Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
CAIS AM DRWYDDED SAFLE GERDDI ABERGLASNEY, LLANGATHEN, CAERFYRDDIN, SA32 8QH. PDF 141 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gadawodd yr Is-bwyllgor Neuadd y Sir, Caerfyrddin, am 10.05 a.m. ac ailymgynnull am 10:30 a.m. yng Ngerddi Aberglasne, Llangathen er mwyn gweld yr eiddo a chael cyfle i archwilio'r cyfleusterau. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 11:40 a.m. i ystyried y cais.
Rhoddodd y Cyfreithiwr wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod. Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Ymddiriedolaeth Adfer Aberglasne am drwydded safle mewn perthynas â'r safle uchod i ganiatáu'r canlynol:
· Cyflenwi Alcohol, Cerddoriaeth Fyw, a Cherddoriaeth a Recordiwyd o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 10:00 a 00:00. · Lluniaeth hwyrnos o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 23:00 a 00:00. · Oriau agor safonol o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 10:00 a 18:00.
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
· Atodiad A – copi o'r cais. · Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu. · Atodiad C - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys. · Atodiad D – sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd. · Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.
 chytundeb yr holl bartïon, dosbarthwyd copïau o ddogfennau ychwanegol i'r Is-bwyllgor a oedd yn cynnwys newidiadau a gynigiwyd gan yr Awdurdodau Cyfrifol i'r amod a argymhellwyd (rhif 5 a nodir ar dudalen D2) a chynllun yn nodi lleoliad eiddo'r gwrthwynebwyr mewn perthynas â'r safle yn y cais.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad B i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft y cyfeirir atynt uchod.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd at ei sylwadau fel y manylwyd arnynt yn Atodiad D i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft y cyfeirir atynt uchod. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi ymgeisydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ynghylch y sylwadau a wnaed.
Wedyn, cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan Mr Davies a Miss Davies a oedd yn mynegi pryderon ac yn gwrthwynebu caniatáu'r drwydded safle am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Atodiad E.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd. Wedyn bu i'r ymgeiswyr ymateb i'r pryderon a'r materion a godwyd.
Ar hynny
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â'r amodau trwydded diwygiedig yr oedd yr awdurdodau cyfrifol wedi eu cynnig ac yr oedd yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt.
Y RHESYMAU:
Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y sylwadau ysgrifenedig a wnaed, yn ogystal ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |