Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Llun, 14eg Mehefin, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aelod

Rhif yr Eitem

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd Rob James

4 – Cais am Ollyngiad gan y Cynghorydd N. E. Holman

Mae'n adnabod yr ymgeisydd.

 

 

3.

LOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 25 MAWRTH 2021. pdf eicon PDF 191 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD N. E. HOLMAN pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Gan fod y Cynghorydd Rob James wedi datgan buddiant yn yr eitem hon, cymerodd ran yn y drafodaeth ond nid oedd wedi pleidleisio].

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cymuned Nathan Edward Holman am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a phleidleisio mewn perthynas â materion yn ymwneud â chyllid a staff yng Nghyngor Cymuned Llan-non.

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi cael ei wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)c - gwaith y Cyngor sy'n effeithio ar eich llesiant neu eich sefyllfa ariannol, neu lesiant, sefyllfa ariannol neu fuddiannau eraill rhywun sy'n byw gyda chi, neu rywun y mae gennych gysylltiad personol agos ag ef.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Holman hefyd yn rhagfarnol, oherwydd byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ei ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd. Gan hynny, roedd y Cynghorydd Holman wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Yn dilyn trafodaeth:-

 

PENDERFYNWYD bod y cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Nathan Edward Holman am ollyngiad i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llan-non mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â Chyngor Cymuned Llan-non yn cael ei wrthod.

 

 

 

5.

ADOLYGIAD O'R POLISI DATGELU CAMARFER pdf eicon PDF 311 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd y Polisi Datgelu Camarfer a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad yn dangos y newidiadau a oedd wedi'u gwneud i'r polisi, ac felly, argymhellwyd y byddai'r eitem hon yn cael ei gohirio tan y cyfarfod nesaf er mwyn i'r Pwyllgor ystyried y newidiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y Polisi Datgelu Camarfer tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau.

 

 

6.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 pdf eicon PDF 314 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r newidiadau deddfwriaethol o fewn Deddf Etholiadau a Llywodraeth Leol (Cymru) 2021 a sut y maent yn effeithio ar waith y pwyllgor.

 

Roedd y Ddeddf yn cynnwys sawl darpariaeth a fyddai'n effeithio ar waith y pwyllgor yn uniongyrchol fel a ganlyn:-

 

·       Gosod dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal ymddygiad o safon uchel ymhlith aelodau eu gr?p.

·       Gosod dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gydweithredu â'r Pwyllgor Safonau wrth roi swyddogaethau'r pwyllgor hwnnw ar waith.

·       Newid swyddogaethau'r Pwyllgor Safonau i gynnwys monitro cydymffurfiaeth arweinwyr gr?p â'r dyletswyddau uchod a rhoi cyngor a hyfforddiant iddynt mewn perthynas â'r dyletswyddau hynny.

·       Cyflwyno gofynion statudol ar Bwyllgorau Safonau i lunio adroddiad blynyddol cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol, a rhagnodi bod cynnwys penodol yn cael ei gynnwys yn yr adroddiadau hynny, sef:

(a)Crynodeb o'r hyn sydd wedi cael ei wneud o ran cyflawni'r swyddogaethau y cyfeirir atynt uchod.

(b)Crynodeb o unrhyw adroddiadau neu argymhellion a gafwyd.

(c)Crynodeb o unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd yn dilyn rhoi ystyriaeth i unrhyw adroddiadau neu argymhellion a gafwyd.

(d)Asesiad i ba raddau mae arweinwyr grwpiau gwleidyddol wedi cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Ddeddf.

·       Gosod dyletswydd ar Gynghorau Tref a Chymuned i ddatblygu a chyflwyno cynlluniau hyfforddiant ar gyfer eu haelodau a'u staff.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r newidiadau deddfwriaethol sy'n cael eu gwneud gan y Ddeddf a sut y maent yn effeithio ar waith y pwyllgor.

 

 

7.

DATA CÔD YMDDYGIAD pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth mewn perthynas â'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran cael data gan Gynghorau Tref a Chymuned.

 

Rhoddwyd gwybod mai dim ond traean o'r Cynghorau oedd wedi ymateb i'r e-bost yn gofyn am wybodaeth am ddata yn ymwneud â chydymffurfiaeth gan y Cynghorau Tref a Chymuned. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai swyddogion yn anfon e-bost arall at y Cynghorau hynny sydd heb ymateb hyd yma ac y byddant yn adrodd yn ôl yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran cael data gan Gynghorau Tref a Chymuned.

 

 

8.

HYFFORDDIANT YNGHYLCH Y CÔD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn gofyn am benderfyniad ynghylch pa ddull a ddefnyddir i roi hyfforddiant i Gynghorau Tref a Chymuned a pha mor aml y byddai'n cael ei gynnal.

 

Penderfynodd y Pwyllgor, yn ei gyfarfod ym mis Mawrth, 2021 gynnig hyfforddiant côd ymddygiad pellach i Gynghorwyr Tref a Chymuned ar ffurf dau ddigwyddiad ar-lein yn ystod yr haf.

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybod fod llythyrau wedi cael eu hanfon at yr holl Gynghorau Tref a Chymuned yn rhoi gwybod iddynt am yr hyfforddiant ac yn gofyn am eu barn. O'r cynghorau a ymatebodd, roedd gan y rhan fwyaf ohonynt ddiddordeb mewn mynd i ddigwyddiadau o'r fath. Fodd bynnag, mynegodd nifer bach ohonynt bryder na fyddai rhai o'u haelodau yn gallu mynd i'r digwyddiad oherwydd diffyg offer addas neu ddiffyg hyder o ran eu defnyddio.

 

Nododd y Pwyllgor fod sawl cyngor wedi dangos diddordeb mewn rhannu'r sesiynau yn rhai gyda'r nos ac yn ystod y dydd er mwyn darparu ar gyfer patrymau gweithio eu haelodau.

 

Yng ngoleuni'r ymatebion, cynigiwyd felly bod 2 sesiwn ar-lein yn cael eu cynnal ym mis Gorffennaf, un yn ystod y prynhawn ac un gyda'r nos.

 

Y gobaith oedd recordio'r hyfforddiant a darparu dolen i Aelodau'r Cyngor na fyddent yn gallu mynd i'r dyddiadau hyfforddiant arfaethedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal dau sesiwn ar-lein ym mis Gorffennaf 2021, un yn y prynhawn ac un gyda'r nos.

 

 

9.

COFLYFR CÔD YMDDYGIAD OMBWDSMON pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhifyn diweddaraf o ‘Goflyfr Côd Ymddygiad’ Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a oedd yn berthnasol i 2020.

 

Rhoddodd y coflyfr grynodeb o 9 achos lle ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth o dorri amodau. Nododd y Pwyllgor fod un o'r achosion hyn yn ymwneud ag aelod o Gyngor Sir Caerfyrddin a bod achos arall yn ymwneud ag aelod o Gyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

 

10.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.