Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu B - Dydd Mercher, 26ain Medi, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

2.

HYSBYSIAD DIGWYDDIAD DROS DRO - DERWYDD MANSION, DERWYDD ROAD, RHYDAMAN, SIR GAR, SA18 3LQ pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd gan yr Is-bwyllgor yn ei gyfarfod ar 26 Mehefin ohirio'r penderfyniad ynghylch yr Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro hyd at 31 Gorffennaf 2018 a 26 Medi 2018, er mwyn casglu tystiolaeth bellach.

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a dywedodd wrth yr Is-bwyllgor fod hysbysiad gwrthwynebu wedi cael ei gyflwyno gan Adain Iechyd y Cyhoedd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro a gyflwynwyd gan Mrs Maria Dallavalle o La Scala, 15 Rhodfa Bryn Mawr, Rhydaman SA18 2DA.

 

Roedd yr Hysbysiadau am Ddigwyddiad Dros Dro yn berthnasol i adwerthu alcohol, darparu Adloniant Rheoledig a Lluniaeth Hwyrnos ar y safle ar y diwrnod a'r amser canlynol:-

 

Dydd Sadwrn 3 Tachwedd 2018 – Y Neuadd Fawr, Plasty Derwydd.

·         Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth Hwyrnos 12:00-00:30


 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor gan Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod Adain Iechyd y Cyhoedd wedi gwrthwynebu'r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro ar sail niwsans s?n yn sgil digwyddiadau blaenorol a gynhaliwyd ar y safle.

 

Cafodd y wybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd a chan Adran Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd ei dosbarthu gan y Swyddogion Trwyddedu. Bu'r Is-bwyllgor yn ystyried y dogfennau a gyflwynwyd gan gynnwys y wybodaeth ychwanegol, a'r holl sylwadau ysgrifenedig a ddaeth i law, cyn clywed gan y partïon.

 

Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau llafar gan Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd:-

  • Mynegodd Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd ei fod yn siomedig i fod yn bresennol unwaith eto heddiw gan mai'r gobaith oedd y byddai hyn wedi'i ddatrys mewn modd cyfeillgar.

  • Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor y byddai'r dystiolaeth heddiw yn canolbwyntio ar briodasau dan do. Fodd bynnag, ers y cyfarfod diwethaf, mae Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd wedi tynnu sylw'r Is-bwyllgor at Hysbysiad Atal mewn perthynas â Niwsans S?n, a gyflwynwyd i Derwydd Mansion Events Limited ar 21 Medi 2018.

  • Gan gyfeirio at y Cynllun Rheoli S?n a ddarperir yn y wybodaeth ychwanegol, amlinellodd Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd yr elfennau allweddol o'r mesurau lliniaru i'r Is-bwyllgor a dywedodd nad yw'n glir a yw'r ymgeisydd yn gweithredu'r cynllun mewn gwirionedd.

  • Ar ôl y digwyddiad diwethaf a gynhaliwyd ar 1 Medi 2018, gofynnwyd i Mrs Dallavalle egluro pa elfennau o'r Cynllun Rheoli S?n a oedd wedi'u cyflawni. Ar gais Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd, rhoddodd Mrs Dallavalle atebion Ie/Na clir mewn perthynas â phob pwynt penodol. Pwysleisiodd Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd ei fod ef ei hun wedi gweld digwyddiadau a dorrai reolau'r cynllun, yn groes i ymatebion a roddwyd gan Mrs Dallavalle. 

