Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|||||
LOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 13 RHAGFYR 2021. PDF 229 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2021 yn gofnod cywir. |
|||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD T DEVICHAND PDF 315 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Cymuned T Devichand am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad, pleidleisio a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar faterion yn ymwneud â gwaredu terfynau cyflymder 20mya a chyfyngiadau parcio ar Heol Maescanner a Heol Dafen, Llanelli.
Dywedwyd bod gollyngiad yn cael ei geisio gan fod ei hetholwyr wedi gofyn i'r Cynghorydd Devichand ddadlau eu hachos a bod ganddi fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn, am ei bod yn byw yn Heol Dafen a bod y cynnig yn effeithio arni. Roedd y Cynghorydd Devichand wedi gofyn am i ollyngiad gael ei roi am y rhesymau canlynol:-
· Ni fyddai ei chyfraniad at unrhyw fusnes Cyngor o'r fath yn niweidio hyder y cyhoedd ac · Roedd ei buddiant yn gyffredin i gyfran sylweddol o'r cyhoedd
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Devichand wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.
Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol at yr ail reswm a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Devichand i gefnogi ei chais am ollyngiad, a dywedodd nad oedd yn berthnasol i'r cais ar y sail ei fod yn fater lleol ac felly nid oedd yn gyffredin i gyfran sylweddol o'r cyhoedd.
Yn dilyn trafodaeth:-
PENDERFYNWYD
|
|||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD SHAREN LOUISE DAVIES PDF 315 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir S.L. Davies am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad, pleidleisio a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar faterion yn ymwneud â gwaredu terfynau cyflymder 20mya a chyfyngiadau parcio ar Heol Maescanner, Llanelli.
Dywedwyd bod gollyngiad yn cael ei geisio gan fod ei hetholwyr wedi gofyn i'r Cynghorydd Davies ddadlau eu hachos a bod ganddi fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn, am fod ei mam yn berchen eiddo yn Heol Maescanner ac felly roedd y cynnig yn effeithio arni. Roedd y Cynghorydd Davies wedi gofyn am i ollyngiad gael ei roi am y rhesymau canlynol:-
· Ni fyddai ei chyfraniad at unrhyw fusnes Cyngor o'r fath yn niweidio hyder y cyhoedd ac · Roedd ei buddiant yn gyffredin i gyfran sylweddol o'r cyhoedd
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Davies wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.
Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol at yr ail reswm a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Davies i gefnogi ei chais am ollyngiad, a dywedodd nad oedd yn berthnasol i'r cais ar y sail ei fod yn fater lleol ac felly nid oedd yn gyffredin i gyfran sylweddol o'r cyhoedd.
Yn dilyn trafodaeth:-
PENDERFYNWYD
|
|||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim materion brys i'w trafod. |