Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos S Jenkins 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
GOHIRIO'R CYFARFOD AC AILYMGYNNULL YM MHARC CAERFYRDDIN, LON MORFA, CAERFYRDDIN ER MWYN YMWELD Â'R SAFLE Cofnodion: Gadawodd yr Is-bwyllgor Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 10.05am ac ailymgynullwyd ar y safle am 10.30am, er mwyn gweld y safle lle cafwyd cyfle i weld y cyfleusterau mewnol ac allanol a oedd yn cynnwys lleoliad y babell fawr ac eiddo'r gwrthwynebwyr. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, am 10.50am i ystyried y cais.
|
|
CAIS AM DRWYDDED SAFLE PARC CAERFYRDDIN, LÔN MORFA, CAERFYRDDIN, SA31 3AX. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am weithdrefn y cyfarfod a dywedodd wrth yr Is-bwyllgor fod sylwadau wedi'u cyflwyno gan yr Heddlu, Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, yr Awdurdod Trwyddedu a phreswylydd lleol mewn perthynas â chais am drwydded safle ar gyfer darn penodol o Barc Caerfyrddin, Lôn Morfa, Caerfyrddin, sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad A (tudalen 33).
Roedd y cais wedi'i gyflwyno gan Streamline Leisure am drwydded safle mewn perthynas â'r safle uchod.
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:- Atodiad A – Copi o'r cais Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu Atodiad C - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys Atodiad D – sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.
Dosbarthwyd copïau o ddogfennaeth ychwanegol i'r Is-bwyllgor, gyda chytundeb yr holl bartïon, a oedd yn cynnwys diwygiadau i'r amodau a gynigiwyd gan yr Awdurdodau Cyfrifol ac yn nodi bod yr ymgeisydd yn derbyn yr amodau.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad B i'r adroddiad a'r amodau arfaethedig a nodwyd. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad C i'r adroddiad a'r amodau arfaethedig a ddosbarthwyd. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd at ei sylwadau fel y manylwyd arnynt yn Atodiad D i'r adroddiad a'r amodau arfaethedig a ddosbarthwyd. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi ymgeisydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ynghylch y sylwadau a wnaed.
Wedyn, cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan rai o'r bobl eraill a oedd yn mynegi pryderon ac/neu'n gwrthwynebu caniatáu'r drwydded safle am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Atodiad E.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd. Ar hynny, rhoddodd yr ymgeisydd sylw i'r pryderon a'r materion a godwyd a dywedodd y byddai'n gweithio gyda'r gwrthwynebydd i leihau'r effaith ar ei safle.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad, rhoddodd yr Is-bwyllgor sylw hefyd i'r paragraffau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu ac i'r Cyfarwyddyd a gyhoeddir gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref a nodwyd yn yr eitem ar yr agenda, ac i'r rheiny y cyfeiriwyd atynt gan y partïon.
Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd gerbron,
PENDERFYNWYD y dylid caniatáu'r cais yn amodol ar yr amodau trwydded y cytunwyd arnynt.
Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor- 1. Nid oedd dim hanes o g?ynion mewn perthynas â gweithgareddau trwyddedadwy ar y safle 2. Bu cwynion blaenorol mewn perthynas â s?n o'r safle mewn cysylltiad â gweithgareddau anhrwyddadwy 3. Nid oedd unrhyw ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |