Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
AR ÔL I EITEM 2 AR YR AGENDA DDOD I BEN, BYDD CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR YN CAEL EI OHIRIO TAN 2.00PM. PAN FYDD EITEM 3 AR YR AGENDA YN CAEL EI HYSTYRIED Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd i ystyried cais a dderbyniwyd gan Swyddog Arweiniol Llygredd a Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin am adolygiad o'r Drwydded Safle ar gyfer y Poplars Inn, 1 Glan yr Afon, Tre Ioan, Caerfyrddin, ar ôl derbyn nifer o gwynion ynghylch gweithrediad y safle o ran s?n, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu ac anhrefn.
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A – Y cais gwreiddiol am adolygiad Atodiad B – Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu Atodiad C – Sylwadau Heddlu Dyfed-Powys Atodiad D – Sylwadau'r Gwasanaethau Cynllunio Atodiad E - Sylwadau Safonau Masnach Atodiad F – Sylwadau unigolion eraill.
Yn ogystal â'r uchod, roedd y wybodaeth atodol ganlynol hefyd wedi'i dosbarthu i bob parti cyn y cyfarfod y diwrnod hwnnw:-
1. Tystiolaeth Ategol gan y Swyddog Arweiniol Llygredd a Llesiant 2. Hysbysiad Gwella Safle 3. Y drwydded safle bresennol
Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Llygredd a Llesiant ei adroddiad i'r Pwyllgor ar weithrediad y safle (Atodiad A), ynghyd â'r adroddiad atodol a oedd yn catalogio gohebiaeth, cwynion, ac ati, mewn perthynas â hynny, a oedd wedi arwain at gyflwyno'r cais am adolygiad. Dywedodd wrth yr Is-bwyllgor, o ystyried yr adolygiad, ei fod o'r farn y byddai atodi amodau 1-6 yn ei sylwadau yn hybu amcanion trwyddedu Deddf Trwyddedu 2003 yn well, yn amodol ar ei ddiwygiad i amod 2.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi'r Swyddog Arweiniol Llygredd a Llesiant ynghylch ei sylwadau.
Cyfeiriodd yr Arweinydd Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig a nodir yn Atodiad B i'r adroddiad, a oedd yn rhoi gwybodaeth am y cais am adolygiad a'i ymateb iddo, gan gynnwys rhoi sylw i adrannau perthnasol y Canllawiau Statudol a Pholisi Trwyddedu Lleol y Cyngor. Dywedodd fod yr Awdurdod Trwyddedu yn cefnogi'r cais am adolygiad a'r chwe amod, fel y'u diwygiwyd, a gynigiwyd gan y Swyddog Arweiniol Llygredd a Llesiant.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi'r Arweinydd Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodir yn Atodiad C i'r adroddiad, ac amlinellodd hanes y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt/a gofnodwyd gan yr Heddlu ynghylch gweithrediad y Poplars Inn. O ystyried y ffeithiau, cefnogodd yr Heddlu y cais am adolygiad a'r chwe amod a awgrymwyd, fel y'u diwygiwyd, i'w hychwanegu at y Drwydded Safle, ond hefyd yn amodol ar ychwanegu'r ddau amod a awgrymwyd yn ei sylwadau at y drwydded, sy'n ymwneud â darpariaeth teledu cylch cyfyng a darparu alcohol a werthir i'w yfed mewn mannau allanol mewn gwydrau polycarbonad, plastig neu annrylliadwy.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Heddlu ynghylch ei sylwadau.
Cyfeiriodd y Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodir yn Atodiad E i'r adroddiad, a oedd yn manylu ar y gwaith a wnaed gan ei swyddogion o ran cysylltu â deiliad y drwydded ynghylch gweithredu'r safle yn unol â'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd i ystyried cais a dderbyniwyd gan Scarlets Regional Limited am amrywio'r drwydded safle ar gyfer y Clockwork Tavern, Uned 9 Porth y Dwyrain, Llanelli. Roedd yr amrywiad yn ceisio caniatáu:
Cerddoriaeth wedi'i recordio: Dydd Gwener a dydd Sadwrn 08:00 - 02:00
Gwerthu Alcohol: Dydd Gwener a dydd Sadwrn 08:00 - 02:30
Dydd Sul G?yl y Banc, Noswyl Nadolig, G?yl San Steffan, Nos Galan a Dydd Calan os bydd y diwrnodau'n disgyn ar ddyddiau heblaw dydd Gwener a dydd Sadwrn – caniateir gwerthu alcohol tan 2.30 a.m.
Unrhyw beth sy'n debyg i Gerddoriaeth Fyw, Cerddoriaeth wedi'i Recordio neu Berfformiadau Dawns ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn 08:00 – 02:00
Oriau Agor: Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 08:00 – 03:00
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A – Copi o'r cais am amrywiad Atodiad B – Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu Atodiad C – Sylwadau'r Tîm Llygredd a Llesiant Atodiad D – Sylwadau Heddlu Dyfed-Powys Atodiad E – Sylwadau unigolion eraill Atodiad F – Trwydded bresennol
Yn ogystal, roedd y wybodaeth atodol ganlynol wedi'i dosbarthu i bob parti cyn y cyfarfod:-
Tystiolaeth ategol yr ymgeisydd Asesiad Risg
Cyfeiriodd yr Arweinydd Trwyddedu at ei adroddiad ysgrifenedig, fel y nodir yn Atodiad B, a dywedodd fod yr ymgeisydd, ar ôl derbyn y sylwadau yn Atodiadau B i E, wedi diwygio'r cais i ganiatáu:-
Cerddoriaeth wedi'i recordio: Dydd Gwener a dydd Sadwrn 08:00 – 01:00 (fel y mae ar hyn o bryd) Gwerthu Alcohol: Dydd Gwener a dydd Sadwrn 08:00 – 02:00 Oriau Agor: Dydd Gwener a dydd Sadwrn 08:00 – 02:30
Manylwyd ar y diwygiad uchod yn Atodiad G i'r adroddiad ac nid oedd gweddill yr Awdurdodau Cyfrifol wedi gwneud unrhyw sylwadau arno.
Dywedodd yr Arweinydd Trwyddedu, gan ystyried y pwyntiau a godwyd yn ei adroddiad a sylwadau'r awdurdodau cyfrifol eraill / unigolion eraill, pe bai'r cais am amrywiad yn cael ei ganiatáu, ei fod o'r farn y dylid ychwanegu'r amodau ychwanegol a gynigiwyd gan yr Heddlu at y drwydded safle.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd yr Arweinydd Llygredd a Llesiant at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodir yn Atodiad C, a dywedodd, ar ôl cyflwyno'r cais diwygiedig i gadw chwarae cerddoriaeth wedi'i recordio yn y safle ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn, fel y mae ar hyn o bryd, nad oedd ganddo wrthwynebiad i'r cais diwygiedig. Fodd bynnag, pe bai'r amrywiad yn cael ei ganiatáu, gofynnodd i'r Is-bwyllgor ystyried cynnwys 11 amod ychwanegol, fel y'u darllenwyd yn y cyfarfod.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r Arweinydd Llygredd a Llesiant ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Heddlu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodir yn Atodiad D, yn manylu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal yn y gorffennol ac at eu pryderon y gallai agor y safle dan sylw yn hwyrach olygu bod gweithgareddau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |