Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

DEILIAD TRWYDDED BERSONOL - RYAN JONES pdf eicon PDF 221 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i adroddiad yn gofyn am ddiddymu'r Drwydded Bersonol a roddwyd yn flaenorol gan yr Awdurdod ar 24 Tachwedd, 2005 i Mr Ryan Jones o Fox Inn, Fox Corner, Worplesdon, Guidford, Surrey GU3 3PP.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Trwyddedu wybod i'r Is-bwyllgor am amgylchiadau'r cais i ddiddymu. Rhoddwyd gwybod hefyd am farn Heddlu Dyfed-Powys ynghylch y mater, a oedd yn argymell atal y drwydded bersonol. 

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi cyfweld â Mr Jones ynghylch y materion a godwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu a Heddlu Dyfed-Powys.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i roi ei benderfyniad

 

PENDERFYNWYD diddymu'r Drwydded Bersonol a roddwyd i Mr Ryan Jones.

 

Rhesymau

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:-

 

  1. Rhoddwyd trwydded bersonol i Mr Jones ar 24 Tachwedd 2005
  2. Mae Mr Jones wedi cael ei ddyfarnu'n euog am droseddau perthnasol ers 6 Ebrill 2017
  3. Roedd y drwydded bersonol gan Mr Jones wedi'i atal yn flaenorol gan y llysoedd am 6 mis yn 2013 ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog am droseddau perthnasol.
  4. Roedd Mr Jones wedi methu â rhoi gwybod i'r Awdurdod Trwyddedu am y collfarnau hynny a'r newid yn ei gyfeiriad. Roedd y rheiny yn droseddau pellach.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Heddlu. Fodd bynnag, o gofio bod trwydded Mr Jones wedi cael ei hatal yn flaenorol am 6 mis gan y Llys Ynadon, roedd yr Is-bwyllgor o'r farn na fyddai cyfnod atal pellach yn ddigonol i hyrwyddo'r amcan o ran atal troseddau. Yn benodol, nid oedd Mr Jones wedi dysgu'i wers o'r cyfnod atal blaenorol.

 

Nid oedd yr Is-bwyllgor yn derbyn y dystiolaeth gan Mr Jones ynghylch yr effaith y byddai diddymu ei drwydded bersonol yn ei chael ar y safle lle mae'n gweithio. Ni fyddai penderfyniad yr Is-bwyllgor yn dod i rym tan fod y cyfnod apelio statudol wedi dod i ben. Byddai hynny'n rhoi amser i'r deiliad trwydded safle benodi rhywun arall yn Oruchwylydd Penodedig y Safle.

 

Ar ôl ystyried y ffeithiau uchod, a'r sylwadau a gyflwynwyd, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon ei fod yn briodol iddo arfer ei ddisgresiwn i ddiddymu trwydded bersonol Mr Jones er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu o ran atal troseddau ac anhrefn. 

 

Ar ben hynny roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cam gweithredu hwn yn ymateb cymesur i'r materion a gafodd eu dwyn i'w sylw.

 

 

3.

DEILIAD TRWYDDED BERSONOL - NIGELLUS JUDE VAZ pdf eicon PDF 222 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Arweinydd Trwyddedu at yr adroddiad yn gofyn am ddiddymu'r Drwydded Bersonol a roddwyd i Mr Nigellus Jude Vaz yn flaenorol a rhoddwyd gwybod bod Mr Vaz wedi gofyn am ohirio'r gwrandawiad ers i'r agenda gael ei ddosbarthu gan na fyddai'n gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod ar y diwrnod hwnnw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried diddymu Trwydded Bersonol Mr Vaz tan 10 Medi, 2019 a rhoi gwybod i Mr Vaz pe na bai'n bresennol/gallu dod i'r gwrandawiad ar y dyddiad hwnnw, mae'n bosibl y bydd y mater yn cael ei ystyried yn ei absenoldeb.

 

4.

DEILIAD TRWYDDED BERSONOL - RICHARD CRAIG PRYCE BUNFORD pdf eicon PDF 221 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Arweinydd Trwyddedu at yr adroddiad yn gofyn am ddiddymu'r Drwydded Bersonol a roddwyd i Mr Richard Craig Pryce Bunford yn flaenorol a gofynnwyd a fyddai modd gohirio ystyried yr adroddiad tan 10 Medi, oherwydd yr anawsterau a wynebwyd o ran dod o hyd i Mr Bunford, er mwyn galluogi ymchwiliadau priodol i gael eu cynnal. Dywedodd, os nad yw'n bosibl dod o hyd i Mr Bunford erbyn yr adeg honno, mae'n bosibl y gofynnir i'r Is-bwyllgor ystyried diddymu'r drwydded yn ei absenoldeb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried diddymu Trwydded Bersonol Mr Bunford tan 10 Medi, 2019.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau