Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd B. Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yr Aelod

Rhif yr Eitem

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd Gareth Thomas

9 – Ceisiadau am ollyngiad yn ymwneud â ffermio ac amaethyddiaeth yn gyffredinol;

Y Cynghorydd Thomas yn un o'r ymgeiswyr am ollyngiad.

 

 

3.

PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 297 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r enwebiadau ar gyfer Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgorau Safonau ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-23.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

3.1

benodi M. Dodd yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-23;

3.2

penodi J. James yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-23.

 

4.

COFNODION - 8FED MAWRTH,2022 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2022, gan eu bod yn gywir.

 

5.

ADOLYGIAD O'R POLISI DATGELU CAMARFER pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad lle dywedwyd bod swyddogion wedi adolygu Polisi Datgelu Camarfer y Cyngor ac, ar wahân i adlewyrchu penodiad Cadeirydd newydd y Pwyllgor Safonau, ni ystyriwyd bod angen unrhyw newidiadau eraill gan na fu unrhyw ddatblygiadau mewn deddfwriaeth, cyfraith achosion neu ganllawiau, a oedd yn golygu nad oedd angen gwneud unrhyw ddiwygiadau.

 

Ers yr adolygiad polisi diwethaf ym mis Mehefin 2021, nodwyd bod cyfanswm o 5 cwyn datgelu camarfer wedi’u cofnodi, a bod pob un ond un ohonynt wedi’u datrys. Roedd y mater arall yn parhau. Roedd cynnydd materion parhaus yn cael ei fonitro'n rheolaidd gan swyddogion yr Adran Adnoddau Dynol ac Adran y Gyfraith. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi Datgelu Camarfer ddiweddaredig y Cyngor.

 

6.

Y WEITHDREFN AR GYFER CYNNAL GWRANDAWIADAU DISGYBLU pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddogfen a oedd yn nodi'r weithdrefn a argymhellir i'r Pwyllgor Safonau ei dilyn lle'r oedd angen gwneud penderfyniad ynghylch ymddygiad cynghorydd, cynghorydd tref/cymuned neu aelod cyfetholedig yn dilyn atgyfeiriad gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Nodwyd y dylai’r cyfeiriad at ‘Dinas a Sir Abertawe’ ym mharagraff 7.4 ddarllen fel ‘Cyngor Sir Caerfyrddin’.

 

Roedd Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (y Ddeddf) yn galluogi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’w gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Safonau benderfynu a oedd cynghorydd neu aelod cyfetholedig wedi torri’r côd ymddygiad, lle’r oedd Ombwdsmon o’r farn nad oedd ffeithiau’r toriad honedig yn cyfiawnhau cyfeirio ar unwaith at Banel Dyfarnu Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1 gymeradwyo'r gweithdrefnau i'w dilyn os bydd yn ofynnol i'r Pwyllgor gynnal gwrandawiad disgyblu i achos honedig o dorri Côd Ymddygiad yr Aelodau;

6.2 bod y Pwyllgor yn cael hyfforddiant priodol ar gyfer cynnal gwrandawiad disgyblu.

 

7.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD MARTYN PALFREMAN pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Martyn Palfreman am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â darparu gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Dywedwyd y ceisiwyd gollyngiad oherwydd bod gan y Cynghorydd Palfreman fuddiant personol a rhagfarnus ym musnes y Cyngor yn ymwneud â’r mater hwn gan ei fod yn ymgymryd â gwaith fel ymgynghorydd i gyrff cyhoeddus (gan gynnwys yr awdurdod hwn) yn cynghori ar y materion hyn a byddai aelod o’r cyhoedd, oedd â gwybodaeth lawn o’r ffeithiau, yn rhesymol yn ystyried y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai’n debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1 ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Martyn Palfreman, tan ddiwedd y tymor etholiadol presennol, i SIARAD A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG ar faterion yn ymwneud â darparu gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

7.2 nad yw’r gollyngiad fodd bynnag yn berthnasol ar unrhyw achlysur pan fo’r Cyngor neu Bwyllgor yn trafod yn benodol unrhyw waith y mae’r Cynghorydd Palfreman wedi, neu o bosibl, yn ymwneud yn uniongyrchol ag ef drwy ei fusnes neu weithgareddau proffesiynol cysylltiedig.

