwnc yn y digwyddiad hyfforddi yn ystod yr haf. Pwysleisiwyd nad oedd unrhyw Bwyllgor Safonau arall yng Nghymru yn gofyn am ddata o'r fath.

Cytunodd yr Aelodau y dylai'r ymarfer barhau ond awgrymwyd y gellid canolbwyntio mwy ar y Cynghorau Tref a Chymuned hynny nad oeddent wedi ymateb o'r blaen neu oedd wedi ymateb heb ddim data o ran datgan buddiannau, gan gynnwys cyfweliadau â chlercod a darllen cofnodion os oedd angen, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r côd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i barhau â'r ymarfer casglu data cyfredol ac i gymeradwyo'r awgrym a amlinellwyd uchod.

 

7.

PENDERFYNIADAU PANEL DYFARNU CYMRU pdf eicon PDF 303 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Banel Dyfarnu Cymru yn manylu ar ei ganfyddiadau mewn dau achos a gyfeiriwyd yn uniongyrchol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a dwy apêl yn dilyn penderfyniadau gan Bwyllgorau Safonau lleol.

Yn deillio o'r achosion uchod, cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol i fynd ar drywydd awgrym y dylai aelodau'r Pwyllgor gael hyfforddiant ar y broses ar gyfer ymdrin ag achosion honedig o dorri'r Côd Ymddygiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.