Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

2.

DEILIAD TRWYDDED BERSONOL - NIGELLUS JUDE VAZ pdf eicon PDF 222 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Arweinydd Trwyddedu at yr adroddiad yn gofyn am ddirymu'r Drwydded Bersonol a roddwyd yn flaenorol gan yr Awdurdod i Mr Nigellus Jude Vaz o The Swan Inn, 16 High Street, Stanwell, Staines-upon Thames a dywedodd fod yr adroddiad yn cael ei dynnu'n ôl ac na fyddai angen i'r pwyllgor ei ystyried y diwrnod hwnnw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod y cais i ddirymu trwydded bersonol Mr Nigellus Jude Vaz yn cael ei dynnu'n ôl.

3.

DEILIAD TRWYDDED BERSONOL - RICHARD CRAIG PRYCE BUNFORD pdf eicon PDF 221 KB

Cofnodion:

Bu'r Is-bwyllgor yn ystyried adroddiad yn gofyn am ddirymu'r Drwydded Bersonol a roddwyd yn flaenorol gan yr Awdurdod ym mis Chwefror 2015 i Mr Richard Craig Pryce Bunford o 30 Parc Cawdor Ffairfach, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd Trwyddedu at yr adroddiad a dywedodd wrth yr Is-bwyllgor, er nad oedd Mr Bunford yn bresennol yn y cyfarfod, roedd wedi cael gwybod y byddai'r Is-bwyllgor Trwyddedu yn ystyried y cais i ddirymu'r drwydded y diwrnod hwnnw ac os na fyddai'n gallu bod yn bresennol, byddai'r cais o bosibl yn cael ei ystyried yn ei absenoldeb. Gan nad oedd Mr Bunford yn bresennol, roedd yr Arweinydd Trwyddedu wedi amlinellu i'r Is-bwyllgor yr amgylchiadau yngl?n â'r cais i ddirymu'r drwydded. 

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed Powys yr amgylchiadau ynghylch y cais, fel yr amlinellwyd gan yr Arweinydd Trwyddedu.

 

Yn dilyn hynny

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i roi ei benderfyniad

 

PENDERFYNWYD dirymu'r Drwydded Bersonol a roddwyd i Mr Richard Craig Pryce Bunford

 

Rhesymau

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

1.            Roedd gan Mr Bunford drwydded bersonol ers 2015

2.            Cafodd ei ddyfarnu'n euog o guro ym mis Mawrth 2018 a chafodd ddedfryd o garchar wedi'i ohirio.

3.            Roedd yn destun Gorchymyn Diogelwch rhag Aflonyddu hyd 2020

4.            Nid oedd wedi rhoi gwybod i'r awdurdod trwyddedu am ei gollfarn.

5.            Yn dilyn hynny, roedd wedi torri'r Gorchymyn Diogelu rhag Aflonyddwch ym mis Hydref 2018 a chafodd ei ddedfryd ohiriedig ei rhoi ar waith a'i hamrywio i ddedfryd uniongyrchol o 22 wythnos yn y carchar.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Heddlu

 

Ar ôl ystyried y ffeithiau uchod, a'r sylwadau a gyflwynwyd, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon ei fod yn briodol iddo arfer ei ddisgresiwn i ddirymu trwydded bersonol Mr Bunford er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu o ran atal troseddau ac anhrefn.

 

Ar ben hynny roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cam gweithredu hwn yn ymateb cymesur i'r materion a gafodd eu dwyn i'w sylw.

4.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 CAIS YN YMWNEUD Â DOSBARTHIAD FFILM pdf eicon PDF 209 KB

Cofnodion:

(Noder: cyn ystyried yr eitem hon, gohiriwyd yr Is-bwyllgor tan 11.00am er mwyn mynd i'r afael ag anawsterau technegol o ran dangos y ffilmiau)

 

Bu'r is-bwyllgor yn ystyried cais a dderbyniwyd gan Mrs Carys Ifan, ar ran Canolfan S4C Yr Egin, yn gofyn am argymhelliad yngl?n â derbyn plant i weld un ar hugain o ffilmiau byrion di-dosbarth a fyddai'n cael eu dangos fel rhan o'r ?yl ffilm Discovery Film Festival’s Shorts for Wee Ones (10 ffilm) a Discovery Film Festival’s Shorts for Middle Ones (11 ffilm).

 

Nododd yr Is-bwyllgor y dylai'r ffilmiau a ddangosir gael argymhelliad ynghylch caniatáu i blant eu gwylio, a roddwyd naill ai gan gorff Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain neu gan yr Awdurdod Trwyddedu perthnasol, a hynny er mwyn bodloni gofynion Deddf Trwyddedu 2003. 

 

Er mwyn galluogi' Is-bwyllgor i wneud yr argymelliadau gofynnol ynghylch caniatáu i blant wylio'r ffilmiau, cafodd gyfle i wylio'r ffilmiau byr gan roi ystyriaeth i'r canllawiau ynghylch y graddau oedran a luniwyd gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain.

 

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd gerbron,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1

bod y 10 ffilm ar gyfer Discovery Film Festival’s Shorts for Wee Ones yn cael eu dosbarthu gyda gradd 'U'

4.2

bod yr 11 ffilm ar gyfer  Discovery Film Festival’s Shorts for Middle Ones yn cael eu dosbarthu fel a ganlyn:

 

Dosbarthiad U

Wishing Box, City, Inclusion Makes the World more Vibrant, Scrambled, Father and Daughter, Outdoors, Rouff, Nouvelle Cuisine, Catastrophe

 

Dosbarthiad PG

Language of the Ball, Hybrid

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau