Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu B - Dydd Mawrth, 15fed Chwefror, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE MC DONALD'S, HEOL DINBYCH Y PYSGOD, SANCLÊR, SIR GÂR SA33 4JW pdf eicon PDF 252 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a oedd wedi’i gynnull i ystyried cais a dderbyniwyd gan McDonald’s Restaurant Limited am drwydded safle i ganiatáu:

 

Lluniaeth hwyrnos o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 23:00 a 05:00

Oriau Agor dydd Llun hyd at ddydd Sul 05:00-05:00.

 

Roedd y cais wedi ei roi gerbron yr Is-bwyllgor ar ôl derbyn nifer o gwynion ynghylch gweithrediad y safle o safbwynt s?n, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd ac anhrefn.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A – Y Cais gwreiddiol am Adolygiad;

Atodiad B – Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu;

Atodiad C– Sylwadau Heddlu Dyfed-Powys;

Atodiad D – Sylwadau Iechyd yr Amgylchedd

Atodiad E – Sylwadau eraill.

 

Yn ogystal â’r uchod, cyhoeddwyd agenda atodol a’i dosbarthu i bob parti cyn y cyfarfod y diwrnod hwnnw i gynnwys y wybodaeth ganlynol yn ogystal â’r Atodiadau:-

 

1.    Sylwadau Ychwanegol gan Bobl;

2a. Sylwadau Diwygiedig Iechyd yr Amgylchedd;

2b. Llyfr Gwaith Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol McDonalds;

2c. Cynllun Rheoli Sbwriel Mc Donald's;

2d. Yr Arolygiaeth Gynllunio – Penderfyniad Apêl.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig, y manylwyd arnynt yn Atodiad B1 i’r adroddiad, a oedd yn rhoi sylw i'r cais a’i ymateb iddo gan gynnwys, mewn perthynas â’r adrannau perthnasol o’r Canllawiau Statudol a Pholisi Trwyddedu Lleol y Cyngor. Dywedodd fod yr Awdurdod Trwyddedu yn cefnogi'r cais a'r amodau, a gynigiwyd gan yr Awdurdodau Cyfrifol; Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd, fel y'i diwygiwyd.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi'r Arweinydd Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth yr Is-bwyllgor y cytunwyd ar sylwadau gan Heddlu Dyfed Powys (Atodiad C) ac felly nad oedd cynrychiolydd yr Heddlu yn bresennol.  Yn ogystal, cytunwyd ar y sylwadau gan Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd (Atodiad D) ac felly nid oedd Mr Aled Morgan yn bresennol.

 

Cafodd yr Is-bwyllgor wedyn sylwadau gan bartïon â diddordeb yn gwrthwynebu’r cais am drwydded safle i ganiatáu oriau gweithredu estynedig i ddarparu ‘Lluniaeth Hwyrnos o Ddydd Llun i Ddydd Sul 23:00 – 05:00; Oriau Agor Dydd Llun i Ddydd Sul 05:00 – 05:00 ar y seiliau y manylir arnynt yn Atodiad E i'r adroddiad.

 

Derbyniwyd sylw gan y Cynghorydd Lleol P. M. Hughes yn gwrthwynebu’r cais, ac fe gyfeiriodd at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad E1 i’r adroddiad a thynnodd sylw at y pryderon a ganlyn:-

 

  • Cynnydd mewn sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol;
  • Potensial i fod yn llwybr i osgoi traffig ar gyfer pobl ifanc yn gyrru’n wyllt;
  • Cynnydd mewn symudiadau traffig yn arwain at gynnydd mewn s?n, llygredd aer a llygredd golau a rhagwelwyd y byddai hyn oll yn creu niwsans cyhoeddus i'r holl drigolion ac yn arbennig y rhai sy'n agos at y safle.

 

Yn ogystal, gofynnodd y Cynghorydd Hughes i'r Is-bwyllgor ohirio ei benderfyniad tan ar ôl Ymweliad Safle er mwyn gweld gosodiad y safle a'r fynedfa iddo.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi'r Cynghorydd lleol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.