Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

LOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 13 RHAGFYR 2021. pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2021 yn gofnod cywir.

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD T DEVICHAND pdf eicon PDF 315 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Cymuned T Devichand am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad, pleidleisio a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar faterion yn ymwneud â gwaredu terfynau cyflymder 20mya a chyfyngiadau parcio ar Heol Maescanner a Heol Dafen, Llanelli.

 

Dywedwyd bod gollyngiad yn cael ei geisio gan fod ei hetholwyr wedi gofyn i'r Cynghorydd Devichand ddadlau eu hachos a bod ganddi fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn, am ei bod yn byw yn Heol Dafen a bod y cynnig yn effeithio arni. Roedd y Cynghorydd Devichand wedi gofyn am i ollyngiad gael ei roi am y rhesymau canlynol:-

 

·       Ni fyddai ei chyfraniad at unrhyw fusnes Cyngor o'r fath yn niweidio hyder y cyhoedd ac

·       Roedd ei buddiant yn gyffredin i gyfran sylweddol o'r cyhoedd

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Devichand wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol at yr ail reswm a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Devichand i gefnogi ei chais am ollyngiad, a dywedodd nad oedd yn berthnasol i'r cais ar y sail ei fod yn fater lleol ac felly nid oedd yn gyffredin i gyfran sylweddol o'r cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth:-

 

PENDERFYNWYD

 

4.1

bod y gollyngiad yn cael ei roi o dan Reoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Tegwen Devichand siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig, ond nid pleidleisio, yng nghyfarfodydd Cyngor Gwledig Llanelli mewn perthynas â materion oedd yn ymwneud â gwaredu terfynau cyflymder 20mya a chyfyngiadau parcio ar Heol Maescanner a Heol Dafen, Llanelli

4.2

Bod cyfnod y gollyngiad yn cael ei roi hyd at ddiwedd cyfnod presennol y Cynghorydd Devichand yn ei swydd hyd at yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022

 

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD SHAREN LOUISE DAVIES pdf eicon PDF 315 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir S.L. Davies am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad, pleidleisio a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar faterion yn ymwneud â gwaredu terfynau cyflymder 20mya a chyfyngiadau parcio ar Heol Maescanner, Llanelli.

 

Dywedwyd bod gollyngiad yn cael ei geisio gan fod ei hetholwyr wedi gofyn i'r Cynghorydd Davies ddadlau eu hachos a bod ganddi fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn, am fod ei mam yn berchen eiddo yn Heol Maescanner ac felly roedd y cynnig yn effeithio arni. Roedd y Cynghorydd Davies wedi gofyn am i ollyngiad gael ei roi am y rhesymau canlynol:-

 

·       Ni fyddai ei chyfraniad at unrhyw fusnes Cyngor o'r fath yn niweidio hyder y cyhoedd ac

·       Roedd ei buddiant yn gyffredin i gyfran sylweddol o'r cyhoedd

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Davies wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol at yr ail reswm a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Davies i gefnogi ei chais am ollyngiad, a dywedodd nad oedd yn berthnasol i'r cais ar y sail ei fod yn fater lleol ac felly nid oedd yn gyffredin i gyfran sylweddol o'r cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth:-

 

PENDERFYNWYD

 

4.1

bod y gollyngiad yn cael ei roi o dan Reoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Sharen Louise Davies siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig, ond nid pleidleisio, yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Gwledig Llanelli mewn perthynas â materion oedd yn ymwneud â gwaredu terfynau cyflymder 20mya a chyfyngiadau parcio ar Heol Maescanner, Llanelli

4.2

Bod cyfnod y gollyngiad yn cael ei roi hyd at ddiwedd cyfnod presennol y Cynghorydd Davies yn ei swydd hyd at yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022

 

6.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau