Agenda a chofnodion drafft

Is-Bwyllgor Trwyddedu B - Dydd Mercher, 31ain Gorffennaf, 2024 9.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE DONUTS & DRAGONS, 7B KING STREET, CARMARTHEN SA31 1BD pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd a'r Cyfreithiwr wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod. Amlinellodd y Cadeirydd fod gofyn i'r Is-bwyllgor ystyried cais gan Mr Jonathan James Thomas a Nicola Sian Bowes Thomas, am drwydded safle ar gyfer Donuts & Dragons, 7b Heol y Brenin, Caerfyrddin.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

 

·         Atodiad A – Copi o ddogfennau'r cais

·         Atodiad B - Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu

 

Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau llafar gan gynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu. Eglurodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu mai cais ydoedd am drwydded safle i ganiatáu:

-       cyflenwi alcohol dan do - Dydd Llun - Dydd Sul 12.00-22.30 a Nos Galan 12.00-00.30 (nid 23.00-00.30 fel oedd yn yr adroddiad).

 

Nodwyd hefyd bod y cais ar gyfer:

-       cerddoriaeth wedi'i recordio dan do - Nos Galan tan 01.00

-       oriau agor - Dydd Llun - Dydd Sul 10.00-23.00, Nos Galan tan 01.00

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig a chadarnhau, pe bai'r Is-bwyllgor yn penderfynu rhoi'r drwydded safle, fod yr ymgeisydd a'r awdurdod trwyddedu wedi cytuno ar 6 amod trwydded yr awgrymir eu bod ynghlwm wrth y drwydded.

 

Rhoddwyd cyfle i'r Aelodau a'r ymgeisydd holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyflwynodd Mr Thomas (yr Ymgeisydd) ei sylwadau yngl?n â'r cais ac ymatebodd i'r sylwadau a wnaed gan gynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu.

 

Rhoddwyd cyfle i'r Aelodau a chynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu holi'r ymgeisydd am ei gais.

 

Felly bu i'r Is-bwyllgor

 

BENDERFYNU’N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid caniatáu'r cais yn amodol ar amodau trwydded 1-6 (y cytunwyd arnynt gan yr awdurdod trwyddedu a'r ymgeisydd ac a nodir isod).

 

1.

Gwerthir alcohol trwy wasanaeth bwrdd yn unig.  Rhaid i'r holl ddiodydd alcoholig gael eu harchebu, eu gweini a'u bwyta wrth y bwrdd.

2.

Ni chaniateir yfed alcohol ar eich traed ar y safle.

3.

Ni chaniateir i gwsmeriaid eistedd wrth y cownter neu'r man lle caiff diodydd eu harchebu, eu paratoi neu eu gweini.

4.

Gwerthir alcohol yn gysylltiedig â chwarae gemau bwrdd ar y safle.

5.

Mae'r alcohol a werthir i'w yfed ar y safle'n unig. Ni ddylid mynd ag unrhyw ddiodydd allan o'r safle.

6.

Dim ond cerddoriaeth wedi'i recordio yn cael ei chwarae'n isel yn y cefndir a ganiateir ar y safle.

 

RHESYMAU:

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

1.   Roedd yr awdurdod trwyddedu a'r ymgeisydd wedi cytuno ar amodau'r drwydded 1-6 (fel y nodir uchod)

2.   Nid cyflenwi alcohol yw prif hanfod y busnes

3.   Mae amgylchiadau eithriadol felly, fel na fydd caniatáu'r cais yn ychwanegu at yr effaith gronnol yn Heol y Brenin, Caerfyrddin.

 

O  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE ANVIL KITCHEN, 2 FFORDD Y GLOWYR, BETWS, RHYDAMAN SA18 2FG pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd a'r Cyfreithiwr wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod. Amlinellodd y Cadeirydd fod gofyn i'r Is-bwyllgor ystyried cais gan Mr Edward Hayden Robert Lee, am drwydded safle ar gyfer Anvil Kitchen, 2 Ffordd y Glowyr, Betws, Rhydaman i ganiatáu:-

 

·    Cyflenwi Alcohol – Dydd Llun i Ddydd Sul 09:00 – 16:00;

·    Oriau Agor - Dydd Llun i Ddydd Sul 09:00-16:00;

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

 

·         Atodiad A – Copi o'r cais a dogfennau ategol

·         Atodiad B – Sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill

·         Atodiad C – Ymateb yr ymgeisydd i sylwadau a gafwyd a llythyr o gefnogaeth gan breswylydd

 

Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau llafar gan y gwrthwynebydd yn ail-gyflwyno'r wybodaeth a nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad. 

 

Rhoddwyd cyfle i'r Aelodau a'r ymgeisydd holi'r gwrthwynebydd ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Yna rhoddwyd cyfle i'r ymgeisydd gyflwyno'i sylwadau yngl?n â'r cais ac ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd. 

 

Rhoddwyd cyfle i'r Aelodau a'r gwrthwynebydd a oedd yn bresennol holi'r ymgeisydd am ei gais.

 

Felly bu i'r Is-bwyllgor

 

BENDERFYNU’N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid caniatáu'r cais yn amodol ar y canlynol:

- rhaid i'r alcohol gael ei yfed ar y safle.

- lle caiff alcohol ei werthu i'w yfed oddi ar y safle, rhaid ei gludo oddi ar y safle mewn cynhwysydd wedi'i selio.

 

RHESYMAU:

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

1.   Mae ardal chwarae i blant yn agos i'r safle

2.   Ystyrir bod gosod yr amodau ychwanegol yn addas i fynd i'r afael â phryderon i'r perwyl hwnnw.

 

O ganlyniad, mae'r Is-bwyllgor yn fodlon bod ei benderfyniad (a amlinellir uchod) yn briodol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.