Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE 11 COWELL STREET, LLANELLI, SA15 1UU pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Mr Aran Baker am drwydded safle ar gyfer 11 Stryd Cowell, Llanelli, SA15 1DUU i ganiatáu'r canlynol:

 

·         Cyflenwi Alcohol - Dydd Llun i ddydd Sul 08:00–01:00,

·         Oriau Agor - Dydd Llun i ddydd Sul 08:00-01:00

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

 

·         Atodiad A – Copi o'r cais

·         Atodiad B - Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu

·         Atodiad C – Sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

·         Atodiad D – Sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd

·         Atodiad E - Sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau fel y nodwyd yn Atodiad B a hefyd at y sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys (Atodiad C) a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd (Atodiad D). Dywedwyd wrth yr Is-bwyllgor fod yr ymgeisydd wedi newid yr oriau gweithredu arfaethedig i ddod i ben bellach am 11.00 p.m. a'i fod wedi derbyn yr amodau a gynigiwyd gan yr awdurdodau cyfrifol.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed. 

 

Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau llafar gan y gwrthwynebwyr yn ail-gyflwyno'r wybodaeth a nodwyd yn Atodiad E yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi'r gwrthwynebwyr ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Yna rhoddwyd cyfle i Mr Baker (yr Ymgeisydd) gyflwyno'i sylwadau ac ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebwyr. Cadarnhaodd ei fod wedi derbyn y sylwadau a wnaed gan yr Heddlu ac Awdurdodau Iechyd y Cyhoedd ynghylch lleihau oriau agor.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r ymgeisydd am ei sylwadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:

 

PENDERFYNWYD yr Is-bwyllgor, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid caniatáu'r cais yn amodol ar yr amodau trwydded y cytunwyd arnynt.

RHESYMAU:

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

  1. Nid oedd y safle wedi cael trwydded safle o'r blaen.
  2. Nid oedd dim hanes o gwynion na chamau gorfodi ar y safle.
  3. Nid oedd dim un o'r awdurdodau cyfrifol wedi gwrthwynebu caniatáu'r drwydded mewn egwyddor.
  4. Mae'r ymgeisydd wedi cytuno i'r amodau ar y drwydded yr oedd yr awdurdodau cyfrifol yn gofyn amdanynt.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Awdurdodau Cyfrifol, yn enwedig yr Heddlu.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad yw pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallant roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Nododd yr Is-bwyllgor y pryderon a godwyd gan y bobl leol hynny a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau