Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Penodi Aelodau - Dydd Iau, 17eg Mehefin, 2021 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Aelod

Rhif yr Eitem

Natur y Buddiant

Cynghorydd A.D.T Speake

3 – Ystyried penodi’r Cynghorydd A.D.T. Speake yn lle’r Cynghorydd I.W. Davies fel Aelod o Gyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda.

Y Cynghorydd Speake yw’r darpar aelod ar gyfer y sedd ar Gyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda.

 

 

3.

I YSTYRIED PENODI CYNGHORYDD A.D.T. SPEAKE I GYMRYD LLE CYNGHORYDD I.W. DAVIES FEL AELOD CYNGOR IECHYD CYMUNEDOL HYWEL DDA

Cofnodion:

(Noder: Gan iddo ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ni chymerodd y Cynghorydd Speake ran yn y drafodaeth na’r bleidlais)

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi’r Cynghorydd Alan Speake yn lle’r Cynghorydd Ieuan Davies yn aelod o Gyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda.

 

4.

I ARWYDDO FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 13 IONAWR, 2021 pdf eicon PDF 194 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2021 gan eu bod yn gywir.