Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting - ,

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE UAS CAR CARE, UNED 7, THE FOOTHOLD ENTERPRISE VILLAGE, BURRY ROAD, LLANELLI, SA15 2DS pdf eicon PDF 249 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan UAS Car Care am drwydded safle mewn perthynas ag Uned 7, Pentref Menter Foothold, Burry Road, Llanelli SA15 2DS i ganiatáu'r canlynol:-

 

Cyflenwi Alcohol – dydd Llun tan ddydd Sul 12:00 – 23:00

 

Ffilmiau - dydd Llun tan ddydd Sul 10:00 – 23:00

 

Oriau Agor - dydd Llun tan ddydd Sul 09:00 - 00:00                                                                                                   

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A – copi o'r cais

Atodiad B – sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

Atodiad C -  sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill

 

O ran sylwadau Heddlu Dyfed-Powys, y manylir arnynt yn Atodiad B, nododd yr Is-bwyllgor fod yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt yn llawn. Nodwyd nad oedd gan y gwrthwynebwyr, sef Cyngor Tref Llanelli, neb yn bresennol i'w cynrychioli yn y cyfarfod.

 

Dywedodd yr ymgeisydd wrth yr Is-bwyllgor mai diben y cais oedd ategu'r siop goffi bresennol sydd ar agor ar y safle ar benwythnosau dim ond pan nad oedd y busnes garej yn weithredol, er bod y cais wedi gofyn am drwydded am 7 diwrnod yr wythnos. Cyfeiriodd at y gwrthwynebiadau a gyflwynwyd gan Gyngor Tref Llanelli a dywedodd fod y safle trwyddedig agosaf yng nghlwb golff Machynys a bod yr eiddo preswyl agosaf tua 10 munud i ffwrdd ar droed.  Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi awgrymu bod nifer o amodau ynghlwm wrth y drwydded a chytunwyd ar y rheiny gyda'r heddlu. Cadarnhaodd ei fod hefyd wedi cysylltu ag Is-adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor Sir a bod ei bryderon wedi cael sylw.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r ymgeisydd ynghylch ei sylwadau.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD YR IS-BWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â'r amodau y cytunwyd arnynt gyda Heddlu Dyfed-Powys.

 

RHESYMAU:

Wrth benderfynu ar y cais, roedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:

 

  1. Nid oedd y safle wedi cael trwydded o'r blaen.
  2. Ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth o droseddau ac anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol ar y safle neu yn y cyffiniau.
  3. Nid oedd unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol yn gwrthwynebu caniatáu trwydded.
  4. Roedd yr ymgeisydd wedi cytuno ar yr amodau trwydded y gofynnwyd amdanynt gan yr heddlu.
  5. Nid oedd y safle yn agos at safleoedd preswyl.

 

Yr oedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau