Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G.B. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.

PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried enwebiadau ar gyfer Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau ar gyfer gweddill Blwyddyn y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

3.1

Penodi'r Cynghorydd M. Dodd yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau am weddill Blwyddyn y Cyngor.

3.2

Penodi'r Cynghorydd D. Evans yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau am weddill Blwyddyn y Cyngor.

 

4.

LOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 20FED MEDI, 2021. pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 20 Medi 2021, gan eu bod yn gywir.

5.

DATA CÔD YMDDYGIAD GAN GYNGHORAU TREF A CHYMUNED pdf eicon PDF 303 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol ag arfer a sefydlwyd yn flaenorol, anfonwyd llythyrau at bob Cyngor Tref a Chymuned yn y Sir ym mis Ebrill 2021 yn gofyn am wybodaeth am gydymffurfiaeth â chod ymddygiad dros y 12 mis blaenorol.  Anfonwyd llythyrau pellach ym mis Gorffennaf a mis Tachwedd at y Cynghorau hynny nad oeddent wedi ymateb. 

 

Roedd y data a ddarparwyd wedi'i gyfuno â gwybodaeth arall a gedwir gan y Cyngor Sir. Roedd yr adroddiad yn cynnwys data tebyg ar gyfer blynyddoedd blaenorol i helpu i

 nodi unrhyw dueddiadau.

 

Nododd y Pwyllgor y casgliadau canlynol:

·         Nid oedd cydberthynas amlwg rhwng côd hyfforddiant a nifer y cwynion

·         Roedd nifer y cwynion, er eu bod yn uwch eleni, yn dal yn isel yn gyffredinol o gofio'r nifer fawr o gynghorwyr dan sylw

·         Gallai problemau mewn un cyngor effeithio mewn modd anghyfartal ar nifer y cwynion yn ystod y flwyddyn

·         Roedd amrywiadau eang yn nifer y datganiadau o fuddiant a wnaed rhwng cynghorau.

 

Nodwyd, oherwydd y tarfu a achoswyd gan y pandemig

Coronafeirws, na chafodd cais am ddata ei anfon at gynghorau y llynedd mewn perthynas â'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020. Roedd y data a ddangoswyd ar gyfer y cyfnod hwnnw wedi'i gyfyngu i'r hyn a gedwir gan y Cyngor Sir.

 

Awgrymwyd bod y data'n anodd ei ddehongli, ac y gellid ei gyflwyno mewn fformat gwahanol.  Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol na fyddai graffiau a siartiau yn rhoi digon o wybodaeth nac yn galluogi defnyddwyr i weld yn glir y tueddiadau ar gyfer Cyngor penodol. 

 

Mynegwyd pryder nad oedd rhai Cynghorau wedi ymateb i'r cais am ddata.  Awgrymwyd y gellid anfon e-bost awtomatig bob tri mis.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod pob Cyngor nad oedd wedi ymateb wedi derbyn tri llythyr, ond yn sgil y newidiadau i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 byddai'r broses yn cael ei hadolygu.

 

Dywedodd y Pwyllgor yr hoffai weld cofnod cyflawn o ddata a gofynnodd i Gynghorau ddarparu data ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n ysgrifennu at y Cynghorau yn gofyn am y data hwn.

 

Gofynnwyd a fyddai wedi bod yn bosibl ffonio'r Cynghorau nad oeddent wedi darparu data.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai hyn wedi golygu gwneud dros 20 o alwadau ffôn ond nad oedd hyn yn ymarferol. 

 

Atgoffodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith y Pwyllgor, hyd yn oed heb y data, mai Clercod y Pwyllgor oedd y swyddogion cyfrifol ar gyfer y Cynghorau a byddai'n monitro perfformiad y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r data côd ymddygiad sydd ar gael gan Gynghorau Tref a Chymuned.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'w Adroddiad Blynyddol 2020/21 ynghylch y gwaith oedd wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod hwnnw a nododd, petai'r adroddiad yn cael ei fabwysiadu, y byddai'n cael ei roi gerbron cyfarfod y Cyngor yn gynnar yn 2022 i'w gymeradwyo.

 

Nododdaelodau’r Pwyllgor, o fis Mai 2022, byddai darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn berthnasol o ran llunio adroddiadau, ac felly byddai angen newid amseriad a chynnwys yr adroddiadau.

 

Adroddwyd nad oedd yr Ombwdsmon, yn 2020-21, wedi cyfeirio unrhyw g?ynion at y Pwyllgor, ac nad oedd unrhyw faterion wedi'u cyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru mewn perthynas â Chynghorwyr o Sir Gaerfyrddin. 

 

Nododd yr adroddiad fod yr Ombwdsmon yn ystod y cyfnod hwn wedi ystyried a chau cyfanswm o 15 o g?ynion côd ymddygiad yn erbyn Cynghorwyr o Sir Gaerfyrddin. Fodd bynnag, roedd 2 arall nad oeddent wedi'u cau a byddai'r adroddiad yn cael ei newid yn unol â hynny a byddai'r adroddiad yn cael ei ddiweddaru i gynnwys paragraff ynghylch yr achosion sy'n cael eu dwyn ymlaen.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai'n bosibl i'r adroddiad gynnwys tabl yn dangos nifer y cyfarfodydd a'r data presenoldeb ar gyfer y Pwyllgor.  Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai hyn yn bosibl ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol, ond oherwydd y cyfyngiadau amser ni fyddai'n bosibl ar gyfer y cyfnod adrodd hwn. 

 

Nodwyd bod Cyngor Cymuned Sanclêr wedi'i grybwyll yn yr adroddiad a gofynnwyd pam na soniwyd am y Cynghorau eraill oedd â chynghorwyr ar y Pwyllgor.  Dywedodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

na ddylid sôn am wardiau'r Cynghorwyr Sir gan eu bod yn cynrychioli'r Cyngor Sir ac nid y Cynghorau Cymuned ar y Pwyllgor.  

 

Awgrymwyd y dylid gofyn i Mr Andre Morgan (cyn-Gadeirydd) roi sylwadau ar yr adroddiad ac y dylai'r paragraff cyflwyno gynnwys cyfeiriad at covid a hefyd cydnabod y gwaith a wnaed gan Mr Andre Morgan a Mr Alun Williams.

 

Gofynnwyd a fyddai modd derbyn copi o'r adroddiad drafft yn gynharach na chyfarfod mis Rhagfyr.  Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol mai penderfyniad y Pwyllgor oedd derbyn yr adroddiad ym mis Rhagfyr ac nid ym mis Medi fel yr oedd o'r blaen.  Awgrymwyd y gellid dosbarthu adroddiadau drafft i'r Pwyllgor yn y dyfodol drwy e-bost cyn eu hystyried yng nghyfarfodydd y Pwyllgor.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y byddai'n cysylltu â hwy y tu allan i'r cyfarfod ynghylch y diwygiadau i'r adroddiad gan ystyried y sylwadau a wnaed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid mabwysiadu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2020/21 ar ôl derbyn y newidiadau a awgrymwyd.

7.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn manylu ar Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a oedd yn cynnwys nifer o ddarpariaethau a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol ag arweinwyr grwpiau gwleidyddol a gwaith y Pwyllgor Safonau.

 

Roedd y rhain yn cynnwys:

·         Dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan aelodau eu grwpiau

·         Dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gydweithredu â'r pwyllgor safonau wrth roi swyddogaethau'r pwyllgor hwnnw ar waith

·         Newid swyddogaethau'r Pwyllgor Safonau i gynnwys monitro cydymffurfiaeth arweinwyr gr?p â'r dyletswyddau uchod a rhoi cyngor a hyfforddiant iddynt mewn perthynas â'r dyletswyddau hynny.

·         Cyflwyno gofyniad statudol ar Bwyllgorau Safonau i lunio adroddiad blynyddol cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol. Rhagnodi bod cynnwys penodol yn cael ei gynnwys yn yr adroddiadau hynny:

(a) Crynodeb o'r hyn sydd wedi ei wneud o ran cyflawni'r swyddogaethau y cyfeirir atynt uchod

(b) Crynodeb o unrhyw adroddiadau neu argymhellion a dderbyniwyd

(c) Crynodeb o unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd ar ôl ystyried unrhyw adroddiadau neu argymhellion a gafwyd

(d) Asesiad i ba raddau mae arweinwyr grwpiau gwleidyddol wedi cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Ddeddf

 

Yn dilyn trafodaeth:

 

Penderfynwyd:

7.1

Y byddai'r Pwyllgor yn trafod ac yn cytuno ar ofynion y cyfarfodydd gydag arweinwyr y grwpiau gwleidyddol yng Nghyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Mawrth 2022.

7.2

Cwrdd ag arweinwyr y grwpiau gwleidyddol cyn gynted â phosibl yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai.

7.3

Dylid cynnwys yr adborth hwnnw o'r trafodaethau gydag arweinwyr y grwpiau gwleidyddol fel eitem ar yr agenda yng Nghyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Mehefin 2022. 

 

8.

ACHOS DIWEDDAR - PENDERFYNIAD PWYLLGOR SAFONAU CYNGOR DINAS CASNEWYDD YNGHYLCH Y CYNGHORYDD JOAN WATKINS pdf eicon PDF 457 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adolygodd y Pwyllgor adroddiad yn manylu ar yr achos a ystyriwyd gan Bwyllgor Safonau Cyngor Dinas Casnewydd ynghylch y Cynghorydd Joan Watkins yn dilyn cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac ymchwiliad ganddo.

 

Yr honiadau oedd bod y Cynghorydd Watkins wedi torri Côd Ymddygiad Cyngor Dinas Casnewydd gan ei bod wedi defnyddio ei swydd fel aelod o'r cyngor a'r bwrdd iechyd lleol yn amhriodol pan oedd yn eirioli ar ran claf mewn meddygfa ac wedi hynny wrth wneud cwynion i'r bwrdd iechyd am staff y feddygfa.

 

Yn ystod trafodaethau ynghylch yr adroddiad, cwestiynwyd parodrwydd y Pwyllgor i ddelio ag achos tebyg.   Dywedodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith mai profiad cyfyngedig oedd gan yr Awdurdod o gynnull y cyfarfodydd hyn, ond ni fyddai hyn yn broblem gan ei bod yn bosibl defnyddio arbenigedd cydweithwyr ledled Cymru. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

9.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau