Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

CAIS AM ADOLYGU TRWYDDED SAFLE SANTA CLARA, SAN CLER, CAERFYRDDIN, SIR GAR SA33 4EE. pdf eicon PDF 249 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y wybodaeth ddiweddaraf i bawb a oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a oedd wedi'i drefnu i ystyried cais gan yr Arweinydd Trwyddedu ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin am Adolygu'r drwydded safle mewn perthynas â thafarn y Santa Clara, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, yn dilyn ymweliad â'r safle gan yr Heddlu ac un o Swyddogion Safonau Masnach y Cyngor ar 8 Hydref 2020, pryd y nodwyd diffyg rheolaeth a threfn ar y safle.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A - Copi o'r cais am adolygiad a dogfennau atodol;

Atodiad B – Sylwadau Heddlu Dyfed-Powys;

Atodiad C - Sylwadau Safonau Masnach;

Atodiad D – Sylwadau eraill.

 

Gwyliodd yr Is-bwyllgor hefyd ffilm camera corff o'r ymweliad â'r safle gan yr Heddlu a'r Swyddog Safonau Masnach ar 8 Hydref 2020, a thynnwyd sylw'r aelodau at y ffotograffau llonydd oedd wedi'u dosbarthu'n flaenorol o'r ffilm camera, ynghyd â datganiad ychwanegol gan Anwen Davies.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel roeddent wedi'u nodi yn Atodiad A i'r adroddiad, ac amlinellu i'r Is-bwyllgor y digwyddiadau a arweiniodd at gyflwyno'r cais am adolygiad, sef yr ail gais o'i fath oedd wedi'i gyflwyno ar gyfer y safle hwn. Roedd yr adolygiad cyntaf wedi cael ei ystyried gan Is-bwyllgor Trwyddedu'r Cyngor ar 18 Awst 2020, lle'r oedd nifer o amodau ychwanegol wedi'u gosod ar gyfer gweithredu'r safle ac ar Oruchwylydd Penodedig y Safle (DPS). Amlinellodd y methiannau a nodwyd yn ystod yr ymweliad ar 8 Hydref, yn ogystal â thorri amodau presennol y drwydded, a ddangosai nad oedd y safle'n cael ei reoli'n ddigonol o hyd gan naill ai'r DPS neu'r deiliaid trwydded safle, neu fod y bobl hyn heb fod yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif. Barnwyd y byddai unrhyw amodau trwydded ychwanegol, neu waredu'r DPS, yn annhebygol o gael unrhyw effaith ar weithrediad y safle, ac felly roedd yr Awdurdod Trwyddedu o'r gred bod dirymu'r drwydded yn ymateb addas a chymesur i'r diffyg rheolaeth a threfn priodol ar y safle.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi'r Arweinydd Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel roeddent wedi'u nodi yn Atodiad B i'r adroddiad, ac amlinellu i'r Is-bwyllgor hanes diweddar gweithrediad y safle ynghyd â'r digwyddiadau a welwyd ar 8 Hydref gan un o swyddogion yr heddlu a swyddog safonau masnach, fel y gwyliwyd ar y ffilm. Gan mai hwn oedd yr ail gais am adolygiad yn sgil methiannau rheoli difrifol yn y safle o fewn chwe mis, roedd yr Heddlu o'r farn ei bod yn gywir ac yn gymesur i ddirymu'r drwydded safle oherwydd y diffyg rheolaeth a threfn priodol.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd y Safonau Masnach at ei sylwadau ysgrifenedig, fel roeddent wedi'u nodi yn Atodiad C i'r adroddiad, ynghylch gweithrediad tafarn y Santa Clara, a chefnogodd y sylwadau uchod dros ddirymu'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau