Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
CAIS AM DRWYDDED SAFLE LLANELLI WANDERERS RFC, STRADEY PARK AVENUE, LLANELLI SA15 4BT. PDF 327 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gadawodd yr Is-bwyllgor Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 9.35am ac ailymgynullwyd ar y safle am 10.15am, er mwyn gweld y safle uchod lle cafwyd cyfle i weld y cyfleusterau mewnol ac allanol a lleoliad eiddo'r gwrthwynebwyr. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 11.30am i ystyried y cais.
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod.
Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Glwb Rygbi Crwydriaid Llanelli am drwydded safle mewn perthynas â'r safle uchod i ganiatáu'r canlynol:-
Cyflenwi Alcohol a Cherddoriaeth a Recordiwyd - o ddydd Mercher i ddydd Sul 12:00 – 23:30,
Oriau Agor: Dydd Mercher - Dydd Sul 12:00-00:00,
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A - copi o'r cais Atodiad B - sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu Atodiad C - sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys Atodiad D - sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.
 chytundeb yr holl bartïon, dosbarthwyd copïau o ddogfennau ychwanegol i'r Is-bwyllgor a oedd yn cynnwys newidiadau i'r amodau a gynigiwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn y Cyngor; cynllun yn dangos lleoliad eiddo'r gwrthwynebwyr mewn perthynas â'r safle/eiddo y cyfeiriwyd ato yn y cais, ynghyd ag e-bost gan yr ymgeisydd yn diwygio'r cais drwy eithrio chwarae cerddoriaeth a recordiwyd yn hwyrach na 23:00. Yn ogystal, cafodd yr Is-bwyllgor ohebiaeth ychwanegol gan un o'r gwrthwynebwyr i'r cais arfaethedig, a oedd wedi'i chyflwyno'n flaenorol i'r ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad, ac argymhellodd petai'r Is-bwyllgor yn penderfynu caniatáu'r cais bod yr amodau awgrymedig a gynigiwyd gan Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd (fel y'i diwygiwyd) yn cael eu gosod ar y drwydded.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd at benderfyniad yr ymgeisydd i dynnu elfen o'r cais yn ei hôl mewn perthynas â chwarae cerddoriaeth a recordiwyd tan 23:30. Rhoddodd wybod i'r Is-bwyllgor, yn dilyn newidiadau i'r Ddeddf Trwyddedu a Dadreoli Adloniant Rheoledig, fod hawl awtomatig gan unrhyw safle â thrwydded alcohol i chwarae cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth a recordiwyd rhwng 8:00am a 11:00pm, heb i hynny ymddangos ar y drwydded safle neu heb unrhyw amodau ynghlwm wrth y drwydded honno. Fodd bynnag, petai chwarae cerddoriaeth yn achosi niwsans, roedd y ddeddfwriaeth yn caniatáu cyflwyno cais am adolygiad o'r hawl honno.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad C i'r adroddiad, a gofynnodd am osod y 13 amod awgrymedig a nodwyd ynddo ar y drwydded fel rhai angenrheidiol a chymesur ar gyfer hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu. Roedd yr ymgeisydd wedi cytuno ar y rheiny.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |