Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Tref P. Rogers.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNODION - 15 MAWRTH 2019 PDF 135 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 3.1 llofnodi cofnodion y cyfarfod ar 15 Mawrth 2019 gan eu bod yn gywir; 3.2 o ran Cofnod 5 – Hyfforddiant Cod Ymddygiad – bod sesiynau'n cael eu cynnal yn y lle cyntaf yn Llanelli ar 10 Gorffennaf 2019, ac yng Nghaerfyrddin ar 16 Gorffennaf 2019.
|
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD CHRISTOPHER MARK DAVIES PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Christopher Mark Davies o Gyngor Tref Sanclêr am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad yn unig mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ymddiriedolaeth Tref Sanclêr. Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o'r Ymddiriedolaeth. Roedd buddiant y Cynghorydd Davies hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod y ffeithiau perthnasol, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd. Gan hynny, roedd y Cynghorydd Davies wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (f) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad yn unig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Christopher Mark DaviesSIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Sanclêr mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ymddiriedolaeth Tref Sanclêr a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd ei dymor presennol yn y swydd.
|
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM EDMUND VINCENT JOHN DAVIES PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd William Edmund Vincent John Davies o Gyngor Tref Sanclêr, am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad yn unig mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ymddiriedolaeth Tref Sanclêr. Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o'r Ymddiriedolaeth. Roedd buddiant y Cynghorydd Davies hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod y ffeithiau perthnasol, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd. Gan hynny, roedd y Cynghorydd Davies wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (f) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad yn unig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd William Edmund Vincent John DaviesSIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Sanclêr mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ymddiriedolaeth Tref Sanclêr a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd ei dymor presennol yn y swydd.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Cofnodion: Ni chafwyd dim eitemau brys i'w hystyried.
|