Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu A - Dydd Mawrth, 18fed Awst, 2020 9.30 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

CAIS AM ADOLYGU TRWYDDED SAFLE SANTA CLARA, SANCLÊR, CAERFYRDDIN, SIR GAR SA33 4EE pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i bawb a oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a dywedodd wrth yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Heddlu Dyfed-Powys am adolygu trwydded safle ar gyfer Santa Clara, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin yn dilyn ymweliad â'r safle gan yr Heddlu a Swyddog Trwyddedu'r Cyngor, yn ogystal â chwynion a gyflwynwyd, a oedd wedi nodi diffyg rheolaeth a threfn ar y safle.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A - gwybodaeth gefndir am yr adolygiad a chopi o'r cais;

Atodiad B – sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu;

Atodiad C – Sylwadau eraill.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad, gan ddweud, yn dilyn hynny, ei fod wedi siarad â Goruchwylydd Penodedig y Safle a Deiliad y Drwydded Safle i drafod y cais. O ganlyniad i'r trafodaethau, gwirfoddolodd Mr Pearce i roi'r gorau i fod yn Oruchwylydd Penodedig y Safle a derbyniwyd yr amodau ychwanegol a restrwyd yn Atodiad A yn amodol ar newid amod rhif 18, ar gais Awdurdod yr Heddlu i'w gwneud yn ofynnol i gael Tystysgrif Cymhwyster Deiliad Trwydded Bersonol Lefel 2 o fewn un mis.

 

Dywedodd hefyd fod yr heddlu, yn dilyn y trafodaethau hynny, yn diddymu eu hargymhellion yn gofyn am atal y drwydded safle am dri mis a diswyddo Mr Pearce fel Goruchwylydd Penodedig y Safle.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad a dywedodd fod yr Awdurdod Trwyddedu'n cefnogi'r mesurau diwygiedig a gynigiwyd gan yr heddlu, a bod yr Awdurdod yn ystyried bod y mesurau hyn yn briodol ac yn gymesur.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Mewn ymateb i'r sylwadau a gafwyd, dywedodd Mr Reynolds, deiliad y drwydded, wrth yr Is-bwyllgor nad oedd yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ar y safle bob amser ac nad oedd wedi cael unrhyw broblemau blaenorol ar y safle. 

 

Rhoddwyd cyfle i bawb oedd yn bresennol ofyn cwestiynau i Mr Reynolds, deiliad y drwydded.

 

Galwyd ar Mr Richard Pearce, Goruchwylydd Penodedig y Safle, i annerch yr Is-bwyllgor fel tyst i gefnogi deiliaid y drwydded. Cyfeiriodd Mr Pearce at ei sylwadau fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i bawb oedd yn bresennol ofyn cwestiynau i Mr Pearce.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan yr Is-bwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a'r Swyddfa Gartref:-

 

PENDERFYNWYD hefyd:

 

2.1

Y dylid ychwanegu’r amodau trwydded ychwanegol yr oedd yr Heddlu a'r deiliaid trwydded safle wedi cytuno arnynt yn at y drwydded, a chydymffurfio â hwy cyn pen 3 mis (ac eithrio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.