Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu B - Dydd Mawrth, 13eg Hydref, 2015 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGELU BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafodd dim datganiadau o fuddiant personol eu cyflwyno yn y cyfarfod.</AI1>

 

2.

CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE - CHILLIES DINER & MOJITOS BAR, 17-21 STRYD COWELL, LLANELLI, SA15 1YA. pdf eicon PDF 254 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Is-bwyllgor gais gan Morgan & John Leisure Ltd am amrywio trwydded safle Chillies Diner & Mojitos Bar, 17–21 Stryd Cowell, Llanelli                    SA15 1YA fel a ganlyn:-

 

Cyflenwi Alcohol/Ffilmiau:   Dydd Llun – Dydd Iau, 09:00 – 00:30

                                            Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, 09:00 – 03:00

 

Cerddoriaeth Fyw:               Dydd Llun – Dydd Sul, 09:00 – 23:30

 

Cerddoriaeth a recordiwyd: Dydd Sul – Dydd Iau, 09:00 – 00:30

                                            Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, 09:00 – 03:00

 

Lluniaeth hwyrnos:              Dydd Sul – Dydd Iau, 23:00 – 00:30

                                            Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, 23:00 – 03:00

 

Amserau Ansafonol:- caniatáu'r holl weithgareddau uchod ac eithrio cerddoriaeth fyw, ar 12 achlysur y flwyddyn tan 03:30

 

Roedd y drwydded safle bresennol yn caniatáu:- 

 

Cyflenwi Alcohol/Ffilmiau/Cerddoriaeth a recordiwyd:- Dydd Llun – Dydd Sul, 10:00 – 00:15

Cerddoriaeth Fyw: Dydd Llun – Dydd Sul, 10:00 – 23:30 (ar hyd at 24 achlysur y flwyddyn)

Lluniaeth hwyrnos:  Dydd Llun – Dydd Sul, 23:00 – 00:15

Oriau Agor: Dydd Llun – Dydd Sul, 09:00 – 00:30

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod. Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y ddogfennaeth ychwanegol a ddosbarthwyd yn y cyfarfod sef dogfennaeth gan yr ymgeisydd yn newid ei gais gan gael gwared ar yr elfennau hynny oedd yn ymwneud â chwarae cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth a recordiwyd.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at yr adroddiad gan nodi manylion y cais, fel y'u hamlinellwyd uchod, a dywedodd fod y dogfennau canlynol hefyd wedi'u hatodi iddo:-

·        Atodiad A – copi o'r cais

·        Atodiad B – Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu;

·        Atodiad C – Sylwadau gan Heddlu Dyfed Powys, fel y cytunwyd arnynt â'r ymgeisydd

·        Atodiad D – Sylwadau oedd wedi dod i law gan rai oedd a wnelont â'r mater;

 

Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi cyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, y manylwyd arnynt yn Atodiad B yr Adroddiad, a thynnodd sylw'r Is-bwyllgor at nifer o ffactorau'n ymwneud â hynny. Yn gyntaf, o ran pwynt c), a'r mater o ganiatâd cynllunio'r safle, roedd yr ymgeisydd wedi cadarnhau mai ei fwriad fyddai gofyn am amrywiad i'r caniatâd cynllunio hwnnw mewn perthynas ag unrhyw amrywiad a gâi ei ganiatáu gan yr Is-bwyllgor y diwrnod hwn nw, ac na fyddai'r amrywiad yn cael ei weithredu tan y ceid y caniatâd cynllunio. O ran pwynt f), roedd yr Awdurdod Trwyddedu o'r farn nad oedd geiriad yr amserlen weithredu, a oedd wedi'i chyflwyno fel rhan o'r cais, yn ddigon manwl i'w alluogi i lunio amodau trwyddedu clir y gellid eu gorfodi yn unol ag Adran 18(2)(a) o'r Ddeddf Trwyddedu. Roedd yr ymgeisydd wedi datgan dan bwynt f) fod asesiad risg wedi'i gynnal, ond nid oedd tystiolaeth ddogfennol i ategu'r honiad hwnnw. Felly, roedd ymweliadau safle wedi'u cynnal ganddo ef a chan gynrychiolydd o Is-adran Iechyd y Cyhoedd ar benwythnosau ar wahân i asesu a oedd angen i asesiad o'r fath gael ei gynnal a'i ddogfennu'n ffurfiol. Yn ystod yr achlysuron hynny, canfuwyd mai cerddoriaeth gefndir, isel yn unig oedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.