Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH YNGHYLCH A FATERION ARIANNOL NEU FUSNES UNRHYW UNIGOLYN PENODOL (GAN GYNNWYS YR AWDURDOD SY'N DAL Y WYBODAETH HONNO). OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf. |
|
DEDDF TRWYDDEDU 2003 - CAIS YN YMWNEUD Â DOSBARTHIAD FFILM Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gafwyd gan Ms Carys Ifan, ar ran Canolfan S4C Yr Egin, yn gofyn am argymhelliad ynghylch caniatáu i blant wylio ffilmiau a oedd yn ddiddosbarth yn flaenorol.
Nododd yr Is-bwyllgor y dylai'r ffilmiau a ddangosir gael argymhelliad ynghylch caniatáu i blant eu gwylio a roddwyd naill ai gan gorff Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain neu gan yr Awdurdod Trwyddedu perthnasol, a hynny er mwyn bodloni gofynion Deddf Trwyddedu 2003.
Er mwyn galluogi'r Is-bwyllgor i wneud yr argymelliadau gofynnol ynghylch caniatáu i blant wylio'r ffilmiau, cafodd gyfle i wylio'r ffilmiau, gan roi ystyriaeth i'r canllawiau ynghylch y graddau oedran a luniwyd gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain.
Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd gerbron,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y ffilmiau o'r enw 'Affairs of the Art', 'Other Half', 'Sauna', 'Freedom Swimmer', 'In Nature', 'Shift', 'NOMINO SUKUNE’, 'Crafty Witch' a 'Blending In' yn cael eu dosbarthu’n ffilmiau gradd 15. |