Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu A - Dydd Iau, 20fed Ebrill, 2023 2.00 yp

Lleoliad: Siambr- Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. 

 

2.

CAIS I DROSGLWYDDO TRWYDDED SAFLE AC AMRYWIO'R GORUCHWYLIWR SAFLE DYNODEDIG.STAMPS, 69 STRYD STEPNEY, LLANELLI SA15 1AA pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor fod cais wedi ei dderbyn gan Aaron Lee Coelho am drosglwyddo trwydded safle ac amrywio'r goruchwyliwr safle dynodedig yn 'Stamps', 69 Stryd Stepney, Llanelli.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

 

·       Atodiad A – Copi o'r cais;

·       Atodiad B – Sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys.

 

Nododd yr Is-bwyllgor hefyd sylwadau pellach gan Heddlu Dyfed-Powys dyddiedig 18 Ebrill 2022, a oedd wedi'u dosbarthu i'r holl bartïon ac wedi'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor ers dosbarthu'r agenda.

 

Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau ar lafar gan y Rhingyll Ben Ashton ar ran Heddlu Dyfed-Powys a gyfeiriodd at ei sylwadau ysgrifenedig. Cadarnhaodd y Rhingyll Ashton fod yr heddlu wedi gwrthwynebu'r cais fel y'i cyflwynwyd am y rhesymau oedd wedi'u nodi yn y sylwadau ysgrifenedig.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu ynghylch ei sylwadau.

 

Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau llafar gan Mr E. Smith, lesddaliwr y safle, a Mr. A.L. Coelho, yr ymgeisydd, a oedd yn cefnogi'r cais ac yn ymateb i sylwadau'r heddlu.

 

Rhoddwyd cyfle i bawb oedd yn bresennol holi Mr. Smith a Mr. Coelho ynghylch y sylwadau a wnaed. 

 

Felly bu i'r Is-bwyllgor

 

BENDERFYNU'N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol. 

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:

 

PENDERFYNODD YR IS-BWYLLGOR YN UNFRYDOL, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid gwrthod y cais.

 

RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:

 

1.   Roedd gan Mr Coelho euogfarn droseddol yn 2015 am affráe.

2.   Roedd gan Jordan Parry nifer o euogfarnau troseddol, gan gynnwys euogfarnau am droseddau'n ymwneud â chyffuriau a throseddau treisgar. Roedd rhai o'r euogfarnau hyn yn ymwneud â throseddau cyfundrefnol.

3.   Roedd chwaer Mr Coelho ynghlwm wrth yr un troseddau yn ymwneud â chyffuriau â Mr Parry.

4.   Roedd y safle wedi agor ar 31 Mawrth ac ers hynny roedd sawl achos o droseddau ac anrhefn wedi bod ar y safle.

5.   Roedd y safle mewn ardal oedd wedi ei chlustnodi yn Natganiad Polisi Trwyddedu y Cyngor yn fan problemus o ran Troseddau ac Anhrefn.

6.   Roedd Jordan Dale Parry yn ffrind i Mr Ethan Smith, y lesddaliwr.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn rhoi pwys ar farn yr heddlu.

 

Nododd yr Is-bwyllgor nad oedd pryderon ac ofnau ynghylch beth allai ddigwydd pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu yn ystyriaethau perthnasol oni bai bod tystiolaeth go iawn i'w cefnogi. Ym marn yr Is-bwyllgor, roedd y digwyddiadau diweddar ar y safle a'r euogfarnau troseddol a amlinellwyd yn gyfystyr â thystiolaeth go iawn a oedd yn cefnogi'r pryderon oedd gan yr heddlu am yr ymgeisydd a'i gymheiriaid.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor sylw penodol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.