Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - LLANDYBIE RFC, HEOL WOODFIELD, LLANDYBIE, RHYDAMAN, SA18 3UT pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Mr David Andrew Thomas a Mrs Elizabeth Sarah Meinir Thomas am drwydded safle ar gyfer Clwb Rygbi Llandybïe, Woodfield Road, Llandybïe, Rhydaman, SA18 3UT i ganiatáu'r canlynol:

 

·         Cyflenwi alcohol - Dydd Sul i ddydd Iau 11:00-11:00, a dydd Gwener a dydd Sadwrn 11:00-02:00. G?yl San Steffan, Nos Galan a dydd Sul ar benwythnos G?yl y Banc 11:00-02.00.

·         Oriau Agor – Dydd Sul i ddydd Iau 11:00-00:30, dydd Gwener a dydd Sadwrn 11:00-02:30, G?yl San Steffan, Nos Galan a dydd Sul ar benwythnosau G?yl y Banc, dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul 11:00-01:00.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

 

·         Atodiad A – Copi o'r cais

·         Atodiad B – sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

·         Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill

 

Derbyniodd yr Is-bwyllgor sylw ar lafar gan Mr David Bizby ar ran Heddlu Dyfed-Powys a gyfeiriodd at ei sylwadau ysgrifenedig a dywedodd hefyd ei fod wedi ymweld â'r safle ym mis Hydref a chyfarfod â Mrs Thomas. Cadarnhaodd Mr Bizby nad oedd yr heddlu'n gwrthwynebu'r cais ond gofynnodd am amodau trwydded pendant fel y nodir yn Atodiad B.

 

O ran sylwadau Heddlu Dyfed-Powys, y manylir arnynt yn Atodiad B, nododd yr Is-bwyllgor fod yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt yn llawn.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu ynghylch ei sylwadau.

 

Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau ar lafar gan y gwrthwynebydd yn ail-gyflwyno'r wybodaeth a nodwyd yn Atodiad C yr adroddiad a'r dogfennau atodol.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi'r gwrthwynebydd ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Cafodd yr Is-bwyllgor sylw ar lafar gan y Cynghorydd Dai Nicholas yn cefnogi'r cais gan ail-gyflwyno'r wybodaeth a nodwyd yn Atodiad C yr adroddiad.

 

Yna rhoddwyd cyfle i Mrs Thomas (yr Ymgeisydd) gyflwyno'i sylwadau ac ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd. Cadarnhaodd ei bod wedi derbyn y sylwadau a wnaed gan Heddlu Dyfed Powys.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r ymgeisydd am ei sylwadau.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan yr Is-bwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid caniatáu'r cais yn amodol ar yr amodau trwydded y cytunwyd arnynt.

RHESYMAU:

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

  1. Ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth gan yr heddlu yn ymwneud â throseddau ac anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol neu niwsans cyhoeddus ar y safle
  2. Mae'r safle wedi bod ar waith fel clwb aelodau ers y 1950au
  3. Nid oes unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau