Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Llun, 18fed Tachwedd, 2019 2.00 yp, NEWYDD

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mr Andre Morgan (Cadeirydd).

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

LOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR:

3.1

13EG MEDI, 2019 pdf eicon PDF 219 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Medi 2019 i nodi eu bod yn gywir.

 

3.2

26AIN MEDI, 2019 pdf eicon PDF 287 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019, gan eu bod yn gywir, yn amodol ar ddileu teitl Cynghorydd o enw M. Dodd (Cadeirydd).

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD MICHAEL THEODOULOU pdf eicon PDF 470 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Michael Theodoulou o Gyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn, am ollyngiad o dan ddarpariaethau'r Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad yn unig am ei waith gyda CBSA Ltd a phartneriaeth bosibl rhwng y cyngor a'r cwmni hwn i geisio am gyllid grant gan y Gronfa Newid yn yr Hinsawdd.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i gyflwyno oherwydd bod gan y Cynghorydd Theodoulou fuddiant personol yn rhinwedd paragraff 10(2)(a) (i) o'r Côd Ymddygiad gan fod y mater yn ymwneud â busnes a gynhelir gan y Cynghorydd, neu'n debygol o effeithio ar y busnes hwnnw.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Theodoulou hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod y ffeithiau perthnasol, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwn mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Theodoulou wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2011.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a 2 (f) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Michael Theodoulou am ollyngiad i siarad yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn o ran materion mewn perthynas â phartneriaeth bosibl rhwng CBSA Ltd a'r Cyngor.

 

5.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.