Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH YNGHYLCH A FATERION ARIANNOL NEU FUSNES UNRHYW UNIGOLYN PENODOL (GAN GYNNWYS YR AWDURDOD SY'N DAL Y WYBODAETH HONNO).

 

OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 - CAIS YN YMWNEUD Â DOSBARTHIAD FFILM

Cofnodion:

Bu'r Is-bwyllgor yn ystyried cais a gafwyd gan Mr Llyr Jones, ar ran Canolfan S4C Yr Egin, yn gofyn am argymhelliad ynghylch caniatáu i blant wylio ffilm a oedd yn ddi-ddosbarth yn flaenorol.

 

Nododd yr Is-bwyllgor y dylai'r ffilm a ddangosir gael argymhelliad ynghylch caniatáu i blant ei wylio, a roddwyd naill ai gan gorff Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain neu gan yr Awdurdod Trwyddedu perthnasol, a hynny er mwyn bodloni gofynion Deddf Trwyddedu 2003. 

 

Er mwyn galluogi'r Is-bwyllgor i wneud yr argymelliadau gofynnol ynghylch caniatáu i blant wylio'r ffilm, cafodd gyfle i wylio'r ffilm gan roi ystyriaeth i'r canllawiau ynghylch y graddau oedran a luniwyd gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain.

 

Nododd yr Is-bwyllgor hefyd fod y ffilm wedi cael tystysgrif 12 gan Gyngor Sir Penfro a bod swyddogion hefyd yn argymell cyhoeddi tystysgrif 12.

 

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd gerbron,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai'r ffilm “SCAM” yn cael ei hystyried yn addas i bobl dros 12 oed.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau