Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
CAIS AM DRWYDDED BERSONOL PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn dilyn cais ar lafar a wnaed gan Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd ar ran y Tîm Llygredd i ohirio'r cyfarfod am 30 munud i ganiatáu i wybodaeth a ddarparwyd ar ran yr ymgeisydd, Parkdean Caravan Parks Limited, yn ystod y 12 awr diwethaf gael ei hegluro, heb unrhyw wrthwynebiadau gan y partïon eraill i'r cais hwn, bu i'r Is-bwyllgor:
BENDERFYNU'N UNFRYDOL gohirio'r cyfarfod am 30 munud er mwyn galluogi cynrychiolwyr yr awdurdod cyfrifol i gael eglurhad gan yr ymgeisydd.
Ar ôl y toriad a chyn ystyried y cais, gwahoddodd y Cadeirydd yr Arweinydd Trwyddedu i roi gwybod i bawb a oedd yn bresennol ar lafar am ganlyniad y drafodaeth, a dywedodd yr Arweinydd Trwyddedu ei bod wedi arwain yr ymgeisydd i wneud newidiadau i'r cais fel a ganlyn:-
· Dileu'r ardaloedd awyr agored o gynlluniau'r cais.
· Dileu'r cais i ymestyn Dramâu, Ffilmiau, Cerddoriaeth Fyw, Cerddoriaeth a Recordiwyd a Pherfformiadau Dawns yn yr awyr agored.
Cadarnhaodd cynrychiolydd yr ymgeisydd a oedd yn bresennol y newidiadau uchod i'r cais.
Rhoddodd Cyfreithiwr y Cyngor wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod.
Nododd yr Is-bwyllgor y cais diwygiedig ynghyd â'r dogfennau canlynol sydd ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A – Copi o'r cais gwreiddiol; Atodiad B – Copi o drwydded gyfredol y safle; Atodiad C – Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu; Atodiad D – Sylwadau Iechyd yr Amgylchedd; Atodiad E – Sylwadau eraill.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at y sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad C i'r adroddiad gan gyfeirio at y cais diwygiedig. Rhoddwyd cyfle i'r aelodau a'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.
Cadarnhaodd Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd ar ran y Tîm Llygredd a oedd wedi cyflwyno sylwadau y manylir arnynt yn Atodiad D i'r adroddiad ei fod wedi tynnu ei wrthwynebiad yn ôl yn sgil y newidiadau i'r cais. Rhoddwyd cyfle i'r Aelodau a'r holl bartïon ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Tîm Llygredd.
Roedd nifer o wrthwynebwyr yn bresennol a chyfeiriodd y gwrthwynebwyr at y wybodaeth a nodir yn Atodiad E yr adroddiad, gan gyfeirio at y cais fel y'i diwygiwyd. Rhoddwyd cyfle i'r Aelodau a'r holl bartïon holi'r gwrthwynebwyr ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Ymgeisydd at y cais fel y'i diwygiwyd, ynghyd ag amod arfaethedig na fydd unrhyw focsio yn digwydd ar y safle.
Yn ogystal â'r cais fel y'i diwygiwyd, ac er mwyn helpu i gyfathrebu â thrigolion lleol yn y dyfodol, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y byddai'r ymgeisydd yn gwneud y canlynol:
1) Rhoi gwybod i Gyngor Cymuned Pentywyn pan fydd yr ymgeisydd yn cyhoeddi Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 2) Rhoi rhif ffôn cyswllt i Gyngor Cymuned Pentywyn ar gyfer y swyddfa ddiogelwch ar y safle.
Rhoddwyd cyfle i'r Aelodau a'r holl bartïon ofyn cwestiynau i gynrychiolydd yr ymgeisydd.
Felly bu i'r Is-bwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |