Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
PENDERFYNU AR Y CAIS TRWYDDEDU A NODIR YN EITEM 2 UCHOD NODER: ER MAI BRAS AMCAN YW’R AMSERAU A NODIR UCHOD, CADARNHEIR DRWY HYN NA FYDD Y DRAFODAETH AR Y MATERION YN CYCHWYN CYN YR AMSERAU HYNNY. Cofnodion: Gadawodd yr Is-bwyllgor yr ystafell ac ailymgynnull ar safle 21 Heol Llandeilo, Crosshands am 10.00 a.m. er mwyn cael golwg ar leoliad y safle. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 10.30 a.m. i ystyried y cais. Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Mr. S. Laidler a Mrs. H. Laidler am drwydded safle ar gyfer The Cross Hands Ale House, 21 Heol Llandeilo, Cross Hands i ganiatau: Cyflenwi Alcohol: Dydd Llun i ddydd Gwener 16:00-22:00 Dydd Sadwrn a dydd Sul 12:00-22:00
Oriau Agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 16:00-22:30 Dydd Sadwrn a dydd Sul 12:00-22:30
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:- · Atodiad A – copi o'r cais gwreiddiol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd; · Atodiad B – sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu; · Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys, yr oedd yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt; · Atodiad D – sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill. Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi cyflwyno sylwadau ar y cais. Cytunodd yr holl bartïon fod y dogfennau ychwanegol canlynol yn cael eu dosbarthu i'r Is-bwyllgor. Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau fel sydd i’w gweld yn Atodiad B yr adroddiad. Cyfeiriodd at yr amodau trwyddedu ychwanegol canlynol yr oedd yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt: · Hysbysiadau i’w harddangos yngl?n â bod yn gwrtais i gymdogion; · Dim hawl i blant o dan 16 oed fynd i’r safle; · Rhai 16-18 oed i gael mynediad os ydynt yng nghwmni oedolyn yn unig. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed. Cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan bartïon â buddiant a wrthwynebai amrywio'r drwydded safle am y rhesymau a nodir yn Atodiad D.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.
Wedyn bu i’r ymgeisydd ymateb i'r pryderon a'r materion a godwyd.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.
Wedyn bu i'r Is-bwyllgor
BENDERFYNU’N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â’r amodau trwydded ychwanegol yr oedd yr ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol wedi cytuno arnynt.
Y RHESYMAU:- Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor; 1. Nid oedd dim hanes o gwynion na chamau gorfodi ar y safle; 2. Nid oedd yr Heddlu na’r Awdurdod Trwyddedu yn gwrthwynebu mewn egwyddor i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |