Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone +44 330 336 4321 Passcode: 76531459# . (For call charges contact your service provider)
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion:
|
||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2020 yn gywir.
|
||||||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD DOROTHY JONES. PDF 105 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Dorothy Jones am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio ar faterion yn ymwneud â darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol yn Sir Gaerfyrddin, yn enwedig gweithrediadau'r Panel Ymgynghorol Adolygu Cludiant i'r Ysgol a sefydlwyd gan y Bwrdd Gweithredol i ymchwilio i'r mater hwn yr oedd y Cynghorydd Jones wedi'i phenodi i wasanaethu arno.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10(2)(b)(i) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei bod yn rhiant i blant oed ysgol sy'n byw yn y Sir.
Roedd buddiant y Cynghorydd Jones hefyd yn rhagfarnol petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd. Gan hynny, roedd y Cynghorydd Jones wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.
Nododd y Pwyllgor fod gollyngiad wedi'i roi i'r Cynghorydd Jones mewn perthynas â'r buddiant hwn ar 14 Chwefror 2020 ond nid oedd wedi cael y cyfle i wneud defnydd ohono eto.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Dorothy Jones SIARAD A PHLEIDLEISIO ar unrhyw fater y Cyngor sy'n ymwneud â chludiant o'r cartref i'r ysgol yn Sir Gaerfyrddin a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd ei chyfnod yn y swydd.
|
||||||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD. PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Ken Lloyd am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar faterion y cyngor yn ymwneud ag Ynni Sir Gâr neu faterion sy’n debygol o gael effaith ar Ynni Sir Gâr, a oedd yn gymdeithas budd cymunedol sy'n gweithredu yn y Sir.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a) (ix)(bb) ac (ee) a 10(2)(b)(v) o'r Côd Ymddygiad, sef ei fod ef a chysylltiadau personol agos iddo yn aelodau o'r sefydliad hwnnw a'u bod â chyfranddaliadau ynddo.
Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Rhoddwyd gollyngiad i'r Cynghorydd Lloyd yn flaenorol mewn perthynas â'r buddiant hwn ar 21 Ionawr 2020 a ddefnyddiodd er mwyn siarad yng nghyfarfodydd y Cyngor Llawn ar faterion fel newid yn yr hinsawdd.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd SIARAD A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG mewn perthynas â materion cyffredinol yn ymwneud â'r amgylchedd ond nid materion yn ymwneud yn benodol ag Ynni Sir Gâr, a bod y gollyngiad mewn grym tan ddiwedd ei gyfnod presennol yn y swydd.
|
||||||||||
PENDERFYNIADAU'R PANEL DYFARNU. PDF 105 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: 1. Roedd Mrs J. James wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ond barnodd y Swyddog Monitro wedi hynny nad oedd o fuddiant personol. 2. Gan fod y Cynghorydd R. James wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod ac felly nid oedd wedi cymryd rhan yn y broses o ystyried y mater a phenderfynu arno.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Banel Dyfarnu Cymru yn manylu ar ei ganfyddiadau yn achosion y Cynghorydd Sir Roderick o Gyngor Sir Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a'r Cynghorydd Sir Shotton o Gyngor Sir y Fflint.
Cyfeiriwyd y materion i'r Panel gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ganlyniad i gwynion a ddaeth i law.
Canfuwyd bod y Cynghorydd Roderick wedi methu â dangos ystyriaeth a pharch i Gynghorydd benywaidd a'i fod wedi dwyn anfri ar ei swydd a hefyd ei fod wedi ceisio defnyddio ei swydd yn amhriodol i roi mantais iddo'i hun neu anfantais i un arall. Cafodd y Cynghorydd Roderick ei wahardd o'r ddau awdurdod am 4 mis.
Canfuwyd bod y Cynghorydd Shotton wedi defnyddio ei swydd yn amhriodol i roi mantais i berson arall a'i fod wedi dwyn anfri ar ei awdurdod trwy annog yr unigolyn hwnnw (un o weithwyr y cyngor) i ymddwyn yn amhriodol yn ystod oriau swyddfa. Cafodd y Cynghorydd Shotton ei wahardd o'i swydd am 3 mis.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
||||||||||
COFLYFR CÔD YMDDYGIAD. PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhifyn diweddaraf o ‘Goflyfr Côd Ymddygiad’ Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020, a oedd yn rhoi crynodeb o'r ddau ymchwiliad côd a gynhaliwyd yn ymwneud ag aelodau o Gynghorau Sir a Chynghorau Cymuned. Nid oedd dim o'r achosion yn berthnasol i gynghorwyr o Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMON. PDF 110 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019/20 a oedd yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon ac yn darparu gwybodaeth am achosion o gamweinyddu ac achosion Côd Ymddygiad y deliwyd â nhw gan ei swyddfa yn ystod cyfnod yr adroddiad.
Nododd y Pwyllgor fod y pwyntiau allweddol a godwyd yn yr adroddiad fel a ganlyn: - Derbyniwyd cyfanswm o 231 o gwynion yn ymwneud â chôd yn ystod y cyfnod adrodd sy'n ostyngiad o 18% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, - Gostyngiad yn nifer yr achosion a gyfeiriwyd at Banel Dyfarnu Cymru o 4 i 1, - Gostyngiad yng nghanran y cwynion yn ymwneud â chôd a gaewyd (23.7% yn llai o gymharu â'r flwyddyn flaenorol), - Mae'r mwyafrif o gwynion yn ymwneud â chôd yn cael eu cau yn gynnar.
Cyfeiriwyd at fudd hyfforddiant neu hyfforddiant gloywi ac nad yw llawer o aelodau Cynghorau Tref a Chymuned yn aml yn manteisio ar gyfleoedd a gynigir iddynt o ran cael hyfforddiant. Gofynnwyd i'r Pwyllgor nodi, oherwydd Covid-19, na roddwyd hyfforddiant eleni a bod deunydd hyfforddiant wedi'i ddosbarthu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
||||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Cofnodion: Nid oedd dim materion brys i'w trafod.
|