 

8.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD CARYS JONES pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Carys Jones am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn unig mewn perthynas â busnes sy'n ymwneud â grîn Llansteffan.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(vi) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei bod hi a'i theulu yn byw yn union gyferbyn â'r darn o dir dan sylw.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Jones hefyd yn rhagfarnol oherwydd byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Carys Jones SIARAD A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG ar unrhyw fusnes cyngor yn ymwneud â grîn Llansteffan a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y tymor etholiadol presennol.

 

9.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORWYR JEAN LEWIS, ANN DAVIES, TYSSEL EVANS, KIM BROOM, KEN HOWELL, GARETH THOMAS, MANSEL CHARLES, HEFIN JONES AC ELWYN WILLIAMS pdf eicon PDF 302 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Gadawodd y Cynghorydd Gareth Thomas y cyfarfod wedi iddo ddatgan buddiant yn yr eitem hon.]

 

Rhoddodd y pwyllgor ystyriaeth i geisiadau a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Sir Jean Lewis, Ann Davies, Gareth Beynon Thomas, Ken Howell, Hefin Jones, Arwel Davies, Mansel Charles, Tyssul Evans, Kim Broom ac Elwyn Williams am ollyngiad o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallent siarad, pleidleisio a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw fater Cyngor sy'n ymwneud â ffermio'n gyffredinol.

 

Adroddwyd bod cais am ollyngiad wedi'i wneud gan bob Cynghorydd oherwydd y gallent, o bosibl, fod â buddiant personol mewn materion o'r fath yn rhinwedd paragraffau 10(2) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau yn yr ystyr eu bod i gyd naill ai'n ffermio yn y Sir, yn berchen ar dir fferm sy'n cael ei ffermio gan bobl eraill, neu fod ganddynt gymdeithion personol agos a oedd yn ffermio.

 

Roedd buddiant yr aelodau hefyd yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorwyr ynghylch budd y cyhoedd.

 

Yn unol â hynny roedd y Cynghorwyr wedi gofyn am ganiatáu gollyngiad ar y sail a nodir yn y cais.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

9.1   PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorwyr Sir Jean Lewis, Ann Davies, Gareth Beynon Thomas, Ken Howell, Hefin Jones, Arwel Davies, Mansel Charles, Tyssul Evans, Kim Broom ac Elwyn Williams i SIARAD A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw faterion i'r Cyngor sy'n ymwneud â ffermio yn gyffredinol, tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

 

9.2 PENDERFYNWYD PEIDIO â chaniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorwyr Sir Jean Lewis, Ann Davies, Gareth Beynon Thomas, Ken Howell, Hefin Jones, Arwel Davies, Mansel Charles, Tyssul Evans, Kim Broom ac Elwyn Williams i BLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw faterion i'r Cyngor sy'n ymwneud â ffermio yn gyffredinol, tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol;

 

9.3 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorwyr a enwir uchod yn cael eu cynghori i geisio cyngor cyfreithiol pellach ac os oes angen, wneud cais am ollyngiad arall os byddant yn dymuno cymryd rhan ym musnes y Cyngor sy'n ymwneud yn benodol â hwy, neu sy'n debygol o effeithio arnynt hwy, neu'u cysylltiadau personol agos o ran gweithgareddau ffermio neu dir fferm.

 

10.

PENDERFYNIAD Y PANEL DYFARNU - Y CYNGHORYDD J BISHOP pdf eicon PDF 316 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar benderfyniad Panel Dyfarnu Cymru ar achos y Cynghorydd Jonathan Bishop o Gyngor Sir Caerffili, Cyngor Cymuned Ffynnon Taf a Nantgarw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi penderfyniad y Panel.

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau