Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Penodi Aelodau - Dydd Gwener, 22ain Gorffennaf, 2022 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Cundy.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

 

3.

LLOFNODI COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALWYD AR Y 14 GORFFENNAF 2021 pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2021, gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

4.

CYNRYCHIOLAETH AR GYRFF ALLANOL pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor, o ganlyniad i'r Etholiadau Llywodraeth Leol diweddar, restr o Gyrff Allanol oedd wedi'u hysbysu er mwyn penderfynu a ddylai'r Cyngor wneud/parhau i wneud penodiadau i'r cyrff hynny.  Roedd adolygiad cychwynnol o'r rhestr o gyrff allanol wedi'i gynnal er mwyn canfod statws y sefydliadau presennol ac enwebiadau gan y grwpiau Gwleidyddol nad oeddent wedi'u penodi gan y Cyngor na'r Cabinet ac a atodir i'r adroddiad yn Atodiad A, ynghyd â'r dogfennau cyfarwyddyd a luniwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a atodir i'r adroddiad yn Atodiad B ac C.

 

Wrth ystyried y rhestr o enwebiadau i gyrff allanol, tynnwyd sylw at y ffaith bod camgymeriad yn yr adroddiad mewn perthynas ag enwebiad y Gr?p Llafur ar gyfer Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda.

 

Fel rhan o'r dull adolygu i gynrychiolwyr adrodd yn ôl ar waith pob corff allanol, ceisiodd yr adroddiad gyflwyno dull 'adrodd yn ôl' trwy gwblhau'r ffurflen Cyrff Allanol - Adroddiad Blynyddol y Cynghorwyr 2022/23 a atodir i'r adroddiad yn Atodiad D.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

4.1          yn dilyn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022,yn amodol ar ddiwygio enwebiad y Gr?p Llafur ar gyfer Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda, bod enwebiadau'r gr?p gwleidyddol i gyrff allanol fel y manylir yn Atodiad A yn cael eu penodi,

 

4.2           bod y ffurflen adrodd yn ôl a atodir i'r adroddiad yn Atodiad D yn cael ei chymeradwyo, a bod angen i Aelodau a benodwyd i wasanaethu ar gyrff allanol adrodd yn ôl ar gyfarfodydd drwy lenwi'r ffurflen.