Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Penodi Aelodau - Dydd Mercher, 14eg Tachwedd, 2018 12.30 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd A.S.J. McPherson.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

3.

YMDDIRIEDOLAETH ORIEL MYRDDIN

Cofnodion:

             

Dywedwyd bod cyfnodau swydd y Cynghorydd A. Lenny a Mr. D.B. Davies ar Ymddiriedolaeth Oriel Myrddin wedi dod i ben ar 12 Mehefin, 2018. 

 

Dywedwyd bod y Gr?p Annibynnol wedi enwebu'r Cynghorydd E. Thomas i gymryd lle Mr. Davies a bod Gr?p Plaid Cymru wedi enwebu'r Cynghorydd C. Jones i gymryd lle'r Cynghorydd Lenny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorwyr E. Thomas a C. Jones yn cael eu penodi'n Ymddiriedolwyr Oriel Myrddin am gyfnod o 4 blynedd, gan fod yn weithredol o 15 Tachwedd, 2018.

 

4.

COFNODION - 20FED MEDI, 2017 pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 20 Medi 2017 gan eu bod yn gywir.