Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu A - Dydd Mawrth, 14eg Rhagfyr, 2021 2.00 yp

Lleoliad: Remote Meeting - ,. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

CAIS AM ADOLYGU TRWYDDED SAFLE - SOUTH STAR, 2 BRYNALLT TERRACE, LLANELLI, SIR GAR, SA15 1NB. pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Heddlu Dyfed-Powys am adolygu trwydded safle ar gyfer South Star, 2 Teras Brynallt, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 1NB.  Gofynnwyd am adolygiad oherwydd bod gan yr Heddlu bryderon ynghylch diffyg rheolaeth ddifrifol yn y safle uchod ar ôl i gwynion ddod i lawr ac ar ôl ymweliad gan Heddlu Dyfed-Powys a Swyddog Cydymffurfaeth - Covid o Gyngor Sir Caerfyrddin.

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A – Copi o'r cais.

Atodiad B - Sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu.

Atodiad C – Sylwadau a gyflwynwyd gan y Safonau Masnach.

Atodiad D – Sylwadau a gyflwynwyd gan Iechyd yr Amgylchedd.

 

Rhoddodd Mr David Bizby, Cynrychiolydd Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys, fanylion am y cais i'r Is-bwyllgor ar ran y Prif Gwnstabl.

 

Bu i gynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu wneud sylwadau ar lafar a chyfeiriodd at y sylwadau y manylwyd arnynt yn Atodiad B, a chafwyd sylwadau ar lafar hefyd gan y Safonau Masnach (gan gyfeirio at Atodiad C) ac Iechyd yr Amgylchedd (gan gyfeirio at Atodiad D). 

 

Roedd Mr V Moholkar, Deiliad y Drwydded Safle, Ms Davies a Mr Morgan sy'n rheoli'r South Star o ddydd i ddydd hefyd yn bresennol.

 

Rhoddwyd cyfle i bawb ofyn cwestiynau i'r ymgeisydd am ei sylwadau ac i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y cynrychiolwyr.

 

 

 

Yna PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan yr Is-bwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Yn ystod y sesiwn preifat, ar ôl i'r Is-bwyllgor ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid ymdrin â'r cais fel a ganlyn;

 

2.1    Bod yr 13 o amodau trwydded y gofynnwyd amdanynt gan yr Heddlu yn y cais am adolygiad yn cael eu hychwanegu at y drwydded ac eithrio bod amod 9 yn cael ei newid er mwyn bod yn berthnasol ar ôl 9pm yn unig;

 

2.2    Bod Deiliad y Drwydded Safle yn cael ei atgoffa o bwysigrwydd darparu'r wybodaeth gyswllt ddiweddaraf i'r Awdurdod Trwyddedu ar gyfer Deiliad y Drwydded Safle a Goruchwylydd Dynodedig y Safle bob amser.

 

Y Rhesymau

 

Wrth benderfynu ar y cais, gwnaeth yr Is-bwyllgor y canfyddiadau canlynol;

 

  1. Bu nifer o gwynion i'r heddlu ac i awdurdodau cyfrifol eraill ynghylch niwsans s?n ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y safle neu'n gysylltiedig ag ef.

 

  1. Bu nifer o achosion pan oedd y safle wedi cael ei weithredu mewn modd oedd yn torri rheoliadau COVID a oedd mewn grym bryd hynny.

 

  1. Ar 11 Medi 2021 roedd Mr Nigel Brain yn ymosodol ac yn anghwrtais tuag at y swyddog heddlu a'r swyddog gorfodi COVID gan eu gorfodi i adael y safle drwy eu gwthio.

 

  1. Pan ddaeth swyddogion yr heddlu i'r safle wedyn i weld darn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.