Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu B - Dydd Mawrth, 15fed Hydref, 2024 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE GREEN GROVE FARM, LLANGADOG SA19 9AS pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd i ystyried cais gan Green Grove Barns Partnership am drwydded safle ar gyfer y safle uchod.

 

Cais i Ganiatáu:-

 

  • Cyflenwi Alcohol – Dydd Llun i Ddydd Sul 10:00 – 01:00;
  • Cerddoriaeth fyw/Cerddoriaeth a recordiwyd/Perfformiadau dawns - Dydd Llun i Ddydd Sul 10:00 - 00:15;
  • Lluniaeth hwyrnos - Dydd Llun i Ddydd Sul rhwng 23:00 a 01:00

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A - copi o'r cais gwreiddiol a dogfennau atodol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd;

Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu;

Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd;

Atodiad D - sylwadau gan bobl eraill.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod sylwadau ychwanegol wedi'u derbyn gan yr Awdurdod Trwyddedu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, ac roedd yr olaf wedi'i dderbyn gan yr ymgeiswyr.

 

Yn ogystal, derbyniwyd sylwadau hefyd gan eraill sef cwmni Morgan La Roche Solicitors ar ran ei gleient Glasallt Fawr Camphill Centre, Llangadog.

 

Cyn i'r gwrandawiad ddechrau, gwnaeth y Cwnsler Mr F. Lewendon, a oedd yn cynrychioli’r parti â diddordeb, gais i ohirio'r gwrandawiad tan ar ôl i'r ymgeiswyr gael penderfyniad ar y cais cynllunio sydd ar waith.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon gyflwyno sylwadau ar lafar mewn perthynas â'r cais i ohirio. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y cais i ohirio ynghyd â'r sylwadau:

 

PENDERFYNODD YR IS-BWYLLGOR YN UNFRYDOL wrthod y cais i ohirio'r cyfarfod.

 

Y Rhesymau:

 

  1. Roedd yn fodlon bod ganddo ddigon o dystiolaeth i benderfynu ar y cais;

 

  1. Bod y drefn Gynllunio a'r drefn Drwyddedu yn gwbl ar wahân ac nad oedd dim yn y canllawiau trwyddedu statudol i awgrymu bod gohirio'n briodol;

 

  1. Byddai rhagfarn sylweddol i'r ymgeiswyr pe bai'r mater yn cael ei ohirio ymhellach, gan fod y mater wedi cael ei ohirio nifer o weithiau yn barod;

 

  1. Ni fyddai penderfynu ar y cais Trwyddedu yn niweidiol i'r cais Cynllunio. Roedd y penderfyniadau yn destun ystyriaethau cyfreithiol hollol wahanol ac nid oeddent yn ddibynnol ar ei gilydd.

 

Bu'r Is-bwyllgor yn ystyried y cais terfynol ar gyfer Trwydded Safle, roedd hyn yn cynnwys yr holl ddogfennau a gyflwynwyd a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a gafwyd cyn y gwrandawiad gan y partïon.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, y manylwyd arnynt yn Atodiad B yr adroddiad.

 

Cyfeiriwyd at y llythyr sylwadau ar dudalen 87 o'r pecyn agenda.  Cadarnhawyd bod y digwyddiadau wedi'u cynnal yn y safle o dan awdurdod Hysbysiadau am Ddigwyddiadau Dros Dro. Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor, ers i'r cais gael ei dderbyn, fod 18 o Hysbysiadau am Ddigwyddiadau Dros Dro wedi cael eu cyflwyno gan yr ymgeiswyr.  Cadarnhaodd Mr Jones ei fod, ar adeg y paratowyd y sylw, yn ymwybodol o'r gwrthwynebiadau a wnaed i'r cais, gan gynnwys gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd a bod hyn wedi dylanwadu ar ei sylwadau.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.