  • Cyfeiriwyd at fap yn y wybodaeth ychwanegol, a ddangosai gynllun o Blasty Derwydd a'r ardal gyfagos. Dangosai'r map ddau wahanol lwybr wedi'u nodi'n 'Llwybr A', ar ochr orllewinol yr eiddo ac a oedd yn mynd o'r Maes Parcio i'r Babell Fawr, a 'Llwybr B' a oedd yn mynd o'r Plasty i'r Babell Fawr ar ochr ddwyreiniol yr eiddo yn agos i'r eiddo cyfagos. Er mwyn lleihau s?n ac aflonyddwch i'r cymdogion, y llwybr a ffefrir i'w ddefnyddio fyddai Llwybr A. Dywedwyd bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE TAFARN Y PELICAN, STRYD Y SYCAMORWYDDEN, CASTELL NEWYDD EMLYN SA38 9AP pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Soniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, gan ddweud wrth yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Mr Cefin Llywellyn Evans, am amrywio'r drwydded safle ar gyfer Tafarn y Pelican, Stryd y Sycamorwydden, Castellnewydd Emlyn SA38 9AP fel a ganlyn:-

 

·         "Darparu Lluniaeth Hwyrnos dydd Sul i ddydd Iau 23:00-00:00;

                                                                  Dydd Gwener a dydd Sadwrn 23:00-02:30.

 

·         Cyflenwi Alcohol dydd Gwener a dydd Sadwrn 10:00-02:00.

 

  • Oriau Agor dydd Gwener a dydd Sadwrn 10:00-02:30.”                                        

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A - copi o'r cais a 2 lythyr o gefnogaeth;

Atodiad B – copi o'r drwydded safle bresennol;

Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu;

Atodiad B – sylwadau gan Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys;

Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.

Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi gwneud unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cais.

 

Yn ogystal â'r uchod, derbyniodd yr Is-bwyllgor, â chaniatâd yr holl bartïon, fap Geo-Discover o Stryd y Sycamorwydden a'r ardal gyfagos, gan gynnwys safle Tafarn y Pelican, a oedd wedi'i nodi gan gefnogwyr a gwrthwynebwyr.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau a gyflwynwyd, a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a gafwyd cyn y gwrandawiad gan y partïon.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys at ei gyflwyniad, fel y manylir arno yn Atodiad D i'r adroddiad a dywedodd y canlynol:-

 

  • Roedd wedi cysylltu â Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Castellnewydd Emlyn, Rhingyll y Tîm Plismona Bro a'r Swyddog Trwyddedu o Aberteifi i gael eu barn ynghylch y cais. Roedd hefyd wedi cwrdd â'r ymgeisydd a'r tenant ar y safle ym mis Mehefin i drafod y cynlluniau. 

 

  • O ganlyniad i'r trafodaethau a'r ymweliad dilynol, roedd wedi ysgrifennu at yr ymgeisydd ar 7 Awst 2018 gan roi gwybod iddo, er nad oedd gwrthwynebiad ffurfiol gan yr Heddlu i'r amrywiad, fod yr Heddlu o'r farn bod hyrwyddo'r Amcanion Trwyddedu i gynnwys nifer o amodau ychwanegol fel yr amlinellir yn y llythyr (gweler Atodiad D i'r adroddiad) yn nhrwydded y safle yn angenrheidiol ac yn briodol oherwydd yr oriau hwyrach y gwnaed cais amdanynt, pe byddai'r Is-bwyllgor am gymeradwyo'r cais am amrywiad.

 

  • Dywedodd yr ymgeisydd y byddai'n cynnwys pwynt 19 o'r amodau yn wirfoddol, sef "Ni fydd neb yn cael mynd i mewn i'r safle na mynd yn ôl i mewn i'r safle ar ôl hanner nos."

 

  • Roedd yr Heddlu o'r farn bod rhaid i Oruchwylydd Penodedig y Safle, sydd â thrwydded bersonol, reoli'r safle o ddydd i ddydd. Ar hyn o bryd, nid oedd gan y tenant drwydded bersonol ac ni allai Mr Evans, a oedd yn Oruchwylydd Penodedig y Safle ar y pryd, fod ar y safle'n rheolaidd. Fodd bynnag, roedd gan unigolion eraill a oedd yn gweithio ar y safle drwyddedau personol.

  • Roedd yna un safle arall yn y dref a oedd ar agor tan 2am. Roedd yr Heddlu yn fodlon ar y drwydded 2am gan y byddai hyn yn deg ac yn gyson â safleoedd trwyddedig eraill yn yr ardal ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.