Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
CAIS AM DRWYDDED SAFLE STATION YARD, HEOL YR ORSAF, BRYNAMAN, RHYDAMAN, SA18 1SH. PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd i ystyried cais gan Ms Margaret Studt am drwydded safle ar gyfer Station Yard, Heol yr Orsaf, Brynaman, Rhydaman, SA18 1SH fel a ganlyn:-
Cais i Ganiatáu: · Cyflenwi Alcohol - Dydd Llun i ddydd Sul 12:00–23:00, Nos Galan 09:00-01:00. · Oriau Agor - Dydd Llun i ddydd Sul 09:00–23:00, Nos Galon 09:00-01:00
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A – copi o'r cais gwreiddiol Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu Atodiad C - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys Atodiad D – sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.
Yn ogystal â'r uchod, roedd gwybodaeth atodol gan Mr Aled Morgan (Iechyd yr Amgylchedd) hefyd wedi cael ei dosbarthu i bob parti cyn y cyfarfod. Roedd hyn yn cynnwys e-bost yn manylu ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran yr amodau y gofynnwyd amdanynt gan Iechyd yr Amgylchedd.
Cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad a dywedodd fod un g?yn wedi dod i law mewn perthynas â'r safle dan sylw yn y cais ym mis Ionawr 2022 am ddigwyddiad dros y Nadolig ym mis Rhagfyr 2021.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at yr amodau awgrymedig a gynigiwyd gan yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, a'r ffaith bod yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt. Dywedodd, os oedd yr Is-bwyllgor am ganiatáu'r cais, yr ystyriwyd ei bod yn briodol i'r amodau hynny fod ynghlwm wrth y drwydded.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Dywedwyd wrth yr Is-bwyllgor y cytunwyd ar sylwadau gan Heddlu Dyfed Powys (Atodiad C) ac felly nad oedd cynrychiolydd yr Heddlu yn bresennol.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fel yr oeddynt yn Atodiad D.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at yr amodau awgrymedig a gynigiwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd. Dywedodd, os oedd yr Is-bwyllgor am ganiatáu'r cais, yr ystyriwyd ei bod yn briodol i'r amodau hynny fod ynghlwm wrth y drwydded.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Yna, bu'r Is-bwyllgor yn ystyried y datganiadau ysgrifenedig a hefyd y sylw ar lafar gan y preswylydd lleol, Mr Pavey, yn gwrthwynebu'r cais ac yn cyfeirio at y sylwadau ysgrifenedig yn Atodiad E. Roedd y gwrthwynebiadau yn ymwneud â'r meysydd canlynol:
· Tarfu ar heddwch, gan gynnwys problemau s?n a pharcio a achosodd anhrefn, · Diffyg ymgynghori â phreswylwyr lleol mewn perthynas â digwyddiadau, · Nifer y safleoedd trwyddedig eisoes gerllaw a'r angen am alcohol mewn digwyddiadau wedi'u hanelu'n bennaf at blant.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r tyst ynghylch y sylwadau a wnaed.
Yna, rhoddwyd cyfle i gynrychiolydd yr Ymgeisydd gyflwyno sylwadau ar ran yr ymgeisydd, ac, yn benodol:
· Y buddsoddiad a wnaed i adfer y safle, · Yr awydd i gynnal digwyddiadau elusennol a hefyd digwyddiadau ad-hoc eraill, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |