Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu A - Dydd Iau, 3ydd Hydref, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

MR DAFYDD ALED REES JONES - DEILIAD TRWYDDED BERSONOL pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfreithiwr wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod. Amlinellodd y Cadeirydd fod gan Mr Dafydd Aled Rees Jones o Lwynhenri, Porthyrhyd, Caerfyrddin SA32 8PP Drwydded Bersonol gyda'r Awdurdod.

 

Dywedodd yr Arweinydd Trwyddedu fod y tîm trwyddedu yn ymwybodol trwy adroddiad yn y newyddion fod Mr Jones wedi ei ddyfarnu'n euog o drosedd berthnasol a oedd yn gofyn i'r Is-bwyllgor ystyried trwydded bersonol Mr Jones. Roedd datganiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi manylion am y digwyddiad hefyd wedi'i gyflwyno gan Mr Jones a chafodd ei ddosbarthu i'r Is-bwyllgor yn ystod y cyfarfod.

 

Cafwyd sylwadau llafar hefyd gan gynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys a Mr Jones.

 

Rhoddwyd cyfle i'r aelodau a phawb oedd yn bresennol ofyn cwestiynau am y sylwadau a wnaed.

 

Argymhellodd yr Arweinydd Trwyddedu y dylid ystyried atal neu ddiddymu trwydded bersonol Mr Jones.

 

Felly bu i'r Is-bwyllgor

 

BENDERFYNU'N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:

 

PENDERFYNODD YR IS-BWYLLGOR YN UNFRYDOL, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid atal trwydded bersonol Mr Jones am gyfnod o 2 wythnos.

 

RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:

 

  • Daeth yr awdurdod trwyddedu yn ymwybodol o gollfarn y deiliad trwydded bersonol am drosedd berthnasol drwy'r wasg yn hytrach na thrwy ddeiliad y drwydded bersonol.

 

  • Derbyniwyd y wybodaeth a ddarparwyd gan Heddlu Dyfed-Powys ynghylch faint o alcohol yr oedd deiliad y drwydded bersonol wedi'i yfed ar adeg y digwyddiad.

 

O gofio cyfrifoldebau deiliad y drwydded bersonol fel deiliad trwydded bersonol, mae'r Is-bwyllgor yn fodlon bod ei benderfyniad (a amlinellir uchod) yn briodol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

3.

MR LUIGI PRESUTTI - DEILIAD TRWYDDED BERSONOL pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd Trwyddedu, yn sgil cyhoeddi dogfennaeth y cyfarfod, fod ymholiad wedi codi mewn perthynas ag agwedd ar y troseddau a oedd yn cael eu hystyried. Er mwyn galluogi'r Awdurdod i gael yr eglurhad gofynnol gan Heddlu Dyfed-Powys, gofynnwyd i'r Is-bwyllgor ohirio ystyried y mater am gyfnod o 1 mis.

 

Ar ôl ystyried y sylwadau llafar a oedd wedi dod i law:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried Trwydded Bersonol Mr Luigi Presutti am 1 mis.

 

RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

  • Derbyniwyd awgrym yr awdurdod trwyddedu bod angen eglurhad pellach gan Heddlu Dyfed-Powys ynghylch y troseddau a oedd yn cael eu hystyried.

 

Felly, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod ei benderfyniad (a amlinellir uchod) yn angenrheidiol ar gyfer ystyried y mater.