Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G.B. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

COFNODION - 12FED GORFFENNAF 2021. pdf eicon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau oedd wedi ei gynnal ar 12 Gorffennaf, 2021 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

HYFFORDDIANT CÔD YMDDYGIAD. pdf eicon PDF 353 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad am y sesiynau hyfforddiant côd ymddygiad rhithwir i gynghorwyr Tref a Chymuned ar 21 a 22 Gorffennaf 2021. Roedd presenoldeb ychydig yn is na'r blynyddoedd blaenorol ac roedd cynrychiolaeth o 23 o gynghorau yno (tua thraean o'r cyfanswm). Roedd copïau o'r cyflwyniad oedd yn rhan o'r hyfforddiant, nodyn briffio ar achosion côd ymddygiad diweddar, a holiadur adborth wedi cael eu hanfon i'r holl Gynghorau Tref a Chymuned. Nodwyd bod Cyngor Tref Caerfyrddin hefyd wedi trefnu ei ddigwyddiadau hyfforddiant codau ei hun gydag Un Llais Cymru ar 20 a 21 Gorffennaf, a bod 9 o'i gynghorwyr yn bresennol, ynghyd â'r clerc a'r dirprwy glerc.

Awgrymwyd bod sesiynau'r dyfodol, boed yn cael eu cynnal mewn lleoliad penodol, yn rhithwir neu'n hybrid, yn cael eu recordio er mwyn i bobl allu eu gwylio'n ddiweddarach pe baent yn dymuno, a bod adolygiadau o'r achosion diweddaraf yn cymryd lle astudiaethau achos.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a chymeradwyo'r awgrymiadau uchod.

 

5.

DATA CÔD YMDDYGIAD. pdf eicon PDF 314 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cofnod 7 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2021, lle cytunwyd i gynnal ymarfer blynyddol arall yn casglu data cydymffurfio â chodau oddi wrth Gynghorau Tref a Chymuned, dywedwyd bod llythyr wedi'i anfon at bob un o'r 72 cyngor ar 13 Ebrill 2021 yn gofyn am atebion erbyn 1 Mehefin 2021. Hysbyswyd y Pwyllgor mai 54 o gynghorau oedd wedi ymateb o hyd o blith y 72, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n anfon nodyn atgoffa pellach i'r Cynghorau Tref a Chymuned oedd heb ymateb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn o ran cael data gan Gynghorau Tref a Chymuned.

 

6.

CANLLAWIAU DIWYGIEDIG AR Y CÔD YMDDYGIAD. pdf eicon PDF 332 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad yn manylu ar ddwy set o ganllawiau diwygiedig a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch defnyddio Côd Ymddygiad yr Aelodau. Roedd y set gyntaf o ganllawiau ar gyfer aelodau cynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol, a phaneli heddlu a throseddu, tra bo'r ail set ar gyfer cynghorau Tref a Chymuned. Roedd y canllawiau diwygiedig yn adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Mewn ymateb i sylw, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n briodol gohirio cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor tan y cyfarfod a oedd wedi'i drefnu ar gyfer mis Mawrth 2022.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.1 nodi'r canllawiau diwygiedig a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a rhoi dolen i'r canllawiau ar-lein i  Gynghorau Tref a Chymuned;

 

6.2 annog Cynghorau Tref a Chymuned i fabwysiadu'r 'Protocol Unioni Materion yn Lleol Enghreifftiol ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned' a oedd ar gael gan Un Llais Cymru.

 

7.

PANEL DYFARNU CYMRU - Y CYNGHORYDD DAVID POOLE. pdf eicon PDF 350 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad yn manylu ar benderfyniad Panel Dyfarnu Cymru ar achos y Cynghorydd David Poole, cyn-arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi penderfyniad y Panel.

8.

ADOLYGIAD O'R POLISI DATGELU CAMARFER. pdf eicon PDF 315 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Yn dilyn cofnod 5 o'r cyfarfod diwethaf lle mynegwyd pryder bod Cadeirydd y Pwyllgor wedi'i enwi yn y Polisi Datgelu Camarfer fel cyswllt posibl ar gyfer datgelwyr camarfer, adroddwyd bod astudiaeth o bolisïau datgelu camarfer awdurdodau cyfagos wedi dangos nad oedd yr un ohonynt yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Safonau fel cyswllt posibl ar gyfer datgelwyr camarfer. Ystyriwyd ei bod yn bwysig, fodd bynnag, o ystyried rôl y Pwyllgor o ran goruchwylio'r polisi, nad oedd manylion y Cadeirydd yn cael eu dileu'n llwyr ond mai dim ond ei gyfeiriad e-bost cyngor fyddai'n cael ei ddarparu. Awgrymwyd felly y dylid diwygio'r Polisi yn unol â'r cynigion a amlinellir yn y drafft a ddosbarthwyd, a oedd yn egluro na fyddai'r Cadeirydd Safonau yn gweithredu fel swyddog cyswllt pe bai datgelwr camarfer yn cysylltu ag ef.

Awgrymwyd y dylai unrhyw un a enwyd fel swyddog cyswllt yn y Polisi gael hyfforddiant penodol ar gyfer y rôl honno.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi a chymeradwyo'r cynigion a amlinellwyd yn amodol ar bwysleisio nad oedd y swyddogion yn y tabl dan Prif Weithredwr [a oedd yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Safonau] yn swyddogion 'cyswllt' o ran datgelu camarfer.

9.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau